Agenda item

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Y Trydydd Sector

Adolygiad blynyddol o’r gweithgaredd gofal cymdeithasol a wnaed gan y trydydd sector yn Sir y Fflint

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am adolygiad blynyddol o weithgarwch gofal cymdeithasol a gynhaliwyd gan y Trydydd Sector yn Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn manylu ar waith diweddar a gynhaliwyd i adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd drwy’r Trydydd Sector ac yn darparu trosolwg o’r ystod eang o wasanaethau a gefnogir gan y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y dull gwaith a ddefnyddir i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd ac arloesol gan gynnwys y gwasanaeth anabledd a fyddai’n cael ei gaffael dros y misoedd nesaf a’r gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu. 

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at brif ystyriaethau’r adroddiad a dywedodd bod gan Sir y Fflint sector gwirfoddol / trydydd sector ffyniannus sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau i breswylwyr Sir y Fflint.  Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi gweld datblygiad pellach mewn gwasanaethau i sicrhau bod dyletswyddau o fewn y Ddeddf yn cael eu cyflawni. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint yn sefydliad ymbarél a oedd yn cefnogi dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint a’i fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o bartneriaethau lleol a rhanbarthol. Fe gyflwynodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC, a’i gwahodd i roi trosolwg o’r gefnogaeth a ddarperir i’r Cyngor gan FLVC i brosiectau a datblygiadau.

 

Dywedodd MrsWoods bod FLVC yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Statudol a’r Trydydd Sector i hyrwyddo, cefnogi a datblygu dulliau gweithio aml-asiantaeth i ddarparu Gwasanaeth Cyhoeddus. Dosbarthodd bapur a oedd yn darparu rhai enghreifftiau o’r mentrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oedd y Cyngor ac FLVC yn cydweithio arnynt. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Cindy Hinds, dywedodd MrsWoods mai rôl yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd cysylltu â'r gymuned leol a chysylltu unigolion â gwasanaethau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd cyfeirio pobl at wasanaethau’n electronig trwy ap sy’n gysylltiedig â gwefan Sir y Fflint. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod hyn yn rhywbeth i’w ystyried. Dywedodd y Prif Swyddog (FLVC) bod gwefannau’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a DEWIS yn ddwy fenter gyfeirio ddefnyddiol. 

           

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at baragraff 1.10 yr adroddiad yn ymwneud â bwriad y Cyngor i sefydlu proses o gyd-gynhyrchu ar gyfer datblygu gwasanaeth a gofynnodd a fyddai newid i broses dendro yn arwain at golli gwasanaethau.  Esboniodd y Rheolwr Comisiynu na fyddai unrhyw wasanaethau’n cael eu colli, ond, mae’n bosibl y byddai newid yn y ffordd y darperir gwasanaethau anabledd. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hughes sylwadau hefyd am gyllid ar gyfer gwasanaethau gofalwyr a gofynnodd a oedd unrhyw sicrwydd y byddai’r cyllid a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau.  Er na allai roi sicrwydd hirdymor yngl?n â chyllid, dyweodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd unrhyw ostyngiadau pellach yn yr arfaeth i gyllid gan yr Awdurdod.   Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu y byddai cyllid gan BIPBC yn parhau am 18 mis arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at baragraff 1.12 yr adroddiad yn ymwneud â'r contract eiriolaeth rhanbarthol a gofynnodd beth fyddai'n digwydd yn dilyn y flwyddyn o estyniad. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau ac mae’n debyg y byddai ar ôl-troed rhanbarthol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd sylwadau am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r cyfrifoldebau a osodir ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau ychwanegol ond dywedodd nad oedd unrhyw adnoddau ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau.

 

Dywedodd y Rheolwr Comisiynu bod y gofynion newydd i gynnal adolygiad blynyddol o bob gofalwr yn creu mwy o alw a bod y Gr?p Strategaeth Gofalwyr yn gweithio i sicrhau bod y gyllideb sydd ar gael yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau bosibl i ddiwallu gofynion y Ddeddf.

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru wedi sicrhau cyllid sylweddol.

PENDERFYNWYD:

(a)       Bod y gweithgareddau gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu yn y trydydd sector yn Sir y Fflint yn cael eu nodi; a

(b)       Bod cyfraniad gwerthfawr y Trydydd Sector i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau i’r Sector Gofal Cymdeithasol yn cael ei gydnabod.

 

 

Dogfennau ategol: