Agenda item
Cydnabyddiaeth i Ian Bancroft
Pwrpas: Cydnabod cyfraniad a wnaed i’r Cyngor gan Ian Bancroft, Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a adawodd yr Awdurdod ym mis Awst i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cofnodion:
Y Cadeirydd oedd y cyntaf i gydnabod y cyfraniad a wnaed i’r Cyngor gan Ian Bancroft, Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a adawodd yr Awdurdod ym mis Awst 2018 i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Soniodd y Prif Weithredwr am rinweddau personol Ian, ei frwdfrydedd a’i egni, ac y byddai hiraeth amdanynt, yn ogystal â’i allu proffesiynol. Adlewyrchodd ar y 4 blynedd y bu Ian gyda’r Awdurdod a soniodd am effaith gadarnhaol yr hyn oedd Ian wedi ei gyflawni o safbwynt darparu newid sefydliadol a'i arbenigedd a’i sgil o ran gwthio prosiectau drwy strategaeth i dasg a gorffen. Roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag Ian yn y dyfodol fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at adfywio ardal blaendraeth y Fflint a dywedodd bod gwaith a brwdfrydedd Ian wedi gwthio'r prosiect yn ei flaen a bod hynny yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan Bwyllgor Adfywio Cyngor Tref y Fflint.
Talodd y Cynghorydd Aaron Shotton deyrnged i Ian am ei weledigaeth a'i waith yn ystod ei wasanaeth gyda'r Awdurdod oedd wedi cynnal gwasanaethau ac wedi cryfhau cymunedau lleol, a hynny yn ystod caledi parhaus. Cyfeiriodd at brofiad proffesiynol Ian, ei sgil, ei steil a'i ddull arloesol, a soniodd am y gwaith roedd wedi ei wneud wrth drosglwyddo Pwll Nofio Cei Connah o ofal yr Awdurdod i Cambrian Aquatics, a throsglwyddo gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yr Awdurdod i Aura Leisure and Libraries Limited, fel enghreifftiau o’r llwyddiant roedd Ian wedi ei gael drwy weithio gyda’r cymunedau lleol i ddatblygu modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau. Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei fod yn edrych ymlaen at weithio gydag Ian a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar lefel ranbarthol yn y dyfodol, ac ar y Cais Twf.
Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton fel aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a mynegodd ef hefyd ei ddiolch i Ian am ei brofiad a'i arbenigedd proffesiynol. Cyfeiriodd at yr hyder a'r sicrwydd roddodd Ian i’r Pwyllgor wrth eu sicrhau mai darparu gwasanaeth drwy fodelau darparu amgen a throsglwyddiadau asedau cymunedol oedd y ffordd orau i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Dymunodd bob llwyddiant i Ian yn ei rôl newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am y cymorth a'r cyngor roedd Ian wedi ei roi yn hael ar faterion oedd yn ymwneud â newid sefydliadol a throsglwyddiadau asedau cymunedol. Llongyfarchodd Ian ar ei benodiad a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at drosglwyddiad ased gymunedol llwyddiannus Canolfan Hamdden Treffynnon. Soniodd am effaith y broses o drosglwyddiadau asedau cymunedol yn gyffredinol a oedd, yn Nhreffynnon, wedi darparu llyfrgell newydd, canolfan hamdden wedi ei hadfywio, canolfan ffitrwydd a chrefft ymladd yn hen adeilad y llyfrgell, yn ogystal â chytundeb cymunedol rhwng y Ganolfan Hamdden ac Ysgol Treffynnon ar gyfer rheoli’r anodd y tu allan i oriau arferol. Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i ddweud bod gan Dreffynon, ar y cyd a Chyngor y Dref, y capasiti i barhau i ddarparu'r holl fanteision hyn a bod grym cydweithio a chydnabyddiaeth newydd yn bodoli bod y broses yn fwy na’r trosglwyddiadau unigol a reolir. Dywedodd bod Sir y Fflint a Threffynnon wedi cyflawni datblygiad sylweddol, oedd wedi ei arwain yn grefftus gan Ian a’i dîm am dros flwyddyn. Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai cymunedau’n dod yn fwy cryf o ganlyniad i’r gwaith oedd wedi ei wneud a diolchodd i Ian a’i dîm am ei waith a’r etifeddiaeth lwyddiannus oedd yn parhau. Dymunodd yn dda i Ian yn ei yrfa yn y dyfodol.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell ei ddiolch a’i werthfawrogiad am holl waith Ian yn Sir y Fflint. Dywedodd bod gwasanaeth gwerthfawr wedi eu cynnal er gwaetha caledi, drwy ddarparu modelau amgen, trosglwyddiadau asedau cymunedol ac ymgysylltu â chyrff a mudiadau gwirfoddol. O ganlyniad roedd darpariaeth gwasanaeth i gymunedau yn Sir y Fflint yn parhau mewn ffurf newydd ac roedd yr Awdurdod yn falch o beth sydd wedi ei gyflawni. Cydnabyddodd y Cynghorydd Bithell sgiliau a rhinweddau Ian oedd wedi golygu llwyddiant yn wyneb unrhyw heriau neu broblemau gan grwpiau neu unigolion. Llongyfarchodd Ian ar ei benodiad gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio gydag Ian drwy gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn y dyfodol.
Diolchodd y Cynghorydd Ron Davies i Ian am y gwaith roedd wedi ei wneud gyda Theatr Clwyd, ac yn benodol am y gwaith roedd wedi ei wneud o safbwynt y broses o recriwtio cyfarwyddwr Artistig a Chyfarwyddwr Gweithredol. Dymunodd yn dda i Ian yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis bod Ian, yn ei phrofiad hi, bob amser yn barod i helpu ac i ddarparu cyngor a chymorth y tu hwnt i ddisgwyliadau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at drosglwyddo ased gymunedol Canolfan Bentref Gwernymynydd a diolchodd i Ian am ei waith ar y prosiect hwn. Ategodd y sylwadau a fynegwyd eisoes gan Gynghorwyr a soniodd am lwyddiant trosglwyddiad Pwll Nofio Cei Connah i Cambrian Aquatics.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin ei fod wedi bod yn fraint gweithio gydag Ian a thalodd deyrnged i’w allu personol a phroffesiynol.
Talodd y Cynghorwyr Ted Palmer a Dave Mackie deyrngedau pellach i Ian a dywedyd bod y gwaith yr oedd wedi ei wneud wedi symud yr Awdurdod ymlaen a galluogi’r broses o ddarparu gwasanaeth i barhau gyda syniadau newydd. Diolchodd y Cynghorydd Mackie i Ian am y gwaith roedd wedi ei wneud gyda Theatr Cymru a dywedodd y byddai’n croesawu’r cyfle i’r Awdurdod weithio gydag Ian a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar faterion rhanbarthol yn y dyfodol.
Wedi cyflwyniad gan y Cadeirydd ar ran y Cyngor, diolchodd Ian i Aelodau a Swyddogion am eu geiriau caredig a dywedodd ei fod wedi mwynhau ei amser yn Sir y Fflint a gweithio gyda’r Awdurdod. Dywedodd, gan fod her caledi yn parhau, dim ond wrth i awdurdodau lleol weithio’n galed gyda'i gilydd fel gr?p 'teuluol' gyda chymunedau lleol, Aelodau a swyddogion y gellid dod o hyd i ffordd ymlaen er mwyn darganfod datrysiad i aelodau a defnyddwyr gwasanaeth i ddarparu a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus. Dymunodd bob llwyddiant i Sir y Fflint yn y dyfodol a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Awdurdod eto. Dywedodd Ian ei bod yn fraint gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus a diolchodd i’r Awdurdod am ei brofiadau yn ystod ei gyfnod yn Sir y Fflint.