Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr Allport a Woolley yr ystafell.

 

Derbyniwyd un Hysbysiad o Gynnig:

 

Cynghorydd Hilary McGuill:

 

“Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ail-gyflwyno’r rhyddhad ardrethi busnes 100% ar gytiau sgowtiaid ar gyfer sefydliadau sgowtiaid yn Sir y Fflint sy’n berchen ar ac sy’n rheoli eu pencadlys sgowtiaid”.

 

Wrth siarad am ei Hysbysiad o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd McGuill ei bod yn teimlo’n sicr nad oedd y Cyngor, wrth gymeradwyo’r cynnig i ddileu’r ychwanegiad o 20% o Ryddhad Ardrethi Dewisol i sefydliadau gwirfoddol ddwy flynedd yn flaenorol, yn sylweddoli y byddai hyn yn effeithio ar grwpiau sgowtiaid.  Dywedodd, wrth gymharu, nad oedd rhai busnesau bach yn talu unrhyw ardrethi oherwydd eu gwerth ardrethol, gan ychwanegu nad oedd y sgowtiaid yn fusnes.  Credai y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu 100% o ryddhad ardrethi i grwpiau sgowtiaid yn yr un modd ag y gwneir i addoldai.  Darparwyd manylion o’r effaith ariannol y byddai hyn yn ei chael ar grwpiau ac er bod hyn yn sylweddol i’r grwpiau unigol, nid oedd yn bwysau arwyddocaol ar gyllideb y Cyngor.

 

Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Tudor Jones.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton hysbysiad o ddiwygiad a ddosbarthwyd i’r Aelodau, sef:

 

“Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ail-gyflwyno’r rhyddhad ardrethi busnes 100% ar yr holl sefydliadau cymunedol lleol sydd ag eiddo o dan y gwerth ardrethol o £6,000.  Dyma yw’r trothwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn i fusnesau bach fod yn gymwys am y rhyddhad ardrethi busnes llawn”.

 

Wrth drafod ei ddiwygiad, dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y penderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor i ddiddymu’r rhyddhad ardrethi dewisol o %20 wedi’i gefnogi ar draws y siambr.  Fodd bynnag, roedd yn cytuno â’r Cynghorydd McGuill y dylai cynlluniau cenedlaethol gael eu hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.  Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, cynigiodd y diwygiad a dywedodd bod anghysondeb mewn cysylltiad â grwpiau gwirfoddol sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000 am nad ydynt yn gwneud elw ac ni ddylent dalu’r 20% ychwanegol.  Roedd hyn yn gyfle i’r Cyngor ail-ddatgan eu penderfyniad.  Wrth ddarllen ei ddiwygiad, dywedodd bod hyn yn darparu ymrwymiad i fynd i’r afael â’r Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a hefyd i helpu grwpiau cymunedol eraill yn y sir.  Awgrymodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20fed Chwefror 2018 gyda manylion cynllun ymarferol.

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) a oedd y Cynghorydd McGuill yn derbyn y diwygiad i’r Hysbysiad o Gynnig.  Mynegodd bryder nad oedd y diwygiad o bosibl yn cwmpasu pob gr?p sgowtiaid oherwydd gallai rhai ohonynt fod â gwerth ardrethol o fwy na £6,000.  Dywedodd y Rheolwr Refeniw ei fod yn credu y byddai’r rhan fwyaf, os nad pob un, o’r 13 gr?p sgowtiaid yn gymwys ar gyfer y swm ychwanegol.  Yna gofynnodd y Cynghorwyr McGuill a Richard Jones a fyddai’n bosibl ailddatgan y 20% ar unwaith i’r rhai a fyddai’n gymwys o dan y diwygiad.  Yn dilyn trafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd McGuill am ohiriad o 10 munud er mwyn ceisio cyngor cyfreithiol ar ailddatgan Rhyddhad Ardrethi Dewisol yn ôl-weithredol i ddechrau 2017/18 a hefyd manylion cyfanswm y grwpiau a fyddai’n cael eu heffeithio.

 

Gohiriad – 2.53 p.m – 3.03 p.m.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd y canllaw yn glir o ran a oedd yn bosibl adfer y 20% yn ôl-weithredol ai peidio.  O’r nifer o grwpiau sydd wedi’u heffeithio, byddai’r manylion yn cael eu darparu yn y cyfarfod ym mis Chwefror.

 

Ar y sail honno, derbyniodd y Cynghorydd McGuill y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton ac fel yr eilydd, derbyniodd y Cynghorydd Tudor Jones y diwygiad hefyd.

 

Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ar 20fed Chwefror gyda manylion yr opsiynau i adfer y Rhyddhad Ardrethi Dewisol.  Byddant yn cysylltu hefyd gyda Llywodraeth Cymru o ran y diffyg cydraddoldeb yn y cynllun.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gynnig terfynol oherwydd credai bod y mater wedi’i drafod yn ddigonol, a chefnogwyd hynny gan y Cadeirydd.

           

Drwy ofyn am bleidlais wedi’i chofnodi yn gynharach, roedd y 10 Aelod angenrheidiol yn gefnogol o hyn.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol am yr Hysbysiad o Gynnig:

 

Bernie Attridge, Glyn  Banks, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby Chris Bithell, Sian Braun, Helen Brown, Derek Butler, Clive Carver, Geoff Collett, Paul Cunningham, Jean Davies, Rob Davies, Ron Davies, Adele Davies-Cooke, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, Carol Ellis, David Evans, Veronica Gay, George Hardcastle, David Healey, Gladys Healey, Patrick Heesom, Cindy Hinds, Kevin Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Rita Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Tudor Jones, Colin Legg, Brian Lloyd, Richard Lloyd, Mike Lowe, Dave Mackie, Hilary McGuill, Mike Peers, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Small, Ian Smith, Carolyn Thomas, Owen Thomas, Martin White, Andy Williams, David Williams, David Wisinger ac Arnold Woolley.

 

Fe ymatalodd y Cynghorydd Janet Axworthy ei phleidlais yn erbyn yr Hysbysiad o Gynnig.  Ni phleidleisiodd unrhyw Gynghorwyr yn erbyn hyn.

 

Esboniodd y Cynghorydd Carver bod y penderfyniad gwreiddiol i gael gwared ar y Rhyddhad Ardrethi Dewisol yn benderfyniad a wnaed gan y Cabinet ac nid y Cyngor Sir.

 

PENDERFYNIAD:

 

(a)       Y dylid cefnogi’r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig fel a ganlyn:

Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i ail-gyflwyno’r rhyddhad ardrethi busnes 100% ar yr holl sefydliadau cymunedol lleol sydd ag eiddo o dan y gwerth ardrethol o £6,000.  Dyma yw’r trothwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn i fusnesau bach fod yn gymwys am y rhyddhad ardrethi busnes llawn” ac

 

(b)       Y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20fed Chwefror gyda manylion yr opsiynau i adfer y Rhyddhad Ardrethi Dewisol.  Byddant hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru yngl?n â’r diffyg cydraddoldeb yn y cynllun.

Dogfennau ategol: