Agenda item

Cyngor Ieuenctid

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar gynnydd wrth sefydlu’r Cyngor Ieuenctid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd sefydlu Cyngor yr Ifanc.   Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Rhoddodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth gefndir a dywedodd bod datblyiad Cyngor yr Ifanc wedi dechrau gyda chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a chynghorau ysgol yn sefydlu gr?p llywio ac yn ymgymryd â gwaith ymchwil paratoadol.  Dywedodd fod cynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc wedi cyfarfod gyda’r Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor i sefydlu Cyngor yr Ifanc yn ffurfiol.  Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a’r cynllun cyflawni Cyflawni Gyda’n Gilydd, Darpariaeth Ieuenctid Integredig oedd ynghlwm â’r adroddiad.    

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton adborth o’r cyfarfod a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc a dywedodd y bu’n gyfarfod cadarnhaol a llawn gwybodaeth.   Soniodd am y cyfle a roddodd Cyngor yr Ifanc i bobl ifanc gael llais cryf i fynegi eu barn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn bwysig adolygu cyfansoddiad Cyngor yr Ifanc i sicrhau ei fod yn cynrychioli ystod eang o bobl ifanc a chymunedau lleol ar draws Sir y Fflint.  Pwysleisiodd y Prif Swyddog mai ymgysylltu â phobl ifanc oedd y prif flaenoriaeth.   

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi sefydlu a chynnal Cyngor yr Ifanc Sir y Fflint i gynrychioli holl bobl ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol;

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cysylltu gyda Chyngor yr Ifanc i greu egwyddorion arweiniol a darparu adborth i Gyngor yr Ifanc ar ganlyniadau ymgynghoriadau i bontio’r bwlch rhwng Llywodraeth Leol a phobl ifanc Sir y Fflint drwy agor y llinellau cyfathrebu, gan arwain at gyfranogiad ystyrlon a’u galluogi i ymgysylltu fel dinasyddion yn yr “yma a nawr” i ddylanwadu’r dyfodol;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn sefydlu cyfleoedd rheolaidd i Gyngor yr Ifanc gwrdd â nhw i froceru cyfleoedd ar gyfer asesu a sicrhau digonedd o wasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc a gynrychiolir.   Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth asesu’r cyfleoedd i’r rhai a nodwyd sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi effeithio ar eu bywydau;

 

(d)      Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat a iaith sy’n briodol i’r garfan a gynigir mewn dewis iaith i bobl ifanc er mwyn iddynt roi barn hysbys a gwneud penderfyniadau; 

 

(e)      Gofyn i’r Cabinet sefydlu dull ar gyfer ymgynghori gyda Chyngor yr Ifanc i sicrhau amserlen briodol iddynt gyfrannu yn unol â Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc; 

 

(f)       Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod barn Cyngor yr Ifanc a’r bobl ifanc a gynrychiolir ganddynt yn cael eu hymgorffori yn y broses gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio’r amcanion lles, sicrhau bod cyfranogiad yn cael ei gynnig mewn ffordd ystyrlon a hygyrch ac ymgorffori canllawiau Atodiad B o ganllawiau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.   “”Hybu a hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy’n gallu effeithio arnynt”; a

 

(g)      Bod Cyngor yr Ifanc yn cyfrannu at asesu a sicrhau digonedd o wasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc a gynrychiolir ganddynt.   Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth asesu’r cyfleoedd i’r rhai a nodwyd sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi effeithio ar eu bywydau.

 

 

Dogfennau ategol: