Agenda item

Lle i’w alw’n gartref

Pwrpas: Rhoi gwybod am gynnwys ‘Lle i’w alw’n ‘Adref’ Sir y Fflint – Adroddiad Dadansoddi Effaith.

Rhoi manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar y gweill o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn parhau i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal Sir y Fflint.

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i hysbysu ar gynnwys adroddiad “Lle i'w Alw’n Gartref? - Effaith a Dadansoddiad” Sir y Fflint ac i ddarparu manylion am y camau gweithredu a’r mentrau sydd ar waith o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i barhau i wella ansawdd bywydau preswylwyr yng nghartrefi gofal Sir y Fflint. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Darparodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a dywedodd, ers cyhoeddi’r adroddiad, bod Sir y Fflint wedi bod wrthi’n datblygu strategaethau i wella profiad ac ansawdd bywyd unigolion sy’n byw yng nghartrefi gofal Sir y Fflint ac adolygwyd y gwaith hwn gan Gomisiynydd Pobl H?n Cymru a oedd wedi cwblhau asesiad effaith a dadansoddiad llawn o bob asiantaeth bartner yn 2017. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, a gwnaeth sylw ar adolygiad dilynol Comisiynydd Pobl H?n Cymru a dywedodd, o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dim ond 4 ymateb awdurdod lleol a ddyfarnwyd yn ddigonol ar draws yr holl ofynion ar gyfer gweithredu. Dywedodd mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru i gyflawni’r canlyniad hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Christine Jones sylw ar y gwaith pontio cenedlaethau a’r hyfforddiant cyfeillgar i ddementia a oedd yn cael ei gynnal mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir y Fflint i hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol.  

 

Mewn ymateb i’r awgrym gan y Cynghorydd Kevin Hughes, sef y dylid creu swydd cydlynydd gweithgareddau dynodedig ar gyfer cartrefi gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar y gellid ystyried i sut ariannu’r swydd. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie o blaid yr adroddiad a llongyfarchodd y Prif Swyddog a’r Tîm ar eu cyflawniadau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey y farn bod angen rhoi safon uwch i hyfforddiant gorfodol cymorthyddion gofal. Dywedodd hefyd y dylai mwy o staff mewn cartrefi gofal allu siarad Cymraeg. Cydnabyddodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu'r pwyntiau a wnaed a chyfeiriodd at y rhaglenni  hyfforddi a chyflwyno roedd cymorthyddion gofal yn gweithio tuag atynt. Dywedodd fod yr Awdurdod, mewn partneriaeth ar y cyd â Choleg Cambria, wedi sefydlu rhaglen i hyfforddi staff gofal i ddysgu Cymraeg mewn lleoliad gofal. Cyfeiriodd hefyd at y cynlluniau gwirfoddol i ddysgu Cymraeg, a oedd yn cael eu darparu yng Nghapel Methodistaidd a Chanolfan Wirfoddol Leol Sir y Fflint, Yr Wyddgrug, a’r rhaglen e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n helpu staff gofal i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Hilary McGuill o ran monitro cartrefi gofal preifat yn Sir y Fflint, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion/ Blynyddoedd Cynnar bod ymweliadau heb eu cyhoeddi yn cael eu cynnal gan AGGCC a gwnaeth sylw ar y gweithdrefnau monitro cadarn a oedd ar waith gan y tîm monitro contractau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y byddai’n hoffi gweld mwy o gyfeiriad at gefnogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog mewn cartrefi gofal ar draws y Sir.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a chyfeiriodd at effaith y blaengynllunio sylweddol a wnaed a’r cyfraniad yr oedd hyn wedi’i gael ar ganlyniad cadarnhaol yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

Bod adroddiad “Lle i'w Alw’n Gartref?- Effaith a Dadansoddiad” Sir y Fflint yn cael ei nodi a bod cyflawniad yr Awdurdod yn cael ei gydnabod.

Dogfennau ategol: