Agenda item
Rhaglen Tai ac Adfywiad Strategol (SHARP) – Diweddariad Canol Rhaglen
Pwrpas: I roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda Rhaglen Tai ac Adfywiad Strategol y Cyngor (SHARP).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) oedd yn rhoi’r manylion ar nifer y cynlluniau eiddo Rhent Cymdeithasol a Fforddiadwy wedi’u cwblhau a’u cynnig, ynghyd â diweddariad cyffredinol ar gynnydd a pherfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu manylion o newidiadau mewn angen o ran tai ers gweithredu SHARP am y tro cyntaf a’r sail resymegol ar gyfer arolygu ac adolygu'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer yr eiddo i gael eu darparu ar gyfer gweddill y rhaglen. Adnabuwyd ffrydiau ariannu ar wahân sydd ar gael yn y dyfodol i SHARP ar gyfer datblygu eiddo Rhent Cymdeithasol a Rhent Fforddiadwy gan y Cyngor a North East Wales (NEW) Homes.
Mae Camau 1 a 2 o SHARP i gyd wedi’u cwblhau ac mae disgwyl i waith adeiladu ar gyn Ganolfan Melrose, Shotton, gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018. Mae gwaith adeiladu ar safleoedd Cam 3 yn dechrau ym mis Medi a Maes Gwern, yr Wyddgrug; Llys Dewi, Penyffordd, Treffynnon; a chyn Depo’r Cyngor, Dobshill.
O ganlyniad i newidiadau polisi ynghylch Diwygio'r Gyfundrefn Les sydd wedi digwydd ers cynllunio cychwynnol o ddarparu adeiladau newydd SHARP, roedd y Cyngor yn gweld symudiad yn y math o alw am faint eiddo o’i gymharu â'r hyn â ddarparwyd yn flaenorol trwy dai cymdeithasol. O ganlyniad roedd galw sylweddol am eiddo nad oedd ar gael yn y stoc tai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, gan gynyddu’r amseroedd aros a'r niferoedd ar y gofrestr tai, yn ogystal â chael effaith ar nifer y bobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref i’r Cyngor.
Mae’r trefniadau ar gyfer y cynlluniau o fewn y cam nesaf o’r rhaglen ar gyfer Eiddo Rhent Cymdeithasol ac Eiddo Rhent Fforddiadwy wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Os bydd yr holl gynlluniau hynny’n profi’n ymarferol i symud ymlaen i'r cam adeiladu, byddent yn darparu 135 o unedau ychwanegol. O ystyried y galw cynyddol am Dai Rhent Cymdeithasol ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD), cynigwyd bod y rhannu deiliadaeth gwreiddiol o 200 eiddo Rhent Cymdeithasol y Cyngor a 300 o eiddo Rhent Fforddiadwy yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r data angen o ran tai fel a ganlyn:
Deiliadaeth |
Nifer Targed Gwreiddiol o Unedau |
Nifer wedi’u Cwblhau / Cymeradwyo gan y Cyngor |
Nifer o Unedau Ychwanegol Arfaethedig |
Cyfanswm Nifer o Eiddo Arfaethedig |
Amrywiant o’r Targed Gwreiddiol |
Rhent Cymdeithasol Cyngor
|
200 |
173 |
134 |
307 |
+107 |
Rhent Fforddiadwy a Pherchnogaeth Cartref Cost Isel
|
300 |
120 |
11 |
131 |
-169 |
Cyfanswm |
500 |
293 |
135 |
428 |
-72 |
Fel arfer da mae’r Cyngor wedi ymgymryd ag adolygiad o’r trefniadau yn eu lle i sicrhau fod pobl yn cadw at y prosesau a’r cytundeb, a hefyd yn parhau i adlewyrchu Gwerth am Arian, ynghyd ag unrhyw argymhellion ar gyfer gwersi wedi’u dysgu neu feysydd i’w hadolygu ymhellach a gwelliannau i’w gwneud.Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n barod ar yr argymhellion allweddol oedd wedi dod i’r amlwg yn yr adroddiad terfynol a dderbyniwyd ac mae manylion i’w cael yn adroddiad y Cabinet.
Manylion wedi’u darparu ar gyfer cyllid i SHARP yn y dyfodol, y Grant Tai Fforddiadwy a’r cap ar fenthyca ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r adolygiad o’r gymysgedd deiliadaeth i gwrdd yn well â'r galw. Cytunodd y Cynghorydd Bithell gyda hynny ond dywedodd ei fod wedi’i siomi nad oedd mwy o bobl leol wedi’u cyflogi trwy SHARP. Eglurodd y Prif Weithredwr bod prinder gweithwyr llafur medrus yn lleol a oedd ar gael neu gyda’r gymhwysedd angenrheidiol i weithio ar SHARP. Fodd bynnag, er bod y perfformiad ddim yn cwrdd â’r targed am wariant a llafur BBaCh yn Sir Y Fflint, wrth ystyried y targed wedi’i fonitro ar gyfer yr ardal leol, a oedd o fewn radiws o 40 milltir, roedd gwelliant sylweddol a’r targed wedi’i ragori. Darparodd hefyd fanylion o'r Rhaglen 'Building Futures’ dan arweiniad Wates ac mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf. Mae’r rhaglen wedi’i gynllunio i roi hwb i yrfa pobl leol mewn adeiladwaith ac i gau’r bwlch i gyflogaeth.
Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid cyflwyno eitem yn y dyfodol ar agenda’r Cabinet yn seiliedig ar effeithiolrwydd y Rhaglen ‘Building Futures’.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y sail resymegol am newid y gymysgedd deiliadaeth ar gyfer SHARP yn 303 eiddo Rhent Cymdeithasol arfaethedig a 197 eiddo Rhent Fforddiadwy ac Ecwiti a Rennir arfaethedig (yn ddarostyngedig i astudiaeth ddichonoldeb manwl, gwaith arfarnu a chymhwysedd benthyca cynyddol) yn cael ei gymeradwyo; a
(b) Chymeradwyo i weithredu argymhellion yr Adroddiad Adolygiad.
Dogfennau ategol:
- Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Mid-Programme Update, eitem 229. PDF 169 KB
- Enc. 1 for Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Mid-Programme Update, eitem 229. PDF 55 KB
- Enc. 2 for Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Mid-Programme Update, eitem 229. PDF 89 KB
- Enc. 3 for Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Mid-Programme Update, eitem 229. PDF 66 KB