Agenda item

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyn diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Ysbyty'r Wyddgrug. 

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Mr RobSmith, Cyfarwyddwr Rhanbarth y Dwyrain, Nikki Palin, Arweinydd Tîm RN, a Dr  Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Rhanbarth y Dwyrain, i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a gwahoddodd gynrychiolwyr BIPBC i roi diweddariad ar Ofal Sylfaenol  a Gwasanaethau Cymunedol.  

 

Rhoddodd Mr Rob Smith a Nikki Palin gyflwyniad ar y cyd ar Dîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain – cefnogi cleifion yn agosach at adref. Eglurodd Mr. Smith mai cleifion a’u teuluoedd sydd yw canolbwynt yr holl gynlluniau a datblygiadau a bod BIPBC yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod er mwyn darparu triniaethau a gofal i bobl yn eu cartrefi. Roedd prif bwyntiau’r cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         cyflwyniad a chefndir – lle oeddem ni

·         y weledigaeth – Tîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain

·         gwaith prosiect – Tîm Adnoddau Cymunedol

·         gwaith hyd yma

·         y camau nesaf 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Smith a Ms Palin am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey â phwy fyddai trigolion yn gysylltu am help yngl?n â materion gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol i Blant, amddiffyn plant, a iechyd meddwl. Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig fod un rhif cyswllt ar gyfer yr holl wasanaethau ac roedd y Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau. Cytunodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu i ddarparu gwybodaeth am y rhif cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â thriniaeth chwistrellu clustiau, dywedodd  Dr Gareth Bowdler fod y broses wedi newid a bod cleifion bellach yn cael eu hasesu gan y tîm gwasanaethu chwistrellu clustiau ac nad oeddynt o reidrwydd yn cael eu hatgyfeirio at feddyg ar gyfer y driniaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill sut mae gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu, a allai arwain at glaf yn mynd i’r ysbyty, yn cysylltu â gwasanaethau pwynt mynediad sengl.  Eglurodd Mr. Smith mai’r bwriad oedd cydweithio’n agosach gyda’r gwasanaethau brys, fodd bynnag roedd yn cydnabod fod angen gwaith pellach ar hyn. 

 

Dywedodd Dr. Bowdler mai’r cam gweithredu cywir oedd galw gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu a chysylltu â’r gwasanaethau Adnoddau Cymunedol. Dywedodd y Cynghorydd McGuill fod hyn yn anodd gan fod gwasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu yn cael ei weithredu gan feddygon teulu gwahanol i feddygon teulu BIPBC.

 

Eglurodd Mr. Smith fod y rhan helaethaf o achosion atal salwch ac atgyfeiriadau gwasanaeth ambiwlans yn digwydd yn ystod y dydd. Dywedodd fod y gwasanaeth wedi gwella pan oedd ar y rhan fwyaf o bobl angen y gwasanaeth, sef yn ystod y dydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen mwy o sicrwydd fod gan feddygon teulu gyswllt cryf â’r gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai yn hytrach na galw’r ambiwlans allan a defnyddio gwasanaethau y mae’n bosib nad oes eu hangen.

 

Eglurodd Mr. fod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth ambiwlans yng nghanol y dydd. Yn gyffredinol beth sy’n digwydd yw fod pobl yn galw eu meddygon teulu yn y bore ac yna yn cyrraedd yr ysbyty fin nos. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â gofal yn y cartref a’r angen i osgoi mynd a chleifion i'r ysbyty. Eglurodd Nikki Palin fod gofal yn cael ei ddarparu i unigolyn pan nad oedd gofalwr yn gallu gofalu am un annwyl mwyach. Dywedodd bod cymorth parhaol ar gyfer ffisio yn cael ei ddarparu a bod y gwasanaeth hefyd yn addysgu ac yn cefnogi aelodau teulu i ddarparu gofal o bersbectif nyrsio. 

 

Ynghylch cwestiynau a phryderon ar recriwtio meddygon teulu, dywedodd Dr  Gareth Bowdler fod hyn yn arbennig o anodd yn genedlaethol ac yn lleol. Eglurodd fod trafodaethau yn mynd rhagddynt er mwyn datblygu strategaeth i wella’r sefyllfa a rhoddodd sylwadau ar y mentrau oedd yn cael eu hystyried i annog meddygon teulu i weithio yng Ngogledd Cymru, gan nodi tâl anogaeth, contractau hyblyg, a gwneud y mwyaf o sgiliau gweithlu er mwyn lleihau'r llwyth gwaith fel rhai esiamplau. Mynegodd y farn fod y broblem yn rhannol oherwydd diffyg recriwtio yn y gorffennol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau pellach am reoli practisau meddygon teulu, soniodd Dr  Bowdler am yr asesiadau risg a gynhaliwyd gan BIPBC a’r is fatrics a argymhellwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddefnyddiwyd i nodi practisau sydd mewn peryg. Soniodd hefyd am y cymorth a’r mentrau a ddarperir i wella gwasanaethau a’r angen i gynnal y ddarpariaeth. 

 

Yn ystod trafodaeth cyfeiriodd y cynrychiolwyr at y bwriad i adeiladu ar adnoddau cymunedol fel bod darpariaeth ar gael 24/7 i drin cleifion pan fyddant fwyaf diamddiffyn ac hefyd i ddarparu clinigau gofal  brys fel y gall pobl geisio triniaeth a chyngor ar y diwrnod maent yn teimlo'n sâl.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oes modd darparu rhyw fath o hyfforddiant / addysg meddygol yng Ngogledd Cymru a fyddai'n annog y rhai sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu i setlo yn yr ardal gan ei bod yn ymddangos fel petai Gogledd Cymru o dan anfantais gan nad oes yma ysbyty / adnodd addysgu. Dywedodd Dr. Bowdler nad oes cyfle yn y dyfodol agos ar gyfer hyfforddiant is raddedig yng Ngogledd Cymru, fodd bynnag byddai Coleg Caer yn darparu cynllun peilot yn y dyfodol ar gyfer hyfforddiant meddygol ôl raddedig ar gyfer meddygon teulu a fyddai mae'n si?r yn dylanwadu ar bractis cyffredinol yng Ngogledd Cymru.

 

Gan ymateb i sylwadau pellach a wnaed gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â'r gofynion am restr blaenoriaeth Cymreig, eglurodd  Dr Bowdler fod cyfnod ewyllys da o 3 mis yn cael ei roi i alluogi meddygon teulu i grynhoi’r ddogfennaeth angenrheidiol. Dywedodd fod ystyriaeth genedlaethol yn cael ei roi i wneud y broses o symud o un ardal i’r llall mor hawdd a phosib.

 

Mynegodd Aelodau bryder y gallai meddygon teulu gadw draw o’r ardal gan fod BIPBC mewn mesurau arbennig. Dywedodd Dr. Bowdler nad oedd yn credu mai dyma’r achos, a bod y llwyth gwaith ymddangosiadol yn ffactor bwysicach yn y broses gwneud penderfyniadau.

 

Cyfeiriodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu at ddatblygiad stoc dai yr Awdurdod ac awgrymodd y dylid ystyried cyfleoedd y gellid eu defnyddio drwy ddatblygiadau tai newydd i atynnu meddygon teulu i’r ardal.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon nad oedd gwasanaethau ffisiotherapi yn cael eu darparu bellach yn ei meddygfa lleol. Dywedodd Dr. Bowdler fod practisau meddygon teulu yn cael cyllideb i’w defnyddio yn y ffordd roeddynt hwy’n meddwl oedd yn angenrheidiol. Roedd cyllid ffisiotherapi yn wahanol. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ffisiotherapi a ‘doedd y claf ddim o reidrwydd yn cael ei atgyfeirio at y meddyg teulu ar gyfer ffisio. Darparwyd archwiliad, gwybodaeth a chyngor. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylwadau ar yr amseroedd aros i gael apwyntiad gyda meddyg teulu mewn rhai practisau, dywedodd bod hyn yn annerbyniol ac mewn rhai achosion roedd yn rhaid i drigolion aros 6 neu 7 wythnos i weld eu meddyg teulu. Cyfeiriodd at y datblygiad tai newydd yn Sir y Fflint a gofynnodd sut oedd y gwasanaethau meddygol yn mynd i ymdopi gyda'r galw ychwanegol yn y dyfodol. 

 

Ategodd y Cynghorydd Carol Ellis y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hinds yngl?n â diffyg darpariaeth meddygon teulu ac effaith y datblygiadau tai newydd ac arfaethedig yn Sir y Fflint ar wasanaethau meddygol.  Gofynnodd pa gynlluniau oedd yn eu lle i fynd i'r afael â'r galw ychwanegol ar restrau cleifion meddygon teulu a gwasanaethau meddygol.

 

Roedd yw Uwch Gydlynydd Clwstwr ac Arweinydd y Bartneriaeth yn cydnabod y pryderon a fynegwyd a dywedodd fod ymgynghoriad wedi digwydd rhwng yr Awdurdod a’r Bwrdd Iechyd. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i weithio gyda datblygwyr lleol er mwyn gwneud mwy o gyfraniad i'r cynllunio a’r seilwaith o amgylch datblygiadau tai newydd yn Sir y Fflint. Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd David Healey ar effaith y datblygiad tai newydd yn Sir y Fflint, rhoddodd Mr  Rob Smith sicrwydd fod ymgysylltu yn digwydd rhwng yr Awdurdod a BIPBC i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pa waith oedd yn cael ei wneud i hyrwyddo ardal Gogledd Cymru mewn ysgolion meddygol. Dywedodd Mr. Rob Smith fod BIPBC yn marchnata Gogledd Cymru er mwyn annog myfyrwyr meddygol a meddygon teulu i symud i'r ardal ac ailadroddodd y mentrau oedd yn cael eu hystyried i annog recriwtio.

 

Gofynnodd Kevin Hughes pa effaith oedd Brexit wedi ei gael ar recriwtio staff meddygol. Dywedodd Mr. Rob Smith fod problem recriwtio digon o staff nyrsio mewn un ysbyty lleol, ond na fu problem gyda recriwtio staff yn y Tîm Cymunedol.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill ynghylch a yw rhestrau cleifion meddygon teulu yn dal yn ‘agored', cadarnhaodd Mr Gareth Bowdler fod gan y rhan fwyaf o feddygfeydd yn Sir y Fflint restrau 'agored' ac y gellid anfon y wybodaeth hon ymlaen at y Pwyllgor. Amlinellodd Dr. Bowdler y broses lem a ddefnyddir os bydd practis meddygol am 'gau' rhestr cleifion.

 

Ar bwnc cyflogau meddygon teulu, eglurodd DrBowdler nad oedd yr incwm o BIPBC i bractisau cyffredinol yn wahanol iawn i’r rheiny yn Lloegr. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill os oedd Grwpiau Cleifion yn cael eu cadw. Dywedodd Mr. Rob Smith fod y Grwpiau yn weithredol ac yn cael eu hannog a dywedodd y gallai ddarparu rhestr er gwybodaeth.

 

Mynegodd y Cynghorydd Marion Bateman hefyd bryderon am yr amseroedd aros annerbyniol am apwyntiadau gyda meddygon teulu.  Cydnabu Dr. Bowdler y pryderon, a dywedodd eu bod yn broblem genedlaethol. Dywedodd Mr. Rob Smith os oedd unrhyw bryderon penodol am bractis cyffredinol gallai BIPBC ddarparu cymorth i fynd i'r afael â'r broblem. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid cynyddu’r bwrsari ar gyfer hyfforddiant er mwyn annog mwy o bobl i hyfforddi fel nyrsys.

 

Diolchodd y Cadeirydd i MrSmith, Ms Palin a Dr  Bowdler am fynychu ac am ymateb i gwestiynau Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Nodi’r diweddariad; a

 

 (b)      Byddai’r Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu yn darparu gwybodaeth am y rhif cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth.

Dogfennau ategol:

  • Restricted enclosure