Agenda item

Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19

Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Newid Sefydliadol.

 

            Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth. Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.

 

            Daeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y  portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) i gyflwyno’r Datganiad Atgyfnerthu a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Newid Sefydliadol.         

 

Newid Sefydliadol 1

Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Newid Sefydliadol 1.  Manylodd y Prif Swyddog ar yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o £416,000 ar gyfer 2018-19, sydd wedi’u nodi ym Model Gweithredu’r Dyfodol yn Atodiad 1. Roedd yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn cynnwys, parhau â chynllun busnes y flwyddyn flaenorol ar gyfer Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth, i ddatblygu cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, y Datganiadau Atgyfnerthu a oedd yn cael eu cyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roeddent yn ddefnyddiol iawn ar gyfer meincnodi’r arbedion effeithlonrwydd hyd yma ac amlygu’r risgiau i feysydd gwasanaeth.  Amlinellodd y bwlch cyllido presennol o £11.7M gan nodi mai cyfanswm cynigion cyllideb cam un ar hyn o bryd oedd £3M a oedd felly’n amlygu’r heriau i ddod.  Soniodd hefyd am yr angen i barhau i lobïo’r Llywodraeth Genedlaethol i amlygu effeithiau caledi.                  

 

            Croesawodd y Cadeirydd y broses ymgynghori ar y gyllideb gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu a oedd yn rhoi cyfle i Aelodau ddylanwadu ar benderfyniadau terfynol o ran y gyllideb.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r swyddogion am y diweddariad o ran y sefyllfa ariannol ac fe groesawodd  y cynnydd o ran nifer yr ymweliadau i lyfrgelloedd Sir Y Fflint. Hefyd, fe wnaeth sylw ar y ffaith bod llai o arian yn cael ei roi i Theatr Clwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gofynnodd a fyddai’n rhaid i’r Cyngor gyfrannu mwy o arian oherwydd hyn.  Eglurodd y Prif Swyddog bod Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd o dan bwysau i ganfod arbedion effeithlonrwydd a lleihau ei gyllideb. Dywedodd y byddai’n rhaid i’r Theatr ddelio ag unrhyw ostyngiad o ran cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac ar hyn o bryd roedd yn gweithio ar ddewisiadau i wneud y mwyaf o incwm.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am daliadau gwasanaeth gan y Cynghorydd Paul Shotton, dywedodd y Prif Swyddog bod y ffioedd o fewn y gwasanaeth hamdden yn gymharol â siroedd eraill ar draws Gymru. Amlinellodd ffyrdd eraill i Ganolfannau Hamdden Aura greu mwy o incwm, gan gynnwys y cyfle i gyflwyno gweithgareddau newydd a ffioedd aelodaeth.    

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes, a oedd hi’n bosibl i’r Theatr ystyried noddi masnachol fel ffordd o ostwng cyfraniadau ariannol y Cyngor yn y dyfodol. Cwestiynodd hefyd, pan fod y sesiynau nofio am ddim i unigolion dros 60 mlwydd oed, roedd yn sicr na fyddai gan y rhan fwyaf ohonynt ots am dalu am y sesiynau hyn. Eglurodd y Prif Swyddog bod y Cyngor yn darparu gwersi nofio am ddim i unigolion dros 60 mlwydd oed drwy gyllid Llywodraeth Cymru a chytunodd y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol yn y dyfodol i asesu a oedd hyn yn fforddiadwy. Dywedodd hefyd bod yn Theatr yn canolbwyntio ar sut i wneud y mwyaf o gyllid nawdd ac elusennol yn flynyddol.        

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 2) i gyflwyno’r Datganiad Atgyfnerthu a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Newid Sefydliadol.         

 

Newid Sefydliadol 2

Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Newid Sefydliadol 2.  Manylodd y Prif Swyddog hefyd ar yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o £286,000 ar gyfer 2018-19, fel y nodwyd o fewn Model Gweithredu’r Dyfodol (Atodiad 2). Roedd yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn cynnwys ailstrwythuro Gwasanaethau Cynnal Eiddo Corfforaethol a Gwasanaethau Dylunio a Rheoli Prosiectau.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Ian Dunbar y cynnydd o ran nifer y prydau ysgol a’r nifer oedd yn manteisio ar brydau ysgol am ddim a gofynnodd a oedd ystyriaeth wedi’i roi i estyn gwaith Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd i weithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Tai mewn tai gwag. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r gwaith ar eiddo gwag yn ffurfio rhan o gynllun busnes statudolGwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd yn y dyfodol.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Marion Bateman sylw ar y cynigion posibl i ad-leoli staff o Neuadd Y Sir a gofynnodd a oedd cynigion i ad-leoli staff o Swyddfeydd Y Fflint.  Eglurodd y Prif Swyddog bod gwaith wedi’i wneud i gyfuno’r gwasanaethau cymdeithasol a swyddogion tai yn Swyddfeydd y Fflint a bod hyn wedi caniatáu iddynt ddelio ag achosion yn brydlon.  Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i adleoli staff o Neuadd Y Sir gan fod y gofod swyddfa presennol yn aneffeithlon â chostau cynnal blynyddol o oddeutu £1.5M.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones a oedd ystyriaeth wedi'i roi i amddiffyn gwasanaethau mewn cymunedau pe bai'r Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn methu yn y dyfodol.  Gwnaeth y Prif Swyddog sylw (Newid Sefydliadol 1) ar y prif drosglwyddiadau ased cymunedol, sef Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon a dywedodd bod y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ar eu cyfer am dair blynedd gyda bwriad o ostwng cyllid hwnnw dros y cyfnod o dair blynedd.  Nid yw’r gyllideb ar gyfer 2018/19 yn cynnig gostyngiad o ran y gyllideb.  Dywedodd ei bod hi’n bwysig ystyried ein camau gweithredu pe byddai'r trosglwyddiad ased cymunedol yn methu a sicrhau bod refeniw a chefnogaeth barhaus ar gael i leihau’r risg hwnnw.  Dywedodd bod y trosglwyddiadau ased cymunedol yn perfformio’n dda ar hyn o bryd.     

 

            Gwaeth y Cynghorydd Shotton sylw ar gylch gorchwyl y Pwyllgor a swyddogaeth y Pwyllgor hwn, sef craffu a monitro perfformiad trosglwyddiadau ased cymunedol.  Dywedodd bod y Cyngor wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol i amddiffyn a diogelu gwasanaethau.                       

 

            Diolchodd y Cadeirydd wrth y Prif Swyddogion am eu gwaith o fewn eu portffolios ac fe dynnodd sylw penodol at yr effaith gadarnhaol yr oedd y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol wedi’u cael o ran diogelu gwasanaethau mewn cymunedau ar draws Sir Y Fflint.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r agwedd a gymerir at y Gyllideb o fewn y portffolios Newid Sefydliadol.

Dogfennau ategol: