Agenda item

Strategaeth Tlodi Bwyd

Pwrpas:        I rannu’r Strategaeth Tlodi Bwyd a rhoi diweddariad am rywfaint o’r gwaith Tlodi Bwyd sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau’r adroddiad yngl?n â’r Strategaeth Tlodi Bwyd, a oedd yn amlinellu’r flaenoriaeth strategol o weithio i ddatrys tlodi bwyd.

 

            Roedd y Strategaeth ddrafft ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1. Fe’i cyflwynwyd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddiweddar, ac fe'i cyhoeddid yn fuan wedi i’r Bwrdd ei mabwysiadu.  Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint o blaid datblygu cynlluniau mewn partneriaeth gyda’r nod o leihau tlodi yn y Sir, ac yn ddiweddar rhoddodd y Bwrdd gymeradwyaeth i ddatblygu a gweithredu Strategaeth Budd Cymunedol, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o flaenoriaethau strategol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Fel yr esboniwyd yn yr adroddiad, roedd hi’n amlwg fod consensws cryf yngl?n â’r heriau a’r amcanion a bennwyd gan y bwrdd amlasiantaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bod llawer o sefydliadau unigol yn y gymuned yn gwneud gwaith da, fel banciau bwyd, er enghraifft.  Gan ystyried yr holl waith oedd yn digwydd yn y Sir a’r cytgord rhwng strategaethau a dyheadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus amlasiantaethol Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, roedd angen cynllunio’r camau nesaf a dod i gytundeb yn eu cylch, yn ogystal â’r cyfraniadau y byddai'r partneriaid yn eu gwneud at gyflawni’r nodau oedd yn gysylltiedig â lleihau tlodi bwyd.

 

            Disgrifiodd y Rheolwr Budd-Daliadau nifer o gynlluniau allweddol y gellid eu cyflawni yn y flwyddyn gyntaf, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Un o’r rheiny oedd cyflwyno’r Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau ar gyfer plant ysgol.  Roedd Mr. Robbie Davison wedi darparu manylion am y Rhaglen i'r Pwyllgor cyn dechrau'r cyfarfod.   

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau fod Sir y Fflint ar flaen y gad wrth ffurfio cynghrair yng ngogledd Cymru er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o’r materion rhanbarthol sy’n gysylltiedig â thlodi bwyd a diffyg sicrwydd cyflenwad bwyd.  Roedd gobaith y byddai cynhadledd tlodi bwyd oedd i'w chynnal yng ngogledd Cymru fis Medi'n gyfle i ystyried cydweithio ledled y rhanbarth i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy rannu arferion gorau, dysgu ar sail profiadau a gweithio ar draws sectorau.

 

            Diolchodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai i’r Rheolwr Budd-daliadau am yr adroddiad, ond mynegodd ei dristwch am fod angen y fath adroddiad, ac yngl?n â nifer y teuluoedd yn Sir y Fflint oedd mewn tlodi bwyd.  Soniodd am lansiad y Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau oedd i’w gynnal ar 19 Gorffennaf, gan obeithio y byddai’r cynlluniau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn rhoi terfyn ar dlodi bwyd yn y dyfodol, nid yn unig i blant ond hefyd i bobl ddi-waith a phensiynwyr.

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ei fod yn Aelod o Fwrdd NEWydd, a oedd yn darparu prydau ysgol iach yn ystod y tymor, a’i fod yn falch o weld y darperid cynllun dros wyliau’r haf fel y gallai plant gael prydau bwyd cynnes ac iach.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol longyfarchiadau i’r Rheolwr Budd-Daliadau a'i thîm, gan ddweud mor falch yr oedd o weld y cydweithio rhwng y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus amlasiantaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Gan gyfeirio at yr hyn yr oedd Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar Awdurdodau Lleol i’w wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, a dywedodd ei bod yn falch bod y Cyngor yn bodloni’r gofynion hynny, yn ogystal â gofynion y Strategaeth ar gyfer Pobl H?n.            

 

            Roedd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn amau gwerth am arian ar sail prisiau rhai o’r prydau bwyd, a dywedodd y gallai rhai teuluoedd a phensiynwyr fod yn gyndyn o dalu’r fath brisiau.  Holodd hefyd a ddarperid dodrefn ac offer yn y canolfannau bwyd cymunedol.  Esboniodd y Rheolwr Budd-daliadau nad oedd hi wedi gweld y prydau dan sylw, ond dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf i’r Cyngor weithredu cynllun o’r fath, ac y byddai’n hanfodol cael ymatebion pobl am y prisiau wrth baratoi cynlluniau i’r dyfodol.  Pennwyd y prisiau ar sail rhai’r cyflenwr mwyaf oedd yn darparu’r un math o fwyd, ac er bod y prisiau’n debyg, roedd y prydau a ddarperid drwy’r cyhoedd yn rhai heb ychwanegion na siwgr. Nid rhai wedi rhewi oeddent chwaith, ond yn hytrach yn cadw’n ffres yn yr oergell am 4-7 o ddiwrnodau.  Hefyd, yn hytrach na mynd â’r bwyd i gartrefi pobl, roedd y cynllun yn seiliedig ar yr egwyddor o ddod â chymunedau ynghyd.  Dywedodd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo i fanteisio ar gyfleoedd i brynu offer ag arian cymunedol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton yr adroddiad, ac yn enwedig felly’r cydweithio oedd wedi digwydd, ond mynegodd bryderon yngl?n â'r adroddiadau fod banciau bwyd yn mynd yn brin o nwyddau oherwydd cynnydd yn y galw.  Soniodd am gynllun yn Swydd Efrog a oedd yn dosbarthu bwyd oedd bron â mynd yn hen i bobl mewn angen, yn ogystal â gerddi Pen y Llan yng Nghei Connah lle'r oedd y trigolion yn tyfu eu llysiau eu hunain.                   

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies y darparwyd prydau poeth yn yr un modd yn Eglwys Rivertown yn Shotton, a gofynnodd a ellid cysylltu â'r Eglwys i drafod ehangu’r cynllun.  Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau mai canolbwynt y gwaith am y tro oedd codi proffil y canolfannau bwyd cymunedol a’r Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau, ond roedd yn gobeithio y byddai sefydliadau ledled Sir y Fflint yn cysylltu â’r Cyngor fel y gellid cysylltu cynlluniau â’i gilydd a’u hehangu yn y dyfodol.  Dywedodd ei bod yn ffyddiog fod llawer o gynlluniau rhagorol eisoes ar waith yn Sir y Fflint, yn enwedig felly yn y trydydd sector.        

 

            Cytunodd y Cynghorydd George Hardcastle â’r sylwadau a wnaethpwyd, a diolchodd i’r Rheolwr Budd-Daliadau am yr adroddiad cadarnhaol.  Holodd a wnaethpwyd amcangyfrif o’r nifer o brydau bwyd oedd yn ofynnol.  Esboniodd y Rheolwr Budd-Daliadau mai’r bwriad oedd i’r Rhaglen ddarparu 800 o brydau bwyd poeth bob dydd mewn 20 o safleoedd cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau’r haf.  Roedd y ffigurau hynny’n seiliedig ar y nifer o blant a fynychodd gynlluniau chwarae’r llynedd, gan ychwanegu 30% er mwyn sicrhau y byddai pob plentyn yn cael pryd poeth.      

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sian Braun, cadarnhaodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai’r Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau ar gael i blant o’r oedran ar gyfer cynlluniau chwarae, ond byddai unrhyw ymatebion a geid drwy’r Rhaglen yn cael eu hystyried wrth gynllunio’r ddarpariaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.    

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Mike Reece roi hysbyseb yn y Gwasanaethau i Aelodau i geisio rhoddion gan Aelodau at y Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn dal i gefnogi’r gwaith oedd yn digwydd i fynd i’r afael â thlodi bwyd a diffyg sicrwydd bwyd yn Sir y Fflint.

Dogfennau ategol: