Agenda item

Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18.

Darparu Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2017/18 i Aelodau’r Pwyllgor i’w hystyried a newidiadau i’r broses cymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Ferguson, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yr eitem hon trwy esbonio bod ei rôl yn cynnwys cyfrifoldeb cyfreithiol dros weinyddu cyllid a chyflwyno cyfrifon ar amser.  Esboniodd bod newid wedi bod yn y ddeddfwriaeth a oedd wedi arwain at wahanu cyfrifon y Gronfa Bensiynau oddi wrth prif gyfrifon y Cyngor.  O ganlyniad, roedd Pwyllgor y Gronfa Bensiynau bellach yn gyfrifol am gytuno’n ffurfiol ar eu cyfrifon eu hunain, lle byddai hyn wedi bod yn gyfrifoldeb i'r Cyngor yn y gorffennol gan eu bod yn rhan o gyfrifon y Cyngor.

           

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr eitem hon i Mr Worth, ymgynghorydd annibynnol a benodwyd i baratoi cyfrifon y Gronfa ar gyfer y flwyddyn bresennol nes bo swydd wag barhaol yn cael ei llenwi yn y Tîm Cyllid. Rhoddodd Mr Worth gyflwyniad cryno am ei brofiad a’i rôl bresennol yng Nghronfa Bensiynau Clwyd ac eglurodd y byddai’r cyfrifon blynyddol drafft yn cael eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) erbyn 15 Mehefin 2018.  Bydd SAC yn dechrau'r archwiliad ym mis Mehefin / Gorffennaf 2018.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig ymchwilio i arddull, fformat ac ansawdd y cyfrifon.

 

Amlinellodd Mr Worth y dylid paratoi’r cyfrifon yn ôl Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) (“Y Cod”) lle caiff cod newydd ei ddosbarthu bob blwyddyn i adlewyrchu’r newidiadau i’r Safonau Cyfrifeg. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r cyfrifon gael eu gwahanu oddi wrth gyfrifon y Cyngor. Mae Cymru bellach yn dilyn y model a fabwysiadwyd gan yr Alban dair blynedd yn ôl h.y. Nid yw cyfrifon CPLlL bellach yn cael eu cynnwys yn natganiad cyfrifon ar wahân yr awdurdod gweinyddu ond maent yn parhau i gael eu hadrodd yn yr Adroddiad Blynyddol erbyn 1 Rhagfyr 2018 fan bellaf. Caiff y cyfrifon wedi’u harchwilio eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa a’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor ar 5 Medi 2018.

 

Cyflwynodd Mr Worth y cyfrifon a phwysleisiodd elfennau penodol wrth y Pwyllgor er gwybodaeth gefndirol. Y pwyntiau allweddol oedd:

 

  • O sleid 4, y cyfraniadau arferol yw’r cyfraniadau a wna’r cyflogwr i weithwyr yn ystod y flwyddyn

 

  • Mae cyfraniadau diffygion yn cael gwared ar y diffyg mewn cyllid sydd wedi’i ariannu yn is na 100%. Yng nghyfrifon 2016/17, roedd y cyfraniadau diffygion oddeutu £28 miliwn tra bod y ffigwr hwn oddeutu £52 miliwn yn 2017/18. Mae hyn yn adlewyrchu bod tri cyflogwr wedi talu eu cyfraniadau diffygion o flaen llaw. Mae hyn yn fanteisiol oherwydd ei fod yn ffigwr gostyngol (ar gyfradd gostyngiad yr actiwari) gan fod y cyflogwr wedi talu gwerth tair blynedd o gyfraniadau yn y flwyddyn gyntaf.

 

  • Cyfraniadau ychwanegol yw’r cyfraniadau megis ar gyfer ymddeoliadau cynnar heb fod ar sail salwch h.y. buddion heb ostyngiadau cyn oedran ymddeol arferol.

 

  • Ffigwr allweddol yw’r newid yng ngwerth buddsoddiadau ar y farchnad gan fod hyn yn sail i’r symud yng ngwerth y farchnad sy'n cysoni'r asedau ar y dechrau a'r diwedd.

 

  • Mae treuliau rheoli yn cynnwys costau gweinyddol, costau arolygu a llywodraethu a threuliau rheoli buddsoddiad. Mae rhai costau rheoli buddsoddiad yn cael eu bilio’n uniongyrchol i’r Gronfa ond mae’r rhan fwyaf o’r costau hyn yn cael eu clirio o’r gwerthoedd asedau a adroddir.

 

Holodd y Cynghorydd Llewelyn Jones beth oedd y gwahaniaeth rhwng yr asedau buddsoddiad net a ddangosir yn y cyfrifon drafft a chyfanswm gwerth ar y farchnad a adroddwyd gan JLT yn eu hadroddiad fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2018.  Datganodd Mrs Fielder bod JLT yn seilio eu ffigyrau ar brisiad a gynhaliwyd cyn i’r cyfrifon gael eu cau yn derfynol. Gan hynny, byddai disgwyl rhywfaint o wahaniaeth oherwydd prisiadau diweddaraf y farchnad breifat a’r ffaith bod cyfrifon y Gronfa yn cynnwys dyledwyr a chredydwyr.  Cyfrifon y Gronfa yw'r ffigyrau terfynol (unwaith y byddant wedi cael eu harchwilio).

 

Disgrifiodd Mr Worth y nodiadau amrywiol ar y cyfrifon sy’n bwysig canolbwyntio arnynt, er enghraifft;

  • Mae Nodyn 13 yn dangos yr asedau buddsoddi ac yn cynnwys cyfryngau buddsoddi
  • Mae Nodiadau 16-17 yn gosod allan offerynnau’r Gronfa ar gyfer masnachu a’r peryglon ariannol sy’n effeithio arnynt.

 

 Ar dudalen 29 cyfrifon y Gronfa, amlinellir y gwerth actiwaraidd presennol o dan ymarfer IAS26. Paratoir hwn o dan safon cyfrifeg gwahanol gan fod IAS26 ac IAS19 yn safonau cyfrifeg sy’n darparu prisiad wedi’i normaleiddio ar gyfer rhwymedigaethau pensiwn ar draws cyflogwyr.

Mae datganiad yr Actiwari yn dangos y rhwymedigaethau yn y prisiad diwethaf e.e. lefel ariannu o 76% yn 2016 tra bo’r amcangyfrif diweddaraf yn 89%.

Roedd y Cynghorydd Bateman yn dymuno cael eglurhad ynghylch y gostyngiad yn yr enillion net ar fuddsoddiadau ar dudalen 1 cyfrifon y Gronfa o tua £318 miliwn yn 2016/17 i lawr i ryw £87 miliwn yn 2017/18.

Eglurodd Mr Worth bod y newid yng ngwerth y farchnad yn adlewyrchu’r gwahaniaeth perthnasol rhwng enillion yn 2016/17 o’i gymharu â 2017/18 o farchnadoedd byd-eang.

Ychwanegodd Mr Edwards o SAC y bydd SAC bellach yn archwilio’r cyfrifon terfynol gyda’r bwriad o sicrhau bod y cyfrifon arfaethedig yn cynrychioli darlun cywir a theg, a’u bod yn cydymffurfio â gofynion CIPFA.  Yna byddant yn paratoi eu barn ffurfiol a fydd yn cael ei hadrodd yn ôl gyda’r cyfrifon terfynol i’r Pwyllgor i'w cymeradwyo ar 5 Medi 2018.

PENDERFYNWYD:

Bod yr Aelodau yn nodi bod y gwaith o gymeradwyo’r cyfrifon yn cael ei ddirprwyo ac yn rhoi sylwadau ar gyfrifon y Gronfa Bensiynau a oedd heb eu harchwilio.

 

Dogfennau ategol: