Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 9) ar Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 9)

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).  Darparu’r sefyllfa ddiweddaraf ar Mis 9 rhaglen gyfalaf 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 ym Mis 9.  Byddai’r ddau’n cael eu hystyried gan y Cabinet ar 19 Chwefror 2019.

 

Monitro’r Gyllideb Fonitro

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd gwarged gweithredol o £0.233 miliwn a oedd yn adlewyrchu symudiad cadarnhaol o £0.207 miliwn o Fis 8.  Yr amrywiaethau allweddol oedd costau ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth Anghenion Addysgol Arbennig wedi’u gwrthbwyso gan ostyngiad yng nghostau’r Rhwydwaith Priffyrdd yn dilyn dyraniad grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.  Cyhoeddwyd incwm annisgwyl ychwanegol ar gyfer Cyllid Canolog a Chorfforaethol, ynghyd â swm a ddelir yn ganolog ar gyfer chwyddiant ansafonol ar gyfer costau egni nad oeddent yn ofynnol mwyach yn ystod y flwyddyn.

 

Ni fu unrhyw newid i’r arbedion arfaethedig cyffredinol lle’r oedd disgwyl i 96% gael ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Byddai manylion pellach am Gronfeydd Wrth Gefn a Balansau yn cael eu rhannu yn y cyfarfod briffio a gynhelir ar ôl y cyfarfod.  Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y balans o Gronfeydd Wrth Gefn a oedd ar gael oedd £5.985 miliwn, gan ystyried yr amcanestyniadau diweddaraf.  Roedd y sefyllfa bresennol ar y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos y byddai’r rhain yn lleihau i £7.829 miliwn.

 

Er ei fod yn canmol ansawdd adroddiadau misol y Gyllideb Refeniw, dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd lefel y manylion yn cynorthwyo’r Aelodau i werthuso’r gwariant portffolio.  Nododd gost benthyca tymor byr fel maes arall yr oedd angen gwybodaeth bellach amdano.

 

Disgrifiodd y Prif Weithredwr y lefel o waith sydd ei hangen i gynhyrchu’r adroddiadau manwl.  Anogwyd yr aelodau i godi meysydd penodol o ddiddordeb yn uniongyrchol gyda swyddogion unrhyw amser er mwyn gallu darparu nodiadau briffio.  Gallai’r Aelodau godi unrhyw faterion portffolio hefyd i’w cynnwys ym Mlaenraglenni Gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Dangosodd crynodeb o newidiadau i’r rhaglen ar gyfer y cyfnod a nodwyd cyfanswm cyllideb diwygiedig o £71.192 miliwn, yn bennaf oherwydd cyllid grant ychwanegol.  Cafwyd crynodeb o geisiadau am symiau o £1.815 miliwn i’w cario ymlaen a nodwyd dau ddyraniad ychwanegol.  Dangosodd y sefyllfa gyllido gyffredinol ar gyfer y cyfnod tair blynedd ddiffyg o £1.428 miliwn cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at wariant ar drefi yn y sir a chwestiynodd y buddsoddiad a wnaed yng ngorllewin Sir y Fflint, ac yn benodol Dociau Mostyn.

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod trefi’r sir a oedd wedi’u rhestru yn seiliedig ar saith maes y Cynllun Llesiant a bod dadansoddiad o’r gwariant yn yr ardal i’w weld yn yr atodiad.

 

O ran y cronfeydd Statws Sengl/Cyflogau Cyfartal a oedd wedi’u clustnodi, hysbyswyd y Cynghorydd Bateman bod y gweddill yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau cyflogaeth, fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor Sir, ac y byddent wedi’u gwario’n llwyr cyn hir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 19 Chwefror ac yn cadarnhau nad oes unrhyw bryderon y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet y mis hwn.

Dogfennau ategol: