Agenda item
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 Cam Un
- Cyfarfod Cyfarfod arbennig, Cyngor Sir y Fflint, Dydd Mawrth, 14eg Tachwedd, 2017 2.00 pm (Eitem 62.)
- View the declarations of interest for item 62.
- Cefndir eitem 62.
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar ragolwg Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 yn dilyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a chymeradwyo cynigion cyllideb cam un.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar ragolygon Cyllideb Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19 yn dilyn Setliad Llywodraeth Leol Cymru Dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ceisiwyd barn yr Aelodau ar ymateb i'r Llywodraeth ac i gynigion cynlluniau busnes portffolio'r Cyngor a gyflwynwyd i'w mabwysiadu'n ffurfiol.
Ymysg deilliannau allweddol y cyhoeddiad, dywedwyd bod nifer o grantiau penodol bellach wedi’u cynnwys yn y Setliad ac roedd effaith cyfrifoldeb newydd dros atal digartrefedd yn cael ei hasesu, ond nid oedd cyllid sylfaenol ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer hyn. Roedd gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r Setliad Dros Dro'n amlygu gostyngiad yn y Grant Gwella Addysg a Grant Sengl yr Amgylchedd fel meysydd pryder. Roedd yr effaith gyffredinol wedi cynyddu’r bwlch a ragwelwyd yn flaenorol o £11.7 miliwn i £13.6 miliwn a gallai gael ei effeithio ymhellach gan orwariant o £1.1 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor yn 2017/18.
Roedd dewisiadau cynlluniau busnes y portffolio a oedd werth £3.1 miliwn wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet a'u hadolygu gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau. Y prif bwnc o ddiddordeb i’r cyhoedd oedd y cynnig i ddechrau codi tâl am gasglu gwastraff o'r ardd, nad oedd yn un o wasanaethau statudol y Cyngor. Roedd manylion ar gael yn yr adroddiad i gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd ar ddod. Roedd datganiadau gwytnwch ar gyfer pob portffolio'n dangos bod y rhan fwyaf o feysydd gwasanaeth ar lefel risg Felyn, a oedd yn adlewyrchu'r risg o fethiant cyn cyrraedd Cam 2 yn y broses.
Nodwyd amserlen ar gyfer proses y gyllideb er mwyn galluogi’r Cyngor i gymeradwyo cyllideb gytbwys i gyflawni ei ddyletswydd statudol. Byddai mwy o ddewisiadau heriol ar gyfer Cam 2 am gyfanswm o tua £6-8 miliwn yn cael eu hystyried gan Aelodau mewn gweithdy anffurfiol cyn ceisio cymeradwyaeth yn y cyfarfod nesaf, er mwyn caniatáu gweithredu a chanolbwyntio'n gynnar ar ddewisiadau sy’n weddill ar gyfer Cam 3 yn y Flwyddyn Newydd.
Er bod rhai sylwadau anffurfiol eisoes wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar y Setliad Dros Dro, gofynnwyd i'r Aelodau gytuno ar ymateb corfforaethol yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydnabod eu cyfrifoldebau eu hunain dros fwy o gyllid i ddiwallu anghenion llywodraethau lleol i ddiogelu gwasanaethau, fel oedd yn wir ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. I atgoffa’r Aelodau am y sylwadau a wnaed i Lywodraeth Cymru, dosbarthwyd copïau o lythyr a anfonwyd at Mark Drakeford AC a oedd yn amlygu’r effaith yn genedlaethol, pa mor bwysig oedd gwneud achos ar y cyd a'r angen i Sir y Fflint dderbyn digon o gyllid i ddarparu’r gwasanaethau gorfodol.
Ymateb drafft i’r Setliad Dros Dro
Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau gefnogi’r ymateb drafft canlynol i Lywodraeth Cymru, a oedd yn deillio o wybodaeth o drafodaethau drwy gydol proses y gyllideb:
Bod:
· y Setliad yn annigonol ar gyfer anghenion y Cyngor;
· y Cyngor yn ailgefnogi’r achos a wnaed ar 22 Awst fel y nodir yn y llythyr at Mark Drakeford AC;
· y Cyngor yn cefnogi’r tri chais penodol sydd dan ystyriaeth yng Ngham 2 – cyllid y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer y tair blynedd nesaf, y cap gofal cartref o £100 yr wythnos a 50% o Ardoll Prentisiaethau a delir gan y Cyngor i gael ei ddychwelyd i gynnal y cynllun cyfredol;
· y gostyngiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddarach i grantiau penodol – Grant Gwella Addysg a Grant Sengl yr Amgylchedd – yn cael ei wrthdroi gan Lywodraeth Cymru, beth bynnag fo Setliad y DU;
· angen cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol gyfan yn unol ag achos CLlLC a Sir y Fflint a wnaed yn y llythyr at Lywodraeth Cymru;
· Sir y Fflint mewn perygl penodol oherwydd ei sylfaen cyllid isel fel y mae’r set o ddatganiadau gwytnwch yn ei ddangos;
· gwahoddiad i Weinidogion ac uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru i gyfarfod â Sir y Fflint ar frys i adolygu ein hachos arbennig – i'w hwyluso gan CLlLC;
· achos cryf ar sail tystiolaeth yn cael ei wneud ar gyfer Sir y Fflint fel Cyngor sy'n perfformio'n dda ac sydd â chyfrifoldebau cymdeithasol, os na roddir cyllid ychwanegol i lywodraeth leol ar lefel ddigonol ar gyfer Sir y Fflint o dan y fformiwla rannu, i gael pecyn cyllid ychwanegol penodol i gynorthwyo i bennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 oherwydd y risgiau i wasanaethau a threfniadau llywodraethu'r Cyngor.
Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am gyfrannu tuag at yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yngl?n â chymhlethdodau'r sefyllfa ariannol a chyfleu pwysigrwydd y mater i’r cyhoedd. Roedd digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a oedd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal ar draws y sir wedi’u croesawu er nad oedd llawer wedi dod iddynt. Wrth ymateb i gynghorwyr a swyddogion a ofynnai beth y gallent hwy eu hunain ei wneud i gefnogi achos y Cyngor am gyllid teg a digonol, gofynnodd am ofal wrth ymgyrchu. Er bod cychwyn/cefnogi ymgyrchoedd a deisebau lleol yn un ffordd o helpu, os oedd yr ymgyrch neu’r ddeiseb yn unol â safbwynt y Cyngor, yna fe ddylai cydweithwyr (gan gynnwys swyddogion) fod â hawl i wneud penderfyniad personol ar gynnig eu cefnogaeth. Roedd eu cefnogaeth nhw i neges yr ymgyrch ac nid, o reidrwydd, i'r un a'i cychwynnodd. Felly, os oedd yr un a gychwynnodd yr ymgyrch yn blaid wleidyddol neu'n undeb llafur, er enghraifft, lle'r oedd cefnogaeth i'r ymgyrch yn unig, ni ddylid ystyried hyn fel cefnogaeth i'r blaid neu'r undeb. Roedd yn bwysig bod y gwahaniaeth hwn yn amlwg wrth ymgyrchu i warchod didueddrwydd - yn enwedig ar gyfer swyddogion.
Wrth gynnig yr argymhellion a wnaed gan y Prif Weithredwr, soniodd y Cynghorydd Aaron Shotton am fod yn unol ag amcanion Cynllun y Cyngor a'r heriau wrth ddod o hyd i gynigion i fantoli’r gyllideb. Er bod pob ymgais yn cael ei gwneud i ddiogelu gwasanaethau, roedd yn anorfod y byddai'r pwysau'n arwain at effeithiau go iawn.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom ei fod yn cefnogi’r cynigion Cam 1 ar amod, ond fe gododd bryderon cryf yngl?n â rhagolygon Cam 2 ac effaith unrhyw gynnydd arall ym mwlch y gyllideb. Dywedodd nad oedd adnoddau’n cael eu rhannu’n gyfartal ac nad oedd effaith elfennau cynlluniau strwythurol ar gymunedau, a oedd wedi'i chodi yn y gorffennol, wedi'i chydnabod eto. Teimlai bod problemau difrifol yn y datganiadau gwytnwch nad oedd y broses Trosolwg a Chraffu wedi cyfeirio atynt yn ddigonol, er enghraifft, buddsoddi ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid ac ysgolion bach gwledig.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi adolygu eu rhaglenni gwaith eu hunain a oedd wedi’u galluogi i gymryd rôl weithredol ar faterion o fewn eu cylch gwaith, er enghraifft, yr eitem ar daliadau gwastraff gardd. Mewn ymateb i sylwadau eraill gan y Cynghorydd Heesom, eglurodd y byddai’r Cyngor yn parhau i ddarparu'r rhan fwyaf helaeth o’i wasanaethau presennol yn uniongyrchol, os oedd eu perfformiad a’u gwerth am arian yn parhau.
Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Peers ar y Strategaeth Wastraff ac ar ailstrwythuro timau yn y Gwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo Corfforaethol a Dylunio a Rheoli Prosiectau. O ran yr awgrym i uno Newid Sefydliadol yn un portffolio i arbed arian, amlygwyd pa mor bwysig oedd cadw’r ddau fel prosiectau gwaith ar wahân i gefnogi’r strategaethau digidol ac adeiladu.
O ran Sir y Fflint yn Cysylltu, darparodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fanylion cynlluniau i ailbenodi swyddi ac adolygu oriau agor, yn enwedig yn yr Wyddgrug ac ym Mwcle fel y cyfleusterau a oedd yn denu'r nifer leiaf o ymwelwyr, i arbed arian.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) y byddai'r cynnig i ostwng cyllid y Cyngor ar gyfer darpariaeth addysg feithrin i'r lleiafswm statudol yn arbed ychydig iawn o arian ac yn rhoi pwysau costau ar ysgolion.
Cododd y Cynghorydd McGuill bryderon yngl?n ag effaith ardrethi busnes o 20% a godwyd ar elusennau a grwpiau fel sefydliad y Sgowtiaid, a allai hefyd effeithio ar grwpiau sydd â Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol. Er bod y Prif Weithredwr yn rhannu’r pryderon, dywedodd y byddai'n bwysau arall ar gyllideb y Cyngor pe bai gofyn i’r Cyngor gwrdd â'r gost hon. Roedd cronfa galedi ar gael i helpu ag achosion penodol.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, darparodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) wybodaeth ar ddewisiadau a oedd yn cael eu datblygu ar gyfer 2019/2020 i gynnig ystod ehangach o wasanaethau yn rhan o’r Gwasanaeth Cofrestru.
Cymeradwywyd yr argymhellion wrth bleidleisio arnynt.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai copi o'r ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet yn cael ei rannu gydag Aelodau, ynghyd â’r ymateb i lythyr blaenorol y Cyngor (22 Awst).
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a’r effaith ar ragolygon y gyllideb ar gyfer 2018/19;
(b) Cymeradwyo cynigion Cam 1 ar gyfer y gyllideb fel y maent yn Atodiad A;
(c) Nodi'r camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlen; a
(d) Chymeradwyo'r dull o ymgynghori ar y Setliad Dros Dro yn unol â’r ymateb amlinellol i Lywodraeth Cymru a awgrymwyd yn y cyflwyniad.
Dogfennau ategol:
- Council Fund Budget 2018/19, eitem 62. PDF 94 KB
- Enc. 1 - Stage 1 Budget Proposals, eitem 62. PDF 3 MB
- Enc. 2 - Portfolio Resilience Statements, eitem 62. PDF 3 MB