Agenda item
Rhybudd o Gynnig
Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Cofnodion:
Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Hinds:
(i) Cilfachau Parcio y tu allan i Fyngalos Pensiynwyr
‘Dylai’r holl gilfachau parcio y tu allan i fyngalos pensiynwyr ar draws Sir y Fflint fod ar eu cyfer nhw a cherbydau argyfwng yn unig. Dylid bod modd gorfodi hyn.’
I gefnogi ei Chynnig, siaradodd y Cynghorydd Hinds am ba mor bwysig ydyw i gilfachau parcio o’r fath fod ar gael i breswylwyr, eu gofalwyr ac yn bwysicaf oll, y gwasanaethau argyfwng a all fod angen mynediad brys. Yr oedd wedi derbyn sawl gwrthwynebiad i bobl eraill sy’n defnyddio’r cilfachau parcio, ynghyd â rhieni’n rhwystro mynediad yn ystod adegau ysgol.
Fel y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai, roedd y Cynghorydd Attridge yn deall yr angen am ryw fodd o reoli hyn ond siaradodd am y materion ehangach nad ydynt ond yn ymwneud â byngalos pensiynwyr. Cyfeiriodd at y rhaglen o waith amgylcheddol ar draws y Sir a oedd yn cynnwys creu darpariaeth barcio newydd, ac awgrymodd y gallai hyn ymgorffori adolygiad o gyfyngiadau parcio presennol yn yr ardaloedd dan sylw ynghyd â chanfod yn lle y gellid cyflwyno cardiau parcio ar gyfer preswylwyr, pe bai hynny’n cael ei gefnogi. Roedd yn cydnabod efallai na fyddai hyn yn mynd i’r afael â phryderon cyfredol y Cynghorydd Hinds, ond awgrymodd y gallai swyddogion ganfod y lleoliadau sy’n flaenoriaeth o ran bod mannau parcio’n cael eu camddefnyddio, a mynd ati i ddatblygu polisi cardiau parcio ar gyfer preswylwyr, fyddai’n cynnwys ymgynghori effeithiol â defnyddwyr a effeithir.
Dywedodd y Cynghorydd Hinds ei bod yn fodlon gyda’r diwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.
Eglurodd y Prif Weithredwr, pe cefnogir hyn, y byddai swyddogion yn ymdrechu i flaenoriaethu’r mathau o lety a amlygwyd gan y Cynghorydd Hinds o fewn yr adolygiad.
Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o blaid y diwygiad, gan gynnwys yr ardaloedd fyddai’n cael eu blaenoriaethu, yn amodol ar yr adnoddau a’r cyllid sydd ar gael.
Roedd y Cynghorydd Heesom, David Williams ac Owen Thomas yn siarad o blaid y diwygiad hefyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Carver p’un a fyddai’r adolygiad yn berthnasol i fyngalos sy’n eiddo i’r Cyngor yn unig, a nododd bod llety weithiau’n cael ei ddyrannu i breswylwyr sydd o dan oedran pensiwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers am sicrwydd y byddai’r adolygiad yn cynnwys cynlluniau a oedd wedi’u nodi’n flaenorol ar draws Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylai’r adolygiad ystyried gwahanol anghenion preswylwyr sy’n defnyddio’r math hwn o lety, ynghyd â nifer cerbydau bob aelwyd.
Eglurodd y Cynghorydd Attridge y byddai’r adolygiad yn berthnasol i lety gwarchod ac y byddai’n cael ei gynnal ar wahân i’r adolygiad Strydlun. Nododd y Cynghorydd Hinds ei bod yn cytuno.
Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydlun a Chludiant) bod polisi ar gyfer cynlluniau parcio i breswylwyr wedi’i gyflwyno, oedd yn cynnwys proses fanwl ac ymgynghori helaeth. Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Chris Dolphin, dywedodd, tra bod rhestr o ardaloedd wedi’u blaenoriaethu, nid oedd cynllun wedi’i weithredu eto gan fod angen cefnogaeth nifer angenrheidiol o breswylwyr ar gyfer hyn.
Cafodd y diwygiad hwn ei gario o’i roi i bleidlais.
(ii) Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru (TAN) 1: Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (2015)
‘TAN1 yw’r broses gynllunio fwyaf annheg a gall gosbi rhai cymunedau’n fwy nag eraill gan olygu y bydd y cymunedau hynny’n cael eu gorddatblygu ac nad ydynt yn gallu ymdopi â’r isadeiledd sydd yno eisoes. Diffyg ystyriaeth hefyd o lesiant a chydlyniant cymdeithasol cymunedau e.e. llawer mwy o dai pedair ystafell wely sy’n gadael y rheiny sy’n wael, yn anabl, yn ifanc, heb geir, ynghyd â theuluoedd ar incwm is, heb gludiant cyhoeddus ac ati, gan y bydd gan y preswylwyr hyn i gyd gerbydau preifat. Dim lle mewn ysgolion, draenio annigonol, ysbytai a meddygon yn methu ag ymdopi, materion priffyrdd ac ati. Rydym yn gwahanu cymunedau yn hytrach na’u cadw gyda’i gilydd.
Mae’n chwalu cymuned oherwydd y sefyllfa erbyn hyn yw mai prin y gwelwn breswylwyr o un o’r ystadau newydd lle mae’r mwyafrif o’r tai yn rhai 4 ystafell wely. Mae’r ystad arall yn cynnwys cyfuniad gwell o dai, ac mae preswylwyr yn gwneud cyfraniad i’r gymuned.
Mae angen anfon hwn at Lywodraeth Cymru (LlC), fel mai tegwch, cydlyniant cymdeithasol, llesiant a synnwyr cyffredin sy’n cael blaenoriaeth ac nid cyfoeth datblygwyr, ynghyd ag ystadau sydd â’r math iawn o dai nad ydynt wedi’u cynllunio fel bocsys bach, heb ddigon o le rhyngddynt a bod ganddynt rodfa dda ar gyfer o leiaf ddau gar. Onid ydym yn dysgu?
Y rhan bwysicaf o gynllunio yw beth mae ar y gymuned ei eisiau, ac os yw’r gymuned wedi gweithio’n galed i lunio Cynllun Lle, yna dylid rhoi ystyriaeth i hwn a dylai ddod o dan unrhyw fath o bolisi gynllunio, p’un a yw’n CDLl ac ati.’
Eglurodd y Cynghorydd Hinds ei bod wedi cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig cyn ymgynghoriad LlC ar gynigion i ddatgymhwyso dros dro baragraff 6.2 o TAN1, a cheisiodd gefnogaeth yr Aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad. Wrth amlygu goblygiadau’r polisi i gymunedau, cyfeiriodd at benderfyniad yr apêl cynllunio yn ei ward a oedd wedi ei basio o dan apêl.
Fel Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, apeliodd y Cynghorydd Bithell at Aelodau i gymeradwyo’r argymhellion a gytunwyd gan y Cabinet yn gynharach yn y dydd ac i ysgrifennu’n unigol at LlC i ddiddymu’r polisi.
Darllenodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarn allweddol o’r ymateb a grynhowyd gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ac a gytunwyd gan y Cabinet yn y cyfarfod yn gynharach yn y dydd:
1. Mae’r Cyngor yn cytuno ac yn cefnogi’n llawn datgymhwyso arfaethedig y paragraff perthnasol o fewn TAN1 nid yn unig ar gyfer cyfnod yr alwad am dystiolaeth ond hyd yr adeg y bydd canlyniad yr adolygiad yn hysbys ac y bydd y camau mewn perthynas â diwygio TAN1 wedi’u deall.
2. Mae tystiolaeth glir yn awgrymu bod cwantwm sylweddol a chynyddol o ganiatadau cynllunio sydd heb eu datblygu yn bodoli yng Nghymru. Pan fo cyflenwad cyfredol, sy’n dod i’r amlwg ac sydd wedi’i fabwysiadu o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn cael ei fesur yn erbyn y graddau y mae datblygwyr tai’n adeiladu tai ar hyn o bryd, gallai bob un ac eithrio un Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ddangos cyflenwad pum mlynedd ar y sail hon.
3. Mae’r cyngor yn cadarnhau y bydd datgymhwyso’r paragraff perthnasol yn lleihau’r pwysau y mae’n ei brofi’n sylweddol, o ran derbyn datblygiadau tybiannol.
4. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cyngor gynnal ei sylw ar yrru’r CDLl yn ei flaen, sydd mewn cyfnod pwysig yn nhermau paratoi ei gynllun adnau, a lle mae rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu safleoedd digonol a chynaliadwy i gyflawni gofynion y Cynllun.
5. Rhaid i gwmpas yr adolygiad fod yn eang ac yn heriol ac nid yn unig i ACLlau. Rhaid i’r diwydiant adeiladu fod wedi ymgysylltu’n llwyr â’r adolygiad mewn modd nad ydynt yn wrthwynebol, a rhaid iddynt fod yn barod i gael eu herio a bod yn agored wrth ddarparu tystiolaeth o’u gwir allu i adeiladu cartrefi yng Nghymru. Mae hyn o safbwynt unedau sydd wedi’u caniatau ond nad ydynt wedi’u datblygu hyd yma, yn ogystal â dod â safleoedd sydd yn y Cynlluniau Datblygu Lleol yn eu blaenau. Mae’n rhaid i hyn hefyd fynd ati’n drwyadl i brofi’r canfyddiad sy’n bodoli o ran bancio tir, yn ogystal â’r ymagwedd tuag at gyflenwi tai yng Nghymru.
6. O ran canlyniad a chamau gweithredu’r adolygiad, dylid eu hasesu’n llawn a’u rhannu â’r holl bartïon sydd â diddordeb i osgoi brys gormodol y modd y cafodd TAN1 ei adolygu a’i ddiwygio’n flaenorol, ynghyd â’r materion sy’n cael eu profi erbyn hyn o ganlyniad i’r adolygiad brysiog hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Hinds fod yr uchod yn cwmpasu ei phryderon. Eiliwyd y diwygiad hwn gan y Cynghorydd Attridge.
Eglurwyd gan y Prif Weithredwr bod gofyn i’r Cyngor gefnogi penderfyniad y Cabinet.
Siaradodd y Cynghorydd Peers o blaid y Rhybudd o Gynnig ac ymateb y Cabinet i geisio diwedd i TAN1 a oedd yn tanseilio’r CDLl. Rhoddodd sicrwydd bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi ystyried y mater yn fanwl, a gofynnodd pa gamau y gellid eu cymryd yn y cyfnod interim i leihau’r pwysau ar gymunedau.
Gan siarad o blaid, dywedodd y Cynghorydd David Healey y dylid cyflwyno sylwadau i LlC i ehangu cwmpas yr adolygiad i ailystyried y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r cyflenwad o dir ar gyfer tai.
Cododd y Cynghorydd David Williams bwyntiau ynghylch ceisio mwy o amddiffyniad i gymunedau gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom efallai ei fod yn amhriodol mynd ar drywydd adolygiad barnwrol o’r penderfyniad ar gais Penyffordd yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.
Eglurodd y Cynghorydd Butler bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi bod yn gweithio ar y mater am beth amser. Dywedodd bod angen cefnogaeth gan y Cyngor ar y cyd, yn ogystal â cheisio atal TAN1 hyd nes yr oedd canlyniad yr adolygiad yn hysbys. Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Owen Thomas.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Peers, gofynnodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i Aelodau fynd ati ar y cyd i roi cefnogaeth i’r Rhybudd o Gynnig diwygiedig a hefyd i ymateb i ymgynghoriad LlC yn unigol. Rhoddodd sicrwydd i’r Cynghorydd Healey, fel rhan o’r alwad am dystiolaeth, y byddai’r Cyngor yn amlygu’r diffyg yn y cyfrifiad i ddangos cyflenwad tir am bum mlynedd, fel yr amlygir gan y gymhareb isel o ACLlau a allai wneud hynny. Aeth ymlaen i bwysleisio’r angen am benderfyniad brys gan LlC i ddatgymhwyso’r paragraff perthnasol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gofynnwyd i’r Aelodau gymeradwyo penderfyniad y Cabinet, gan gynnwys sylwadau ar y fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad o dir ar gyfer tai.
O’i roi i bleidlais, cafodd y Rhybudd – fel y’i diwygiwyd – ei gefnogi’n unfrydol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Hinds yn cael ei gefnogi fel a ganlyn: ‘Bod y Cyngor yn adolygu mannau parcio ar gyfer preswylwyr yn gyffredinol ar draws y Sir, i dargedu a blaenoriaethu cynllunio parcio y tu hwnt i fyngalos gwarchod y Cyngor a chyflwyno pwerau parcio ar y stryd lle y bo’n bosibl. Fel rhan o’r adolygiad hwnnw, canfod tir a chilfachau parcio sy’n eiddo i’r Cyngor, fel y cyfeirir yn y Rhybudd o Gynnig, er mwyn canfod lle y gellir cyflwyno pwerau parcio.’
(b) Cefnogi Rhybudd o Gynnig y Cynghorydd Hinds fel a ganlyn: ‘Bod Aelodau’n cefnogi penderfyniad y Cabinet ar 19 Mehefin 2018 ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru fel y nodir yn adroddiad y Cabinet ac yn arbennig ym mharagraff 1.07, gan gynnwys gwneud sylwadau ar ail-gyfrifo’r cyflenwad o dir ar gyfer tai fel rhan o’r alwad am dystiolaeth.
Dogfennau ategol: