Agenda item

Chwarae Cymru a Digonolrwydd Chwarae

Pwrpas: Bydd Chwarae Cymru yn darparu cyflwynid i aelodau i alluogi trafodaeth a sylwadau cyn darparu hyfforddiant i aelodau a staff ar ddechrau 2018, a fydd yn cefnogi datblygiad chwarae yn y dyfodol yn Sir y Fflint. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) yr adroddiad i alluogi sylwadau a thrafodaeth i ddigwydd cyn darparu hyfforddiant i aelodau a staff ddechrau 2018 i gefnogi datblygiad chwarae yn Sir y Fflint yn y dyfodol.  Darparodd wybodaeth gefndir a nododd fod y Cyngor ar y cyfan wedi cynnal ymrwymiad cryf i chwarae er gwaethaf y blynyddoedd diweddar o lymder. Cyflwynodd Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae, a Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru, a’u gwahodd i roi cyflwyniad ar Gyfleoedd Chwarae Digonol yn Sir y Fflint. Dyma oedd pwyntiau allweddol y cyflwyniad:

 

·         yr hawl i chwarae

·         Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Llywodraeth Cymru

·         beth sydd yn dy rwystro di rhag chwarae y tu allan?

·         dathlu llwyddiant

·         meysydd pryder

·         cyfleoedd

·         blaenoriaethau wrth symud ymlaen 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru a’r Swyddog Datblygu Chwarae am eu cyflwyniad. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ian Dunbar sylw ar bwysigrwydd cynlluniau chwarae yn arbennig yn ystod cyfnod gwyliau’r Haf gan nad oedd pob teulu yn gallu mynd â phlant i ffwrdd ar wyliau. Cyfeiriodd at y rhaglen arian cyfatebol a siaradodd am yr anhawster a brofwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned a oedd a nifer o gynlluniau chwarae ac ardaloedd chwarae i’w hariannu a’u cynnal. Dywedodd y Cynghorydd Dunbar hefyd fod rhai ardaloedd chwarae yn mynd i gyflwr gwael oherwydd diffyg cyllid i wella ac adnewyddu offer ac nid oedd goleuadau digonol mewn rhai o’r ardaloedd chwarae h?n.  Gofynnodd y Cynghorydd Dunbar a ellid darparu cyllid drwy Gytundebau Adran 106 gyda datblygwyr lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) fod arian cyfalaf wedi ei neilltuo'r llynedd i fynd i’r afael â phob ardal chwarae oedd wedi derbyn lefel ‘coch’ i’w codi i’r safon ofynnol. Eglurodd hefyd fod gwaith yn parhau gyda Chynllunio i edrych ar ganllawiau diwygiedig ynghylch polisïau cynllunio a chyllid gan ddatblygwyr ar gyfer ardaloedd chwarae.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr angen i hyrwyddo chwarae awyr agored i bobl ifanc a siaradodd am fendithion iechyd a lles tymor hir a fyddai’n cael eu sicrhau. Anogodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru Gynghorau Tref a Chymuned i gefnogi datblygiad chwarae yn y gymuned leol ac eirioli dulliau ar gyfer datblygu chwarae a oedd "y tu allan i'r bocs" o safbwynt darpariaeth Chwarae.  Cytunodd gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Shotton a dywedodd y byddai Chwarae Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae.  Tynnodd y Cynghorydd Shotton sylw at y cyllid loteri a oedd ar gael drwy’r cynllun ‘Our Backyard’ ac eglurodd fod Cyngor Tref Cei Connah wedi llwyddo gyda’i gais am gyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd ynghylch Parkour neu Redeg Rhydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod hwn yn fath penodol o ddarpariaeth ac nid oedd yn ymwybodol o gynllun yng Ngogledd Cymru

 

Diolchodd y Cynghorydd David Wisinger i’r swyddogion am yr adrodd a chydnabod y cynnydd oedd wedi cael ei wneud mewn darpariaeth chwarae, serch hynny mynegodd bryder nad oedd nifer o ardaloedd chwarae "yn cyrraedd y safon".   Cydnabu’r Prif Swyddog y pryderon ac ail-bwysleisiodd fod arian cyfalaf wedi ei ddyrannu mewn rhaglen 3 blynedd i fynd i’r afael â’r ardaloedd chwarae hynny oedd â statws ‘coch’. Eglurodd fod nifer sylweddol o ardaloedd chwarae wedi cael eu datblygu eleni a rhoddodd sicrwydd fod mecanwaith ar waith i ddelio â darpariaeth chwarae. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylid datblygu cysylltiadau mwy rhagweithiol gydag ysgolion i fanteisio ar y cyfleusterau sydd eisoes ar gael a chyfeiriodd ar y defnydd o gaeau chwarae a chaeau ysgolion y tu allan i oriau ysgol fel enghraifft. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill hefyd fod angen i’r Awdurdod a Chynghorau Tref a Chymuned fod yn fwy creadigol o ran darpariaeth chwarae ac ategodd yr angen i “feddwl y tu allan i’r bocs” o safbwynt sut y darparwyd chwarae.  Soniodd am werth "chwarae'n rhydd” gyda deunyddiau wedi eu hailgylchu fel pren a chardbord a dywedodd y gallai’r Cyngor gynorthwyo gyda chost gwaredu eitemau o’r fath.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod pecyn gwaith wedi ei ddatblygu i gynorthwyo ysgolion ac roedd ar gael ar wefan Chwarae Cymru. Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am y defnydd o gaeau ysgolion pan roedd ysgol ar gau a chyfeiriodd at faterion atebolrwydd yswiriant a rheoli risg a oedd angen eu hystyried yn ofalus ymlaen llaw. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch yr wybodaeth a ddarparwyd wrth asesu cyfleoedd chwarae yn Sir y Fflint, cytunwyd fod angen darparu rhagor o fanylion yngl?n â symudiadau i’w darparu yn yr ystadegau Cyfleoedd Chwarae Digonol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru a swyddogion yr Awdurdod ar gyfer eu presenoldeb a mewnbwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y pwyllgor yn cefnogi'r cynnydd a wnaed gan Sir y Fflint o ran darpariaeth chwarae ac yn argymell fod y Cyngor yn ystyried cefnogi chwarae rhydd gyda deunyddiau wedi eu hailgylchu fel coed a chardbord a chostau gwaredu eitemau o’r fath;

 

 (b)      Dylid darparu rhagor o fanylion am symudiadau yn yr ystadegau Cyfleoedd Chwarae Digonol; a

 

 (c)      Dylid diolch i Marianne Manello o Chwarae Cymru a swyddogion Sir y Fflint a oedd wedi cyfrannu at yr eitem i gael eu diolch am eu presenoldeb a’u mewnbwn.

 

Dogfennau ategol: