Agenda item

Cam nesaf y Cynllun Tai Strategol ac Adfywio (CTSA)

Pwrpas:        I geisio cefnogaeth i ddatblygu camau nesaf Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (CTSA)

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Tai adroddiad i ofyn am gefnogaeth i symud ymlaen gyda’r camau nesaf o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor. Cynghorodd bod yr adroddiad hefyd wedi nodi'r cynigion i ddatblygu 92 o dai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar y safleoedd canlynol:

 

·         Nant y Gro, Gronant

·         Hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill

·         Llys Dewi, Penyffordd (ger Treffynnon)

 

            Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai bod y datblygiad yn y safleoedd uchod ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a bod y safleoedd wedi eu cytuno o flaen llaw i'w cynnwys yn SHARP.  Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar gyfer y cynlluniau arfaethedig gan gynnwys lleoliad, mathau o eiddo arfaethedig, dyluniad a gosodiad a chostau adeiladu amcanol. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd wedi nodi'r opsiynau ariannu o ddewis a manylion o'r Rhagdybiaeth Cynllun Datblygu y mae hyfywedd y cynlluniau yn cael eu mesur a’u hasesu yn eu herbyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr ymddygiad annerbyniol gan rai aelodau o’r cyhoedd at swyddogion yn ystod cyfarfodydd ymgynghori â’r cyhoedd ar ddatblygiadau cynllunio ac fe amlinellodd yr angen am dai yn Sir y Fflint.

 

            Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i thîm gan y Cynghorydd Paul Shotton ar gyfer y cynlluniau adeiladu newydd llwyddiannus a oedd wedi cymryd lle hyd yma a dywedodd am safon uchel y tai newydd gan ddefnyddio datblygiadau diweddar yng Nghei Connah fel enghraifft.  

 

            Trafododd y Cynghorydd Ray Hughes y datblygiad tai cyngor yn Leeswood a dangosodd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth. Gofynnodd hefyd fod ei werthfawrogiad yn cael ei fynegi wrth Michael Cunningham a’i dîm, Whaites, am yr ystyriaeth a'r cymorth a roddwyd i breswylwyr lleol yn ystod y rhaglen adeiladu.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Cox, fe gynghorodd y Cynghorydd Bernie Attridge bod yr holl aelodau lleol yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ymgynghori ar ddatblygiad tai cyngor arfaethedig o fewn eu ward. 

 

            Ar ran y Cynghorydd Mike Reece, gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddiweddariad ar y datblygiad ar hen safle Depo Canton ym Magillt. Cytunodd y Rheolwr Strategaeth Tai i gysylltu â’r Cynghorydd Reece i’w gynghori bod cynnydd yn parhau.   

 

            Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Sian Braun yngl?n â chyflwr y ffyrdd yng Ngronant, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n gwneud cynrychiolaeth i ofyn am gyllid i fod ar gael trwy'r rhaglen gyfalaf i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan breswylwyr yn yr ardal yn ystod y broses ymgynghori. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r datblygiad ar gyfer 92 o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn Llys Dewi, Penyffordd; Nant y Gro, Gronant a hen Ddepo’r Cyngor, Dobshill;

 

 (b)     Bod y defnydd o fenthyca darbodus hyd at y gwerth o £9.823m (yn dibynnu ar gymeradwyaeth a dilysu terfynol) i ariannu’r datblygiad arfaethedig o gartrefi Cyngor newydd yn cael ei gefnogi;

 

 (c)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r defnydd o grant tai fforddiadwy o £1.903m a chyfanswm ecwiti wrth gefn a rennir, derbynebau cyd-berchnogaeth a chyfansymiau cyfnewid o £1.722m i gyfrannu at gostau cynllun; ac

 

 (d)     Bod y cynigion i ddatblygu 17 eiddo fforddiadwy gan New Homes (yn dibynnu ar gymeradwyaeth Bwrdd NEW Homes) i'w nodi.

Dogfennau ategol: