Agenda item

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’ratebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) v Cyngor Sir.

Cofnodion:

Fe esboniodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) bod dau gwestiwn wedi’u derbyn ac wedi’u copïo, ynghyd â’r ymateb, a’u dosbarthu.

 

Cynghorydd Clive Carver:

 

            “Mewn cysylltiad â phenderfyniad Cyngor Sir y Fflint i ddiddymu Ardrethi Busnes Dewisol ar gyfer Elusennau Cofrestredig a grwpiau gwirfoddol, a all yr Aelod Cabinet esbonio (a) faint o Elusennau Cofrestredig a grwpiau gwirfoddol sydd wedi gwneud cais am ryddhad ardrethi caledi?  A (b) faint o geisiadau o’r fath sydd wedi’u cymeradwyo?”.

 

Ateb:

 

“Ers Ebrill 2017 derbyniwyd cyfanswm o 6 o geisiadau Caledi gan Elusennau Cofrestredig neu Grwpiau Gwirfoddol ac mae 1 sefydliad wedi derbyn Rhyddhad Caledi - a oedd gyfwerth â’u hatebolrwydd llawn ar gyfer 2017-18.

 

Rydym bob amser yn hyrwyddo’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Caledi pan fydd risgiau ariannol i unrhyw sefydliad Elusennol neu Wirfoddol neu, yn wir, unrhyw fusnes masnachol, drwy dalu ardrethi busnes.

 

Mae’n bwysig datgan bod yn rhaid edrych ar bob cais am y Rhyddhad Ardrethi Caledi ar eu rhinweddau eu hunain a phan na fydd gan sefydliadau gyllid digonol i dalu’r atebolrwydd o 20%, y byddwn yn gweithredu er budd y cyhoedd ehangach drwy ddyfarnu Rhyddhad Caledi.  Hyd yma, yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan sefydliadau amrywiol, ychydig iawn o achosion sydd wedi’u profi a fyddai’n cyflawni’r prawf caledi.

 

Mae’r cynllun Caledi yn parhau i fod ar agor, ac rydym yn annog sefydliadau i siarad â’r gwasanaeth Ardrethi Busnes os ydynt am wneud cais am y tro cyntaf (neu ail-gyflwyno cais, hyd yn oed os bu’r cais blaenorol yn aflwyddiannus).”

 

            Manteisiodd y Cynghorydd Carver ar y cyfle i holi cwestiwn ategol:

 

            “Allwch chi ddarparu dadansoddiad o’r ffigurau o’r chwe chais caledi, gan gynnwys yr un a dderbyniodd ryddhad caledi?”  Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton y byddai’n bosibl cael gafael ar y wybodaeth ac y byddai’n cael ei hanfon at y Cynghorydd Carver.

 

Cynghorydd Arnold Woolley:

 

            “A yw’r awdurdod yn ymwybodol o’r nifer o dai yn y Sir, sydd wedi bod yn wag/heb eu defnyddio’n barhaus am o leiaf chwe mis a faint o’r tai o’r fath y mae’r awdurdod wedi delio â hwy gan ddefnyddio’r pwerau presennol sydd ar gael, er mwyn dechrau gwneud defnydd pwrpasol ohonynt unwaith eto.”

 

Ateb:

 

            Mae yna 800 o gartrefi sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor yn y Sir.

 

Mae gan y Cyngor nifer o strategaethau ar waith i ddechrau ail-ddefnyddio cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.  Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddechrau ail-ddefnyddio’r eiddo hyn yw defnyddio’r system Drethiant Leol i gymell perchenogion i ganolbwyntio ar gael pobl yn byw yn eu heiddo unwaith eto.

 

Cymeradwyodd y Cyngor llawn argymhelliad y cabinet i gyflwyno cynllun Premiwm y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2017, sydd bellach yn gosod tâl 50% ychwanegol ar berchnogion eiddo gwag hirdymor, yn ogystal ag ar ail gartrefi.

 

Tua’r adeg y cyflwynwyd y cynllun Premiwm y Dreth Gyngor, gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at berchnogion pob eiddo gwag hirdymor er mwyn hybu mynediad at wasanaethau eraill y Cyngor, a allai helpu i wneud defnydd o’r newydd o eiddo gwag hirdymor.

 

Ers cyflwyno’r cynllun hwn, dengys ein cofnodion bod 212 o eiddo gwag hirdymor, 45 o ail gartrefi wedi dechrau cael eu hail-ddefnyddio unwaith eto a chafodd y cynllun hwn ei gynllunio i annog perchenogion i ddechrau gwneud defnydd llawn o’r eiddo hyn unwaith eto er mwyn:

 

  • mynd i’r afael ag anghenion tai lleol
  • cefnogi’r cynnydd yn nifer y tai fforddiadwy i’w prynu neu eu prydlesu
  • gwella ymddangosiad cymunedau lleol.

 

Mae’r Cyngor hwn yn un o lond llaw o gynghorau yng Nghymru sydd wedi cyflwyno’r cynllun Premiwm y Dreth Gyngor o fis Ebrill 2017, gyda’r amcan pennaf o ddechrau ail-ddefnyddio eiddo gwag.  Er ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i ail-ddefnyddio eiddo, dylai perchnogion a landlordiaid eiddo gwag hefyd rannu yn y cyfrifoldeb o ddechrau ail-ddefnyddio eu heiddo a gwneud y defnydd gorau o’u hasedau.

 

Y Cyngor yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun, North East Wales (NEW) Homes, sy’n gallu cynnig gwasanaeth rheoli cystadleuol iawn i gynorthwyo landlordiaid.

 

Mae’r Cyngor wedi defnyddio dyraniad cyfalaf bychan ers nifer o flynyddoedd, i gynorthwyo perchnogion i ddechrau ail-ddefnyddio cartrefi gwag, fel y dangosir isod.  Mae’r dyraniad hwn wedi lleihau dros amser, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau cyfalaf ac yn rhannol oherwydd argaeledd cyllid amgen Llywodraeth Cymru (isod).

 

Blwyddyn

Grantiau Cyngor Sir y Fflint

Benthyciadau Cyngor Sir y Fflint

2013/14

£164,000

£30,000

2014/15

£105,000

£39,000

2015/16

£79,000

£4,000

2016/17

£62,000

£0

2017/18

£7,000

£10,000

 

Mae’r Cyngor wedi, hyd at eleni, cyflogi Swyddog Datblygu Cartrefi Gwag hefyd.  Mae’r swyddogaeth hon yn gymysgedd o ddyletswyddau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ogystal â gwaith i hyrwyddo a gweinyddu’r grant a’r cyllid benthyciadau.  Y bwriad yn y dyfodol yw a) pasio gwaith y Swyddog Cartrefi Gwag i’r tîm Iechyd yr Amgylchedd i ddelio â hwy i’r graddau y bydd eu hadnoddau yn caniatáu a b) defnyddio’r tîm Adfywio Tai i reoli’r rhaglenni benthyciadau.

 

Mae’r Cyngor yn rheoli’r rhaglen Houses 2 Homes ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n darparu arian ad-daladwy i ddechrau ail-ddefnyddio eiddo gwag.  Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid hwn yn cael ei ymrwymo fel benthyciadau ar hyn o bryd, gyda £595,815 wedi’i ddyrannu i 25 benthyciad ar hyn o bryd.  Wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu, bydd yr arian hwn yn cael ei ailgylchu yn fenthyciadau newydd.

 

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gynyddu hyblygrwydd eu rhaglenni cyllid ad-daladwy cyn hir, a fydd yn caniatáu i’r Cyngor gynyddu’r nifer o fenthyciadau Houses 2 Homes.  Disgwylir hefyd i Lywodraeth Cymru ariannu amser swyddog i gefnogi’r rhaglen benthyciadau, a fydd yn ei galluogi i gyrraedd mwy o ymgeiswyr.

 

Yn ystod 2018/19, mae’r Cyngor yn bwriadu gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gaffael cartrefi gwag ar gyfer rhent cymdeithasol.  Bydd y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ariannu’r costau prynu ac adnewyddu yn rhannol a bydd y Cyngor yn dyrannu Grant Tai Cymdeithasol fel arian cyfatebol.  Mae gwaith targedu yn cael ei wneud yn awr i gyfateb anghenion tai gyda’r stoc o dai gwag.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Woolley i’r Aelod Cabinet am yr ymateb manwl ac ni ofynnodd gwestiwn ategol.