Agenda item
Rhybudd o Gynnig
Pwrpas: Ystyriedunrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Cofnodion:
Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Aaron Shotton:
(i) Gwneud trefniadau trosiannol teg ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a aned yn y 1950au.
‘Gorfodwyd newidiadau sylweddol i’w pensiynau ar gannoedd o filoedd o ferched gan Ddeddf Pensiynau 1995 a 2011 heb fawr neu ddim rhybudd personol yngl?n â’r newidiadau. Cafodd rhai merched lai na dwy flynedd o rybudd am gynnydd o chwe blynedd i oed Pensiwn y Wladwriaeth. Mae rhai merched heb gael eu rhybuddio o gwbl.
Mae nifer o ferched a aned yn y 1950au yn byw mewn caledi. Mae cynlluniau ymddeol wedi’u chwalu, gyda goblygiadau dinistriol. Mae nifer o'r merched hyn eisoes allan o’r farchnad lafur, yn gofalu am berthnasau h?n, yn gofalu am wyrion ac wyresau, neu’n dioddef o wahaniaethu yn y gweithle ac felly’n ei chael yn anodd dod o hyd i waith.
Mae merched a aned yn y degawd hwn yn dioddef yn ariannol. Maent wedi gweithio’n galed, wedi magu teuluoedd a thalu eu trethi a’u hyswiriant gwladol gan ddisgwyl y byddant yn ddiogel yn ariannol ar ôl cyrraedd 60 oed. Nid yr oedran pensiwn ei hun yw pwnc y ddadl, ond bod y cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i'r merched wedi bod yn rhy sydyn ac wedi digwydd heb fawr o rybudd i’r rhai sy’n cael eu heffeithio, gan eu gadael heb ddigon o amser i wneud trefniadau eraill.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor hwn yn cydnabod ac yn cefnogi Gr?p WASPI (Merched yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) Sir y Fflint ac ein bod ni, fel Cyngor, yn penderfynu gweithredu i alw ar y Llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer yr holl ferched a aned yn y 1950au sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd wedi ysgwyddo baich y cynnydd i'r oedran hwnnw yn annheg, heb ddigon o rybudd.'
Wrth gefnogi’r Cynnig hwn, gobeithiai’r Cynghorydd Shotton y byddai pawb yn cydnabod annhegwch y mater hwn a rhoddodd enghreifftiau o’r gofid personol a achoswyd i unigolion lleol. Galwodd ar y Cyngor i gefnogi ymgyrch genedlaethol WASPI, a oedd yn cynnwys gr?p gweithredu lleol, ac roedd rhai o'i aelodau'n bresennol.
Wrth eilio’r Cynnig, rhoddodd y Cynghorydd Kevin Hughes wybodaeth gefndir am ymgyrch WASPI. Pwysleisiodd mai ffocws yr ymgyrch oedd y cynnydd sydyn yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched, lle'r oedd newidiadau a orfodwyd yn ddirybudd wedi gadael nifer mewn caledi a heb allu cynllunio i ymddeol.
Hefyd yn siarad o blaid y Cynnig oedd y Cynghorwyr Mike Peers, Rita Johnson a Paul Shotton.
Pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Cynnig.
(ii) Diwedd ar Galedi Ariannol Llywodraeth y DU
‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i roi diwedd ar bolisi Llywodraeth y DU o galedi ariannol yn ei gyllideb, sydd i gael ei chyflwyno ger bron y Senedd ar 22 Tachwedd. Mae’r Cyngor hwn yn credu bod caledi ariannol, ar ôl saith mlynedd ohono fel strategaeth wleidyddol ac economaidd, wedi’i wrthbrofi’n llwyr a’i fod wedi gwneud niwed aruthrol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau ar draws Sir y Fflint a’r DU.
Mae’r Cyngor yn credu na all y sector cyhoeddus yn Sir y Fflint nac ar draws y DU bellach oddef y gostyngiadau sylweddol i gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gostwng 7% mewn termau real ers 2010, sydd gyfwerth â swm anhygoel o £1.2 biliwn.
Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gydnabod gwerth gwasanaethau cyhoeddus drwy ddarparu’r lefelau cyllid y mae eu hangen i ateb y galw cynyddol am wasanaethau.
Mae’r Cyngor hwn yn cytuno i:
· Barhau i ymgyrchu dros yr wythnosau nesaf i gyfleu’r angen am ddiwedd ar galedi ariannol.
· Parhau i fod yn agored am faint yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn y tymor byr a chanolig os nad yw'r caledi ariannol yn dod i ben, a’r niwed y gallai hyn ei wneud i’n cymunedau a’n gwasanaethau lleol.
· Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn am ddiwedd ar galedi ariannol ac i gyllid teg gael ei roi i Gymru, yn enwedig i alluogi'r Cyngor i ddiwallu'r angen a’r pwysau cynyddol o ran Addysg a Gofal Cymdeithasol.’
Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a oedd yn cael eu cynnal ar draws y sir i bwysleisio effaith toriadau i gyllid yn ennyn llawer o gefnogaeth i newidiadau gael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU.
Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
Gwnaeth y Cynghorydd Peers sylwadau ar ymagwedd y Cyngor yn y gorffennol. Dywedodd, gan fod Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel cyngor cyllid isel yng Nghymru, y dylid crybwyll Llywodraeth Cymru a’i chyfrifoldebau o ran y sefyllfa ariannol bresennol.
Cefnogodd y Cynghorydd Heesom y Cynnig ond fe gododd nifer o bryderon yngl?n ag effaith darparu gwasanaethau drwy gyflenwyr allanol, darparu gwasanaethau teg a chraffu rhagarweiniol ar faterion gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan obeithio y byddai hyn yn cael ei drafod yn rhan o gam nesaf y broses o bennu'r gyllideb.
Fel Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at yr arbedion sylweddol a wnaed o fewn ei phortffolio ac fe ganmolodd y timau a oedd ynghlwm â chynnal gwasanaethau rheng flaen. Wrth gefnogi’r Cynnig a diwedd ar galedi ariannol yn gryf, mynegodd bryderon yngl?n â'r effaith ar y gweithlu a thrigolion a'r diffyg cefnogaeth ariannol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i fodloni rhwymedigaethau statudol.
Hefyd yn cefnogi, dywedodd y Cynghorydd Bithell bod Llywodraeth y DU mewn lle i ddarparu cyllid i Lywodraeth Cymru y mae ei angen i fuddsoddi a chynnal gwasanaethau hanfodol.
Nid oedd y Cynghorydd Woolley yn gallu cefnogi’r Cynnig ac fe wnaeth sylwadau ar effeithiau cydnabyddedig caledi ariannol ar yr economi ac effaith benthyciadau a gwariant blaenorol. Teimlai na ellid datrys y sefyllfa ariannol heb atebion cadarnhaol eraill, ac nid oedd tystiolaeth o hynny.
Gwnaeth y Cynghorydd Carver sylwadau ar Lywodraeth Cymru'n brigdorri cyllid i ariannu prosiectau diangen. Cynigiodd addasiad i drydydd pwynt bwled y Cynnig fel a ganlyn: “Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn am roi diwedd ar galedi ariannol ac i Brif Weinidog Cymru i gyllid gael ei rannu'n deg yng Nghymru."
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Axworthy.
Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am gofnodi’r bleidlais ar y Cynnig sylweddol ac fe gefnogodd y nifer ofynnol o Aelodau hynny.
O'i roi i’r bleidlais, gwrthodwyd yr addasiad gan y Cynghorydd Carver.
Yn ei hawl i ymateb, dywedodd y Cynghorydd Shotton bod y Cyngor wedi cyrraedd "pwynt tyngedfennol” ym mhroses y gyllideb. Er bod cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru’n rhan o’r eitem nesaf ar y rhaglen, roedd y Cynnig yn ymwneud â chydnabod a chefnogi’r galw am newid polisi cyllidol y DU.
Pleidleisiwyd o blaid y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn:
O blaid y Cynnig:
Y Cynghorwyr: Brian Lloyd, Paul Cunningham, Bernie Attridge, Glyn Banks, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, David Cox, Jean Davies, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, Carol Ellis, David Evans, George Hardcastle, David Healey, Gladys Healey, Patrick Heesom, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Rita Johnson, Christine Jones, Colin Legg, Mike Lowe, Hilary McGuill, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Andy Williams, David Williams a David Wisinger
Yn erbyn y Cynnig:
Y Cynghorwyr: Janet Axworthy, Sian Braun, Clive Carver, Bob Connah, Rob Davies, Veronica Gay, Andrew Holgate, Dennis Hutchinson, Dave Mackie, Mike Peers ac Arnold Woolley
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Aaron Shotton yn cael ei gefnogi fel a ganlyn: ‘Bod y Cyngor hwn yn cydnabod ac yn cefnogi Gr?p WASPI (Merched yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) Sir y Fflint ac ein bod ni, fel Cyngor, yn penderfynu gweithredu i alw ar y Llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer yr holl ferched a aned yn y 1950au sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd wedi ysgwyddo baich y cynnydd i'r oedran hwnnw yn annheg, heb ddigon o rybudd’; a
(b) Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Aaron Shotton yn cael ei gefnogi fel a ganlyn:‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i roi diwedd ar bolisi Llywodraeth y DU o galedi ariannol yn ei gyllideb, sydd i gael ei chyflwyno ger bron y Senedd ar 22 Tachwedd. Mae’r Cyngor hwn yn credu bod caledi ariannol, ar ôl saith mlynedd ohono fel strategaeth wleidyddol ac economaidd, wedi’i wrthbrofi’n llwyr a’i fod wedi gwneud niwed aruthrol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau ar draws Sir y Fflint a’r DU. Mae’r Cyngor yn credu na all y sector cyhoeddus yn Sir y Fflint nac ar draws y DU bellach oddef y gostyngiadau sylweddol i gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gostwng 7% mewn termau real ers 2010, sydd gyfwerth â swm anhygoel o £1.2 biliwn. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gydnabod gwerth gwasanaethau cyhoeddus drwy ddarparu’r lefelau cyllid y mae eu hangen i ateb y galw cynyddol am wasanaethau. Mae’r Cyngor hwn yn cytuno i:
· Barhau i ymgyrchu dros yr wythnosau nesaf i gyfleu’r angen am ddiwedd ar galedi ariannol.
· Parhau i fod yn agored am faint yr heriau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn y tymor byr a chanolig os nad yw'r caledi ariannol yn dod i ben, a’r niwed y gallai hyn ei wneud i’n cymunedau a’n gwasanaethau lleol.
· Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn am ddiwedd ar galedi ariannol ac i gyllid teg gael ei roi i Gymru, yn enwedig i alluogi'r Cyngor i ddiwallu'r angen a’r pwysau cynyddol o ran Addysg a Gofal Cymdeithasol.’
Dogfennau ategol: