Agenda item
Goddefebau
Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Cofnodion:
Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybodaeth gefndir am ddau gais am oddefeb gan y Cynghorydd Sir Mike Peers a gafwyd ar ôl cyhoeddi’r rhaglen hon. Eglurodd nad y Cynghorydd Peers oedd yr Aelod lleol ar y ceisiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd am gymryd rhan yn yr eitem gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio.
Ceisiadau cynllunio 057514 a 057295 yn Neuadd Hawkesbury, Bwcle
Eglurwyd bod y Cynghorydd Peers yn aelod o bwyllgor rheoli Canolfan Gymunedol Hawkesbury a’i fod yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a fyddai’n ystyried y ceisiadau yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ei gais oedd cymryd rhan yn y drafodaeth i godi pryderon am fynediad cyfyngedig gan gerbydau'r gwasanaethau brys i gyfleusterau gerllaw ac i bleidleisio.
Eglurodd Cynghorydd Woolley, er bod ganddo rywfaint o wybodaeth am yr adeilad, nid oedd ganddo fuddiant breintiedig ar y ceisiadau.
Holodd Mr. Rob Dewey am y rheswm pam roedd y Cynghorydd Peers yn cyfeirio at baragraff (c) sy’n ymwneud â goblygiadau cydbwysedd gwleidyddol posibl, yn ogystal â pharagraff (e) ac (f). Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn bosibl bod y Cynghorydd Peers wedi teimlo y gallai fod mater, o ystyried trefniadau cworwm y Pwyllgor Cynllunio yng Nghymru a gallai’r Pwyllgor ystyried a ddylid cynnwys paragraff (c) fel y sail ar gyfer y penderfyniad ai peidio.
Roedd y Cadeirydd yn cofio nad oedd y Pwyllgor wedi rhoi hawliau pleidleisio ar oddefebau tebyg yn y gorffennol. Gofynnodd a oedd y Pwyllgor am roi caniatâd i siarad a chyfathrebu yn ysgrifenedig ond nid i bleidleisio. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro am eglurhad am yr amser byddai'r Cynghorydd Peers yn ei gael i siarad dan yr oddefeb, gan fod ganddo hawl i siarad am dri munud mewn unrhyw achos. Siaradodd y Cynghorydd Woolley o blaid rhoi pum munud o amser siarad oherwydd y materion cymhleth oedd yn ymwneud â’r cais.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor am roi goddefeb dan baragraffau (e) ac (f) yn unig, i siarad am bum munud a chyfathrebu yn ysgrifenedig gyda swyddogion, ond byddai rhaid iddo adael y cyfarfod cyn y bleidlais. Byddai’r oddefeb yn berthnasol am 12 mis a byddai’n cynnwys ceisiadau tebyg fel a benderfynwyd gan y Swyddog Monitro.
O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y cynnig. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom bod ei benderfyniad i ymatal yn cael ei gofnodi yn y cofnodion.
Cais cynllunio 057689 ar Ffordd Alltami, Bwcle
Fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd y Cynghorydd Peers yn ceisio goddefeb i siarad a phleidleisio ar y cais, ac os byddai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n arwain at gyfraniadau ariannol tuag at addysg yn Ysgol Gynradd Mountain Lane lle roedd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr.
Gwnaeth y Swyddog Monitro lunio cymhariaeth gyda chais a gyflwynwyd yn 2014 gan y cyn Gynghorydd Alison Halford, lle roedd goddefeb wedi’i roi i siarad, pleidleisio a chyfathrebu yn ysgrifenedig. Roedd y penderfyniad hwnnw wedi’i wneud ar y sail y byddai’r ysgol berthnasol yn cael mantais yn hytrach na’r Cynghorydd Halford. Nid oedd y penderfyniad a gyhoeddwyd yn nodi faint o amser a roddwyd i siarad. O ran y cais presennol, byddai’r Cynghorydd Peers yn gallu siarad am dri munud, sef yr un fath ag aelod o’r cyhoedd, oni bai bod y Pwyllgor yn cytuno ar bum munud.
Holodd Mr. Dewey o ran y paragraffau perthnasol roedd goddefeb yn cael ei geisio danynt ond dywedodd y byddai’n cefnogi rhoi goddefeb heb bleidleisio oherwydd gallai’r sefydliad roedd y Cynghorydd Peers yn ei gynrychioli gael budd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley.
Yn ystod trafodaeth, rhoddodd y Swyddog Monitro eglurhad am gyfraniadau ariannol addysgol a oedd yn codi o geisiadau cynllunio.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Pwyllgor am roi goddefeb dan baragraffau (e) ac (f) yn unig, i siarad am bum munud a chyfathrebu yn ysgrifenedig gyda swyddogion, ond byddai rhaid gadael y cyfarfod cyn y bleidlais. Byddai’r oddefeb yn berthnasol am 12 mis a byddai’n cynnwys ceisiadau tebyg fel a benderfynwyd gan y Swyddog Monitro.
O'i roi i bleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom bod ei benderfyniad i ymatal yn cael ei gofnodi yn y cofnodion.
PENDERFYNWYD:
(a) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Mike Peers o dan baragraffau (e) ac (f) o Reoliadau’r Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud yn y Pwyllgor Cynllunio a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar gais cynllunio 057514 a 057295, neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg. Mae’r Cynghorydd Peers i adael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais. Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 5 Mawrth 2019; a
(b) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Sir Mike Peers o dan baragraffau (e) ac (f) o Reoliadau’r Pwyllgor Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001 i siarad am bum munud yn y Pwyllgor Cynllunio a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar gais cynllunio 057689, neu unrhyw gais sydd, ym marn y Swyddog Monitro, yn debyg. Mae’r Cynghorydd Peers i adael y cyfarfod ar ôl siarad, cyn trafodaeth a phleidlais ar y cais. Mae’r oddefeb i’w rhoi am 12 mis, gan ddod i ben ar 5 Mawrth 2019.