Agenda item

Cyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18

Darparu’r cyfle i'r Aelodau adolygu a chraffu ar amrywiaethau allweddol mewn gwariant refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad  i adolygu a chraffu ar amrywiadau allweddol mewn gwariant refeniw. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn egluro sefyllfa bresennol y gyllideb, y dylanwadau mewn perthynas â gorwariant yn ôl maes gwasanaeth, a’r camau a gynlluniwyd i reoli’r gorwariant trwy’r posibilrwydd o newid y gyllideb i gwrdd â’r pwysau penodol ar y gwasanaeth a mesurau eraill.  Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r gwaith monitro ariannol o fewn tri maes canlynol gwasanaethau oedolion, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

            Iechyd Meddwl/lleoliadau gofal preswyl

 

                        Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â chost lleoliadau iechyd meddwl a’r ffigyrau o fewn rhan 1.05 o’r adroddiad. Eglurodd Swyddogion y byddai cost lleoliadau iechyd meddwl yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymorth oedd ei angen ac roedd yn cynnwys ystod o leoliadau, rhai tymor byr a thymor hir. Cyfeiriodd Swyddogion at lwyddiant adsefydlu unigolion, oedd yn arwain at gostau is ar gyfer pecynnau. Eglurodd Swyddogion hefyd y gallai lleoliadau oedd yn cael eu hariannu ar y cyd â’r gwasanaeth iechyd fod yn gymhleth. Roedd gwaith wedi’i wneud ar fodel adfer i gefnogi unigolion i gael annibyniaeth lai cyfyngedig ac wedi’i oruchwylio. Ailadroddodd Rheolwr Gwasanaeth, Anableddau, lwyddiant gweithio gyda phobl i’w galluogi i wneud cynnydd. Dywedodd y Prif Swyddog fod y gyllideb yn annigonol i gwrdd â gofynion presennol y Gwasanaeth ac er mwyn mynd i’r afael â’r amrywiadau  yn y gyllideb iechyd meddwl roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y gyllideb. Ychwanegodd  y gallai’r gofynion cynyddol ar y gwasanaeth ac anghenion cymhleth un lleoliad gael effaith sylweddol ar y gyllideb.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â sefyllfaoedd argyfwng a ph’un ai a oedd Iechyd yn cymryd perchnogaeth, cadarnhaodd Uwch Swyddog Gwasanaethau Integredig a Swyddog Arweiniol Oedolion, yn ôl yr adborth, fod Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd wedi gweithredu cyn gyflymed â phosibl.   

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at feysydd tanwariant cyfatebol a dywedodd y byddai’r adran yn ceisio cysoni’r mater hwn.

 

            Mynegodd y Cynghorydd  Carol Ellis ei phryderon yngl?n ag arbedion pellach a nodwyd yn y gyllideb, £0.450m yng Ngham 1 a 0.982 yng Ngham 2. 

 

Cydnabu’r Pwyllgor fod oblygiadau pwysau ar Iechyd hefyd yn ffactor pwysig, gyda lleoliadau’n cael eu hariannu ar y cyd rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Hefyd roedd cynnydd yn y niferoedd oedd yn gymwys i gael cefnogaeth o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis y gallai’r lleoliadau Iechyd Meddwl/gofal preswyl roi’r Cyngor mewn sefyllfa debyg i’r un yr oedd yn ei hwynebu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sefyllfa’r gyllideb o ganlyniad i’r esboniadau uchod.

 

            Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw am orwariant y credai nad oedd yn bwysig a dywedodd fod cynnydd yn nifer y bobl oedd yn gymwys i gael cefnogaeth yn sgil Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru.  Hefyd gwnaeth sylw am yr oedi o ran trosglwyddo’r gwasanaeth cyfleoedd dydd a gwaith i Fodel Darparu Arall oedd yn ffactor oedd yn cyfrannu at y pwysau cyffredinol ar y gyllideb. Dywedodd fod y ffigwr presennol o 1.62% yn ymddangos yn amrywiad rhesymol o ystyried maint y gyllideb. 

 

                        Ailadroddodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylai effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru gael ei chydnabod fel ffactor o bwys gan fod gofynion statudol ond dim cyllid ychwanegol. 

 

Uned Diogelu

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynnydd yn nifer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) oedd wedi arwain at orwariant blynyddol. Dywedodd fod gwasanaeth DoLS hefyd yn ehangu eu llwyth gwaith i gynnwys DoLS Cymunedol a thra bod y gofynion yn dal i gynyddu roedd y gwasanaeth wedi cymryd camau i symleiddio prosesau a lleihau nifer y staff. Roedd gorwariant  a ragwelwyd yn cael sylw trwy geisiadau i ddelio â’r pwysau ar y gyllideb a dywedodd fod £100k wedi’i gyflwyno i ddelio â’r pwysau ar y gyllideb yn 2018/19 oedd yn destun cymeradwyaeth fel rhan o ystyriaethau’r gyllideb.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis bryder nad oedd cyllid ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn narpariaeth Gwasanaeth DoLS oedd yn ofyniad statudol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw fod y Gwasanaeth wedi cydnabod yr angen i gael cyllid ychwanegol yn gynnar a’i fod wedi codi’r mater gyda’r Cabinet er ei fod wedi bod yn anodd amcangyfrif yn gywir faint o gyllid fyddai ei angen ar y pryd. 

 

                        Gan gyfeirio at y Gofrestr Diogelu Plant a chynadleddau cyn-geni, dywedodd Uwch Swyddog, Plant a Gweithlu fod cyllid wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi a gweithio gyda merched oedd yn beichiogi’n gyson gan arwain at roi’r plentyn i gael ei fabwysiadu yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD:

(a)       Derbyn yr wybodaeth a roddir yn yr adroddiad; a 

(b)       Bod y Pwyllgor yn adrodd yn ôl i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac i’r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: