Agenda item
Strategaeth Ddigidol – Cwsmer Digidol
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 15fed Chwefror, 2018 10.00 am (Eitem 67.)
- Cefndir eitem 67.
Pwrpas: Cyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor ar y dull arfaethedig o roi’r Strategaeth Ddigidol a’r Strategaeth Cwsmeriaid ar waith, trwy roi blaenoriaeth a ffocws ar wella gwasanaethau ar gyfer ‘Cwsmeriaid Digidol’ fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn.
Cyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor ar lansiad arfaethedig Cyfrif y Cwsmer ym mis Mawrth eleni, fydd yn galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, a rhoi adborth cychwynnol ar y gwasanaeth er mwyn gallu ei ddatblygu dros amser.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) adroddiad ar gynnydd y dull arfaethedig o foderneiddio a gwella darpariaeth gwasanaethau cwsmeriaid y Cyngor drwy wneud y defnydd gorau a mwyaf priodol o dechnoleg ddigidol.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth Cwsmeriaid, gyflwyniad ar y meysydd canlynol:
· Manteision ffocws ar y ‘cwsmer digidol’
· Rhagolwg o’n Porth Cwsmeriaid
· Datblygu ein porth talu
· Datblygu Sgwrsio Byw
· Penderfyniadau Allweddol – yn gynnar yn 2018
· Dulliau o ymdrin ag effeithlonrwydd
· Adnoddau
· Cynllun Gweithredu Amlinellol
Gwelliannau i’r gwasanaeth oedd y rheswm pennaf dros y prosiect a byddai’r buddsoddiad unwaith yn unig o £0.550m yn cael ei dalu’n ôl o arbedion y dyfodol. .
Mewn ymateb i nifer o gwestiynau gan y Cadeirydd, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y diagram yn y cyflwyniad sy’n dangos fod angen buddsoddiad mewn rhai systemau swyddfa gefn er mwyn cefnogi integreiddiad llawn. Rhoddodd eglurhad ar agweddau o’r porth cwsmeriaid a fyddai’n cynnwys dolen i gyfeiriad e-bost Aelod lleol y cwsmer.
Wrth groesawu’r gwelliannau digidol, gofynnodd Cynghorydd Cunningham yngl?n ag unrhyw effaith ar amseroedd ymateb ar gyfer cwsmeriaid y mae’n well ganddynt ddefnyddio’r dulliau cysylltu mwy traddodiadol. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaeth i ddosbarthu’r wybodaeth am safonau ymateb y gwasanaeth cwsmeriaid.
Cydnabu’r Prif Swyddog sylwadau’r Cynghorydd Johnson ar boblogrwydd defnyddio gwasanaethau ar-lein drwy ffonau symudol, gan ddweud nad oedd cyfleuster i ddadansoddi defnydd yn ôl ardal, ond bod y wefan wedi’i llunio er mwyn hwyluso’i defnydd ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron personol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, eglurodd y Prif Weithredwr mai manteision ar gyfer cwsmeriaid oedd y prif ffocws ar y cam cynnar hwn ac y byddai gweithredu fesul cam yn caniatáu dadansoddiad manwl o’r arbedion. Rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar y ffigwr buddsoddi a ddyfynnwyd a sut y bydd arbedion effeithlonrwydd yn cael eu holrhain yn fanwl wrth i’r prosiect esblygu.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at arbedion yr oedd modelau a weithredir gan gynghorau eraill wedi eu cynhyrchu. Dywedodd Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor yn croesawu enghreifftiau o fodelau arfer gorau a weithredir gan gynghorau tebyg o ran maint.
Rhoddodd Cynghorydd Peers, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, enghraifft o achos pan gaewyd mater nad oedd wedi'i ddatrys ac awgrymodd gyfleuster i atodi llun o ddigwyddiad/ardal. Eglurodd y swyddogion y byddai’r dechnoleg well yn lleihau’r angen am ‘gyfryngwr dynol’ sy’n gallu arwain at y fath gamgymeriadau. Fel y nodwyd yn y cynllun gweithredu, byddai ailfodelu’r gwasanaeth yn darparu swyddog dynodedig i gefnogi datblygiad sgwrsio byw.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn croesawu’r dull arfaethedig o weithredu’r Strategaeth Ddigidol a’r Strategaeth Cwsmeriaid drwy roi blaenoriaeth i, a ffocws ar wella gwasanaethau ar gyfer ‘Cwsmeriaid Digidol’ fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;
(b) Bod y Pwyllgor yn croesawu lansiad arfaethedig y Cyfrif Cwsmeriaid ym mis Mawrth eleni gan alluogi cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a rhoi adborth cychwynnol ar y gwasanaeth fel y gellir ei ddatblygu dros amser;
(c) Bodd manylion y safonau Gwasanaethau Cwsmeriaid a’r ymateb i’r safonau yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor; a
(d) Bod adroddiad ar ‘arfer gorau’ digidol yn cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol.
Dogfennau ategol:
- Digital Strategy – Digital Customer, eitem 67. PDF 94 KB
- Enc. 1 - Digital Customer Presentation Slides, eitem 67. PDF 1 MB
- Enc. 2 - Examples of best practice and potential areas of efficiency, eitem 67. PDF 61 KB