Agenda item
Lleoliadau Plant y Tu Allan i'r Sir
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Dydd Iau, 29ain Mawrth, 2018 10.00 am (Eitem 52.)
- Cefndir eitem 52.
Pwrpas: I gymeradwyo adolygiad sylfaenol o leoliadau preswyl i blant a phobl ifanc. Nod yr adolygiad yw galluogi’r Cyngor i: i) cefnogi plant diamddiffyn sydd ag anghenion gofal ac addysg cymhleth yn fwy rhagweithiol ii) rheoli’r galw am leoliadau yn well; a iii) datblygu’r farchnad i fod yn fwy ymatebol a fforddiadwy.
Cofnodion:
Eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cyfeirio’r ddarpariaeth, a’r costau’n gysylltiedig â lleoliadau y tu allan i’r sir i blant a phobl ifanc, at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, adroddiad i gymeradwyo adolygiad sylfaenol o leoliadau preswyl i blant a phobl ifanc. Dywedodd mai nod yr adolygiad oedd galluogi’r Cyngor i gefnogi plant diamddiffyn sydd ag anghenion gofal ac addysg cymhleth yn fwy rhagweithiol, rheoli’r galw am leoliadau yn well; a datblygu’r farchnad i fod yn fwy ymatebol a fforddiadwy.
Darparodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a chyd-destun, a gwnaeth sylw ar yr her bresennol wrth geisio canfod lleoliadau preswyl priodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyfeiriodd at brosiect ar draws bortffolios y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir i ddatblygu mewnwelediad pellach i’r angen presennol ac yn y dyfodol, yr opsiynau ar gyfer cefnogaeth/ lleoliadau, a chostau cysylltiedig. Adroddodd ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â’r angen i gynyddu gofal maeth yn Sir y Fflint, eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu bod ystod o fentrau yn cael eu hystyried i wella’r sefyllfa leol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â chost gyfartalog lleoliad fesul blwyddyn a gwnaeth sylw ar yr effaith negyddol ar recriwtio gofalwyr maeth asiantaeth yn Sir y Fflint.
Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd ynghylch gofal maeth, dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu nad oedd anhawster o ran canfod lleoliadau gofal maeth ar gyfer plant ifanc, fodd bynnag, roedd y sefyllfa o ran canfod lleoliadau ar gyfer grwpiau mawr o frodyr neu chwiorydd a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth yn fwy heriol.
Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd McGuill i ddefnyddio canolfannau gweithgareddau preswyl allanol neu ddigwyddiadau dros y tymor byr i reoli sefyllfaoedd anodd, eglurodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y gellid ond darparu gofal a chefnogaeth mewn sefydliad cofrestredig.
Mynegodd y Cadeirydd bryder am nad oedd darpariaeth ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r Awdurdod pe bai’n gorfod darparu ar gyfer gr?p o frodyr neu chwiorydd gydag anghenion cymhleth.
Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar yr amseroedd aros i bobl ifanc gael eu hasesu gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y bu buddsoddiad cenedlaethol sylweddol yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a bod Plant Sy'n Derbyn Gofal yn flaenoriaeth ac y byddent yn derbyn asesiad gany Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o fewn 28 diwrnod. Yn ystod trafodaeth, cytunwyd gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull a ddefnyddir i sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant a gwell rheolaeth o’r galw am leoliadau; a
(b) Gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ym mis Mehefin.
Dogfennau ategol: