Agenda item

Ymateb i lythyr CYSAG i ysgolion

Derbyn adroddiad ynghylch ymateb ysgolion i’r llythyr monitro a anfonwyd i bob ysgol yn Sir Ddinbych

 

Cofnodion:

PL     Mae’n egluro’r penderfyniad yng nghyfarfod diwethaf CYSAG i anfon llythyr i ysgolion i hyrwyddo dyletswyddau statudol ysgolion yng ngoleuni cwricwlwm newydd o 2021. Ymddiheurwyd am anfon y llythyr at ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.

RW   Roedd ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn ansicr pam roeddent wedi cael y llythyr.  Gofynnwyd am ddiwygiad hefyd gan fod y llythyr yn cyfeirio at “Conwy” yn hytrach na “Sir y Fflint”.

PL     Roedd y llythyr gwreiddiol a anfonwyd i ysgolion Sir y Fflint yn cyfeirio at Sir y Fflint.  Cafodd yr un llythyr ei anfon i ysgolion Conwy, a chafodd ei atodi mewn camgymeriad.  Ymddiheurwyd am hyn.

PL     Ymddiheurwyd hefyd nad oedd yr ail lythyr i ysgolion uwchradd wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg oherwydd ymrwymiadau gwyliau blynyddol.  Roedd ymatebion i’r llythyr yn dangos y bydd nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs llawn yn haneru. Gofynnwyd am wybodaeth Addysg Grefyddol Cyfnod Allweddol 4 benodol.  Ymatebodd pedair ysgol:

·      Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug – (Yn darparu Addysg Grefyddol fel y bwriadwyd ac o fewn y terfyn amser gofynnol);

·      Ysgol Uwchradd Argoed, Mynydd Isa – Yn cael Addysg Grefyddol drwy Fagloriaeth Cymru (gwnaeth 100 o ddisgyblion ddilyn y cwrs byr yn haf 2017);

·      Ysgol Uwchradd Alun, yr Wyddgrug – nid yw’n darparu cyrsiau llawn na chyrsiau byr;

·      Ysgol Uwchradd Penarlâg, Penarlâg - roedd 30 o ddisgyblion yn cael addysg cwrs llawn mewn 2 awr yr wythnos, roedd blwyddyn 10 i gyd yn cael gwersi bob pythefnos i gynnwys deunydd TGAU gyda’r posibilrwydd o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiad.  Nid oedd disgyblion Blwyddyn 11 band A yn cael gwers Addysg Grefyddol bellach ond maen nhw’n cael diwrnodau penodol.

PL     Roedd Kirsty Williams AC, Aelod Cabinet Addysg, yn gofyn am dystiolaeth benodol o ran yr effaith negyddol mae mesurau adrodd wedi’i chael ar Addysg Grefyddol statudol CA4.

LO    Mae rhai astudiaethau crefyddol yn mabwysiadu elfennau o Fagloriaeth Cymru ond nid yw’n cael ei werthfawrogi.

VB    Dylid croesawu’r mesurau newydd.  Roedd lefel 2 a sgôr pwyntiau wedi’i chapio yn bwysig a gall Addysg Grefyddol gyfrannu ato.

PL     Nid oes terfyn amser wedi’i osod ar gyfer ymatebion i’r llythyr a anfonwyd at ysgolion uwchradd.  Roedd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) yn pryderu am y duedd yn genedlaethol nid dim ond yn lleol.   Gellir anfon enghreifftiau penodol at gyfarfodydd CCYSAGC a PYCAG ym mis Tachwedd.

PL     Nid oedd gan Estyn bryderon am Addysg Grefyddol yn cael ei haddysgu gan rai nad ydynt yn arbenigwyr.  Mae cyfleoedd i ymgysylltu Addysg Grefyddol mewn fformat arall ond mae pryderon am golli arholiadau TGAU.

LO    Bydd disgyblion yn cael uchafswm o wyth awr eleni.  Mae wedi cynnal un sesiwn hwy eleni sy’n gysylltiedig â Saesneg, a oedd yn llwyddiannus a bydd yn ceisio ailadrodd hyn ar Etheg a Moeseg.

PL     Mae cyfleoedd drwy Fagloriaeth Cymru, fodd bynnag bydd yn lleihau nifer sy’n dilyn TGAU.

VB    Posibilrwydd o ymgysylltu byrddau arholi i greu arholiad hyfyw yn unol ag adroddiad Donaldson.

PL     Cynhaliwyd trafodaethau gyda CCYSAGC a CBAC.

 

Penderfyniadau

(a)  PL i ddarparu tystiolaeth benodol i PYCAG a CCYSAGC

(b)  PL i ddilyn trywydd ymatebion gan ysgolion uwchradd;

(c)  VB i atgoffa penaethiaid i ymateb yng nghyfarfod Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd (wythnos dechrau 16 Hydref 2017).

 

Dogfennau ategol: