Agenda item

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Pwrpas:        Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes yr adroddiad blynyddol a oedd yn darparu trosolwg o weithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 12 mis diwethaf ac yn adlewyrchu ar waith rhanbarthol.

 

Cyflwynwyd aelodau’r Pwyllgor i'r Prif Arolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru; Ben Carter o Fwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; a Richard Powell, Arweinydd Tîm Safonau Masnach.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl ar y cyd yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Cyflawniadau

·         Perfformiad

·         Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Diogelach

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19

 

Rhoddwyd eglurhad ar y gofynion statudol yn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r newidiadau mewn trefniadau llywodraethu oedd wedi arwain at strwythur symlach.   Ymysg y cyflawniadau roedd amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, lle’r oedd Sir y Fflint yn perfformio’n dda.   O ran rhwydweithio gyda Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru, cydnabuwyd bod rhai materion yn well eu datrys ar lefel ranbarthol.   Nodwyd manylion pedair blaenoriaeth leol ar gyfer 2018/19 yn yr adroddiad ynghyd â’r camau penodol a’u heffaith:

 

·         Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol

·         Grwpiau Troseddol Cyfundrefnol

·         Caethwasiaeth Fodern

·          Cam-fanteisio Troseddol ar Blant

 

Er yr adroddwyd cynnydd mewn troseddau yn seiliedig ar ddioddefwyr ar gyfer 2017/18, Sir y Fflint oedd â’r cynnydd lleiaf yng Ngogledd Cymru.   Eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott bod y gostyngiad cenedlaethol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn deillio o’r newidiadau i’r modd y cofnodir y drosedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Prif Arolygydd Bowcott nad oedd modd rhoi adborth i aelodau’r cyhoedd sy’n rhoi gwybod am ymddygiad amheus bob tro.   Rhoddodd sicrwydd y gweithredir ar unrhyw gudd-wybodaeth ond bod manylion  y ffynonellau yn cael eu dileu i warchod yr unigolion hynny.    Oherwydd y niferoedd uchel a alwadau y maent yn eu derbyn, roedd dulliau eraill o roi gwybod am gudd-wybodaeth nad yw'n argyfwng yn cael eu hyrwyddo megis LiveChat neu e-bost, neu drwy gyswllt gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a allai ddarparu adborth i breswylwyr.

 

Er mwyn cynorthwyo i reoli nifer y galwadau i’r rhif 101, awgrymodd y Cynghorydd Woolley y dylid cyflwyno neges awtomatig ar ôl pum munud i atgyfeirio’r rhai sy’n ffonio at ddulliau cyswllt eraill.   Cytunodd y Prif Arolygydd Bowcott y byddai'n rhannu’r awgrym.   Aeth yn ei flaen i drafod gweithrediad system ffôn newydd a fyddai’n cael ei datblygu dros amser i leihau amseroedd aros ar y ffôn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Johnson iddo rannu ei ddiolch i Gerwyn Davies (Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) am weithio gyda'r Aelodau lleol a chymunedau ar faterion yn y ward.   Mewn ymateb i gwestiwn ar y modd y cofnodir pob math o droseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'i gilydd, rhoddodd y Prif Arolygydd enghraifft o'r cymhlethdodau wrth gofnodi troseddau a dywedodd bod newid mewn ystadegau yn dangos gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnydd mewn troseddu.   Dywedodd os oes mater penodol lle bo’r Cyngor angen ystadegau yn ei gylch, gellir derbyn hyn o’r system.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom am y cysylltiadau gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac am gyfleoedd i ferched ifanc gyfrannu at rai o’r blaenoriaethau lleol.   Eglurodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes bod y Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid yn aelod o Fwrdd ‘Pobl yn Ddiogel’ a bod rhywfaint o waith rhanbarthol ar y gweill i ddatblygu dull cyson o ran y cysylltiad gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.   Dywedodd y Prif Weithredwr bod perfformiad Sir y Fflint ar flaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn gryf a bod partneriaethau da rhwng y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant.   Siaradodd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol dros Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol am ymgysylltiad gyda phobl ifanc i’w harfogi gyda’r dulliau i’w cynorthwyo i ddeall sut i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a gwaith partneriaeth ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i godi ymwybyddiaeth ymysg athrawon, Gwasanaethau Cymdeithasol ac ati.

 

Yn dilyn sylwadau am gyswllt gyda chynghorau tref a chymuned, cytunodd y Prif Arolygydd y byddai’n ailgyflwyno ymgynghoriadau chwarterol gyda chynrychiolwyr i ddarparu cyfle i drafod materion lleol.

 

Nododd y swyddogion y cais gan y Cynghorydd Jones i gael rhagor o eglurder ar y defnydd o acronymau yn yr adroddiad blynyddol nesaf.   Cyflwynodd sylwadau ar y rhestr o gyflawniadau ac roedd yn teimlo y byddai’n fwy defnyddiol dangos effaith y camau gweithredu ar berfformiad.   Fel un o'r prif gyflawniadau, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y Canolbwynt Cymorth Cynnar a oedd yn cael ei ystyried fel esiampl da yng Nghymru.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Dogfennau ategol: