Agenda item
Cofnodion
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai a 28 Mehefin 2018, a chofnodion y cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 24 Mai 2018, fel cofnod cywir.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai a 28 Mehefin 2018, a’r cyd-gyfarfod gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 24 Mai 2018.
Cofnodion 24 Mai, 2018
Ar gofnod rhif 1, dylid newid y frawddeg i adlewyrchu bod y Cynghorydd Healey i’w benodi fel y Cadeirydd.
Cofnodion 24 Mai 2018 (cyd-gyfarfod)
Ar gofnod rhif 4, gofynnodd y Cynghorydd Williams a oedd ystod ddigonol o gyrsiau galwedigaethol ar gael mewn ysgolion a dosbarthiadau'r chweched er mwyn darparu mwy o ddewisiadau i bobl ifanc. Eglurodd y Prif Swyddog bod gwaith arwyddocaol yn cael ei wneud gan ysgolion uwchradd i nodi ystod o ddewisiadau cwricwlwm i weddu’r cyrsiau’n briodol a bodloni anghenion holl ddysgwyr, o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Datganodd y Cynghorydd Heesom ei siom na dderbyniwyd y cofnodion yn gynt. Ar gofnod rhif 5, cyfeiriodd at y drafodaeth fanwl ar ddiogelu plant a dywedodd nad oedd ei gais am wybodaeth wedi ei ddilyn, gan bwysleisio ei bryderon am ddiffyg gwasanaethau ieuenctid yn ei ward. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cynghorydd Heesom wedi cael gwybod bod trefniadau yn cael eu gwneud i drefnu cyfarfod er mwyn trafod ei bryderon. Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom hefyd at yr ymdrechion i gael gwared â chlwb ieuenctid gwag o’i ward.
Cofnodion 28 Mehefin, 2018
Cofnod rhif 7: Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan David H?tch am Governors Cymru, soniodd y Prif Swyddog am Governors Cymru a sefydlwyd er mwyn cefnogi ysgolion yn ychwanegol at y gefnogaeth a hyfforddiant parhaus a ddarperir gan GwE. Cytunodd yr Awdurdod i dalu tanysgrifiad am y 12 mis cyntaf ar gyfer holl ysgolion Sir y Fflint i gael mynediad at gefnogaeth gan Governors Cymru.
Yn ystod trafodaeth am yr un eitem, holodd nifer o aelodau am gynnwys penderfyniad (a) a oedd yn seiliedig ar argymhelliad yr adroddiad i dderbyn Adroddiad Blynyddol GwE. Gwnaed y sylw nad oedd yr Adroddiad Blynyddol wedi cael ei drafod a dim ond rhan ohono a oedd wedi ei atodi i’r rhaglen, yn hytrach na’r fersiwn yn ei chyfanrwydd oedd wedi ei rannu gydag Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nodwyd bod copi o’r adroddiad llawn wedi cael ei anfon ar e-bost ar wahân i’r Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog y gwneir pob ymdrech i sicrhau cydraddoldeb yn y wybodaeth a rennir gan GwE i bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar draws y rhanbarth. Cytunodd y Pwyllgor y dylid tynnu penderfyniad (a) o’r cofnodion gan nad oedd yn gymwys.
Soniodd y Prif Swyddog y byddai pryderon am lefelau recriwtio a chadw yn yr haenau arweinyddiaeth uwch i ganolig yn cael ei gynnwys fel eitem yng Nghyfarfod nesaf Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd a bydd adborth yn cael ei roi i’r Pwyllgor.
Cofnod rhif 8: O ran ei sylwadau am ddosbarth y Chweched yng Nglannau Dyfrdwy, pwysleisiodd y Cynghorydd Williams ei gais am fanylion o fuddsoddiad y Cyngor, unrhyw gyfraniadau ariannol tuag at gludiant i’r ganolfan, rhestr o’r cyrsiau sydd ar gael, ynghyd â'r niferoedd ar y gofrestr a niferoedd a chwblhaodd y cyrsiau ar gyfer 2016-18. Eglurodd y Prif Swyddog y dylai hyn ffurfio rhan o’r drafodaeth ehangach am ddarpariaeth ôl-16, lle mae ymrwymiad i gynnal gweithdy i Aelodau. Oherwydd lefel y manylder a gweithdai sydd ar y gweill ar destunau eraill, caiff hyn ei drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Mewn ymateb i’r sylwadau pellach, eglurodd y Prif Swyddog ac Aelod Cabinet y gellid cael mynediad at ddarpariaeth alwedigaethol trwy safleoedd Coleg Cambria, tra bod Dosbarth Chweched Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar lwybr academaidd mwy traddodiadol, felly’n darparu ystod o ddewisiadau ar gyfer pobl ifanc. Cadarnhawyd hefyd y byddai Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy yn bresennol yn y gweithdy i Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y ddau ddiwygiad i gofnodion 24 Mai a 28 Mehefin 2018, cymeradwyo cofnodion y tri chyfarfod fel cofnodion cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
Dogfennau ategol:
- Minutes EY OSC 24.05.2018 - FINAL, eitem 14. PDF 45 KB
- Minutes Jt Education & Youth and SH Care OSC 24.05.18 - Final (English) (MP), eitem 14. PDF 93 KB
- Minutes 28.06.18 (ST), eitem 14. PDF 90 KB