Agenda item

Perfformiad Buddsoddiad y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Derbyn cyflwyniad gan PIRC yn edrych ar berfformiad o ran buddsoddiad ar draws y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Cofnodion:

Croesawyd David Cullinan o PIRC gan y Cadeirydd i gyflwyno’r perfformiad buddsoddiad ar draws byd yr LGPS i’r Pwyllgor.

Yn ystod y cyflwyniad, codwyd nifer o sylwadau a chwestiynau gan y Pwyllgor a swyddogion/ymgynghorwyr.

Cyflwynodd Mr Cullinan ei hun a rhoddodd grynodeb byr i’r Pwyllgor am PIRC.Ei gred ef oedd bod safbwyntiau negyddol yn y wasg o amgylch perfformiad LGPS ac fe heriodd y safbwyntiau hyn.Dyma’r pwyntiau allweddol o’r cyflwyniad;

  • Roedd yr ystadegau a ddangoswyd yn seiliedig ar ffeithiau nid barn, ac mae 60 Cronfa’n cyfranogi yn y byd LGPS.
  • Roedd perfformiad y 12 mis diwethaf wedi bod yn gadarnhaol iawn (21.4%), wedi’i hybu’n bennaf gan ecwitïau
  • Dros y tymor hwy, dim ond 6 allan o’r 30 mlynedd diwethaf a oedd wedi cael enillion buddsoddi negyddol.
  • Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r enillion asedau wedi bod yn gadarnhaol iawn gydag enillion real yn fwy na chwyddiant o 6% p.a.
  • Felly nid oedd perfformiad asedau’n broblem gydag ariannu; gyda’r costau dyledion y cafwyd y materion.
  • Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r dyraniadau asedau yn yr LGPS wedi dod yn fwy cymhleth, gan symud o asedau traddodiadol (ecwitïau/bondiau), gydag ychydig o reolwyr, i strwythurau sy’n fwy cymhleth (10 rheolwr neu fwy a rheolaeth fwy gweithredol), ond mae’r rheolaeth weithredol hon wedi ychwanegu c0.4% pa at yr enillion.
  • Mae yna gyswllt cadarnhaol rhwng risg ac enillion fel y disgwylir o bosibl
  • Ymddengys bod peth effaith enillion ychwanegol ar gyfer Cronfeydd mwy (yn ôl maint ased) dros y tymor hir, ond mae hyn yn debygol oherwydd symudiad cyflymach at asedau amgen fel ecwiti/eiddo preifat, a gallu rheoli mewnol o bosibl yn lleihau ffioedd. Mae’r fantais hon o ran perfformiad wedi erydu llawer yn fwy diweddar.
  • Dylai cyfuno ar draws Cymru a Lloegr ddarparu arbedion maint (yn cynnwys rheolaeth fewnol) a mynediad at ddewisiadau buddsoddi ehangach.
  • Anodd dweud ar hyn o bryd a fydd cyfuno'n darparu elfennau Llywodraethu a Penderfyniadau cryfach, ond mae'n hanfodol bod gan y gweithredwr brosesau cadarn o amgylch tryloywder cost a dewis rheolwyr. Dylid nodi nad yw ffioedd is yn fesuriad o werth am arian – yr enillion net o ffioedd sy’n bwysig.
  • Mae gwahanol Gronfeydd gyda gwahanol amcanion o bosibl e.e. Llundain yn lleihau niferoedd a chostau rheolwyr ond Cymru’n denu maint ar gyfer mynediad rhatach i ddosbarthiadau ased penodol.

Gwnaed nifer o sylwadau a holwyd cwestiynau i gael eglurhad.

Holodd Mr Everett sut y gellir mesur a yw’r Gronfa’n gordalu am rai gwasanaethau buddsoddi a sut mae’r Gronfa’n gwerthuso ffioedd i gael gwerth am arian.Nododd Mr Cullinan y bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y cyflwyniad nesaf, ond yn ei farn ef, gellid ei wneud drwy gymharu enillion gros ac enillion net, er bod hyn yn fesuriad bras, felly mae angen cadw ffactorau eraill mewn cof e.e. gwahaniaethau mewn dyraniadau, proffiliau risg a gwerth a ychwanegwyd.

Holodd y Cynghorydd Llewelyn-Jones ynghylch yr annibyniaeth sydd gan WPP h.y. a fydd pwysau gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd yng Nghymru.Ymatebodd Mr Everett i’r ymholiad hwn drwy gadarnhau bod y Gronfa’n annibynnol a’u bod yn gorfod gwneud penderfyniadau er lles gorau’r Gronfa. Fodd bynnag, bydd nifer o brosiectau y gellid eu hystyried gan y WPP o ran potensial ar gyfer buddsoddiad gan Gronfeydd.

Rhoddodd Mrs Fielder y sylw y gallai cyfuno (mewn theori) roi mynediad i’r Gronfa at y rheolwr "gorau mewn dosbarth” ond onid yw’r holl gronfeydd yn mynd ar ôl yr un rheolwyr, ac a allai Cronfeydd unigol yn syml wneud yr un peth?  Ymatebodd Mr Cullinan drwy ddatgan bod y cronfeydd mwyaf yn cael mynediad ar hyn o bryd i’r rheolwyr gorau mewn dosbarth, ond y gwahaniaeth yw maint cyffredinol y mynediad, a fyddai’n lleihau costau pe byddai mwy o Gronfeydd yn ffurfio trefniant. Efallai bod rhai cronfeydd eraill yn meddwl am fuddsoddi yn yr un rheolwyr, ond bydd safbwyntiau gwahanol o ran beth yw gorau mewn dosbarth, a bydd y modd y gellir cael gafael ar reolwyr yn bwysig (a fydd yn wahanol i bob Cronfa).

Holodd Mrs McWilliam sut roedd Mr Cullinan yn mesur cyfnewidioldeb. Ymatebodd Mr Cullinan drwy ddatgan eu bod yn cael eu mesur o'r pwynt isaf i'r uchaf fel y gwyriad safonol dros gyfnod o 36 mis.

Holwyd Mr Cullinan gan Mrs McWilliam am eglurhad o ran y term “perfformiad o ddyrniad ased gweithredol” ar gyfer aelodau newydd o’r Pwyllgor, wrth ystyried y mater o reolaeth weithredol yn ychwanegu gwerth. Eglurwyd hyn fel perfformiad gwirioneddol y Gronfa yn erbyn pe bai wedi buddsoddi ei hasedau yn eu dyraniadau meincnodi.

Holodd Mrs McWilliam a oedd y perfformiad a ddyfynnwyd yn cael ei fesur heb gynnwys ffioedd.Cadarnhaodd Mr Cullinan nad oedd y ffigurau tymor hwy yn cael eu mesur heb gynnwys ffioedd.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd gan Mr Cullinan unrhyw feddyliau ynghylch a fydd yr LGPS yn ei gyfanrwydd yn newid dyraniadau buddsoddi dros y 10 mlynedd nesaf.  Barn Mr Cullinan oedd y byddai dyraniad i asedau risg traddodiadol fel ecwitïau’n disgyn a byddem yn gweld dyraniad cynyddol i fuddsoddiadau mewn isadeiledd, Cronfeydd Twf Amrywiol a dosbarthiadau ased amgen eraill. 

 

Nododd Mr Latham y bydd symud i ddyraniadau uwch mewn asedau amgen yn cynyddu costau, felly mae’n bwysig nad costau yw'r unig ystyriaethau o ran perfformiad y cronfeydd.

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Cullinan am ei gyflwyniad.