Agenda item
Perfformiad 2017/18
- Cyfarfod Cyfarfod arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Llun, 4ydd Mehefin, 2018 2.00 pm (Eitem 14.)
- Cefndir eitem 14.
Pwrpas: I nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017/18, ac aros am gynllun gweithredu gan y Cabinet gyda chynigion ar gyfer gwella perfformiad yn 2018/19.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro'r trosolwg perfformiad y Cyngor 2017-18, gan ystyried y mesuryddion perfformiad a gafwyd eu cydnabod yn lleol, yn ogystal â’r mesuryddion a meincnodwyd yn genedlaethol, sef y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.
Ar y cyfan roedd y ddwy ddogfen yn bositif, gyda’r mwyafrif o'r mesuryddion yn dangos llwyddiant o gyrraedd targed a gwella yn gyson ar hyd y flwyddyn. Er hyn, roedd yn bwysig iawn i’r Cyngor gadw ffocws ac i barhau i gynnal lefel o graffu ar ardaloedd perfformio penodol yn ystod 2018/19.
Mae’r adroddiad yn darparu manylion ar fesuryddion perfformiad sydd wedi dangos bod gostyngiad mewn perfformiad, heb gyrraedd y targed o bell ffordd, neu yn genedlaethol yn y 2 chwartel meincnodi gwaethaf. Byddai mesurau y cytunwyd arnynt yn y categorïau hyn yn cael eu monitro ar gyfer adolygiad ac arolygiaeth yn y dyfodol.
Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am ei bryderon yngl?n â'r nifer o ddangosyddion Coch. Gwnaeth sylw fod y cyrhaeddiad addysgol Cyfnod Allweddol 4 ddim digon uchel ac nad oedd perfformiad y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ddigonol.Dywedodd fod angen gwella’r ardaloedd hyn ar frys.
Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y mesuryddion perfformiad ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, mewn swydd neu hyfforddiant, a dywedodd eu bod angen eu nodi a’u holrhain yn gynt yn hytrach na dim ond eu cydnabod pan yn 16 mlwydd oed. Dywedodd y Prif Swyddog dros dro bod hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y portffolio er mwyn datblygu, ac fe amlinellodd fod angen defnyddio cyn lleied o adnoddau er mwyn wynebu’r heriau mwyaf.
Mewn ymateb i bryderon am Aura Leisure, esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bydd y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Newidiadau Sefydliadol yn parhau i dderbyn adroddiadau cyson ar berfformiad Aura Leisure.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones os gellir darparu dogfen i Aelodau, a fyddai yn dangos y newidiadau rhwng Cynllun y Cyngor 2017/18 a Chynllun 2018/19, a fydd yn helpu Aelodau i adnabod y newidiadau yn rhwydd. Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Yn ogystal, adroddodd hi fod adolygiad o Gynllun y Cyngor 2018/19 i hysbysu Cynllun 2019/20 am ddechrau yn gynharach ym mis Hydref/Tachwedd 2018.
Roedd aelodau yn galw am eglurhad am eiriad y dangosyddion perfformiad, cyfeiriad a sylwadau ar ddatblygiad perfformiad ar gyfer y canlynol:-
- IP1.3.4.1.MO1 – Gostyngiad Blynyddol o filiau tanwydd domestig ar gyfer trigolion Sir y Fflint (£);
- IP6.1.2.3.MO3 - Canran o Reolwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
- IP6.1.2.4.MO4 - Canran o weithwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
- IP1.6.4.2.M02 - Y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig a Thrais Rhywiol yn cael eu hadrodd;
- IP1.6.4.3.MO3 – y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn cael eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru.
Darparodd y Prif Swyddog dros dro esboniad ar Reolwyr a gweithwyr yn cwblhau rhaglenni yn ymwneud â straen, gyda'r bwriad o sicrhau fod digon o Reolwyr wedi eu hyfforddi i nodi sefyllfaoedd o straen a chynnig cymorth addas pan fo angen. Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol, er bod y nod ar gyfer digwyddiadau o gam-drin domestig yn 0 (gan nad oedd yn briodol gosod nod), roedd Statws Coch, Melyn a Gwyrdd yn ymddangos fel 'Gwyrdd' i ddangos gwella mewn adrodd digwyddiadau, a oedd angen cynyddu, yn hytrach na bod yn ‘gudd’.
Gofynnodd aelodau bod disgrifiadau ac esboniadau yn adroddiadau perfformiad y dyfodol yn cael eu darparu yn Saesneg ac yn ddealladwy i bawb.Derbyniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y sylwadau uchod a dywedodd bod arweiniad ar hyn yn cael ei ddarparu yn gyson i brif swyddogion perfformiad.
Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylw bod Aelodau angen deall unrhyw oblygiadau cyllideb os nad ydynt yn bodloni targedau perfformiad.
Awgrymodd y Cynghorydd Arnold Wolley fod y Pwyllgor yn gwahodd y Cabinet i gyhoeddi cynllun gweithredu i gydnabod tanberfformio lle mae Statws Coch, Melyn a Gwyrdd o Felyn, gyda dirywiad mewn tuedd perfformio, ynghyd â statws o Goch. Cefnogodd y Pwyllgor hwn. Cadarnhaodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y cynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD:
a) Fod angen nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017/18; a
b) Bod y Pwyllgor yn gwahodd y Cabinet i gyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faes nad yw’n perfformio’n ddigonol a lle mae ganddynt Statws Coch, Melyn a Gwyrdd (CMG) sy’n Goch neu Felyn, gyda dirywiad yn eu tuedd perfformio.
Dogfennau ategol:
- Performance Out-turn covering report, eitem 14. PDF 84 KB
- Enc. 1 - Council Plan 2017/18 Out-turn report, eitem 14. PDF 858 KB
- Enc. 2 - Public accountability measures, eitem 14. PDF 115 KB