Agenda item

Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19

Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad i ddarparu'r sefyllfa rhagolygon ariannol presennol ar gyfer 2018/19 ac ymgynghori ar gynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y rhagolygon ariannol a adroddwyd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2017 ac fe'i manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd mai £11.7m oedd y "bwlch" oherwydd pwysau cenedlaethol, lleol a gweithlu, a'r rhagamcaniadau diweddaraf ar gyfer chwyddiant.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid ddiweddariad byr ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol i Gymru ar gyfer 2018/19 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.  Pwysleisiodd fod y Setliad dros dro ar hyn o bryd a bod cadarnhad grant penodol i'w dderbyn ar 24 Hydref.  Dywedodd fod y Setliad dros dro yn dangos gostyngiad o 0.9% mewn cyllid i'r Awdurdod a fyddai'n cynyddu'r "bwlch" o £1.6 - £1.9m oherwydd y cyfrifoldeb newydd dros ddigartrefedd a phwysau heb eu datrys.    Eglurodd y Rheolwr Cyllid y byddai datganiad ar y Setliad dros dro a Cham 2 y broses gyllidebol yn cael ei wneud yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 19 Hydref, a'r Cabinet ar 24 Hydref, a byddai dadansoddiad o'r Setliad yn dilyn i bob Aelod. 

 

Soniodd y Cynghorydd Aaron Shotton am effaith negyddol y Setliad dros dro a goblygiadau gostyngiad pellach mewn cyllid.  Dywedodd y byddai'r Awdurdod a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i orfodi ei achos lobïo yn gadarn ar gyfer "gwella" cyn i'r Setliad Terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod llawer yn dibynnu ar ddatganiad cyllideb Canghellor y DU ym mis Tachwedd a'r posibilrwydd o rywfaint o welliant yn y mesurau caledi a roddwyd hyd yma.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghylch pwysau sy'n dod i'r amlwg, pwysau ar bortffolios penodol, chwyddiant a risgiau.   

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a'r Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) ar y pwysau ar bortffolios penodol a gweithredu effeithlonrwydd model ar gyfer eu portffolios priodol.  Adroddodd y Prif Swyddogion hefyd am y sefyllfa gwydnwch cyfredol ar gyfer eu portffolios a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ac a oedd yn nodi'r cyd-destun ar gyfer yr arbedion a'r effeithlonrwydd a gynigiwyd ar gyfer 2018/19. Cynhwyswyd manylion pellach am yr opsiynau portffolio ar gyfer arbedion ac effeithlonrwydd yn y Modelau Gweithredu a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog (Strywedd a Chludiant) i'r sylwadau a'r cwestiynau a ofynnwyd ynghylch goleuadau stryd a chyflwyno polisi dim gwastraff ar yr ochr a fyddai’n cyd-fynd â chyflwyno ffi i geisio annog pobl i beidio gadael gwastraff gardd fel gwastraff ar yr ochr.

 

  Cytunodd y Prif Swyddog (Strywedd a Chludiant) i gwrdd â'r Cynghorydd Chris Dolphin i drafod y pryderon penodol a fynegwyd o ran atgyweirio a chynnal a chadw ffyrdd a goleuadau stryd yn ei Ward.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) i'r cwestiynau ynghylch incwm ffioedd cynllunio.  Dywedodd fod llawer o wasanaethau yn y portffolio Cynllunio yn orfodol ac y gellid ystyried cydweithio fel opsiwn ar gyfer rhai o'r gwasanaethau, ond eglurodd, er y gallai hyn ddarparu gwydnwch ni fyddai o reidrwydd yn arbed costau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi sylwadau'r Pwyllgor ar y dewisiadau cyllideb portffolio a phwysau ariannol y portffolio; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn fodlon â'r dull a gymerwyd o ran Cam Un Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2018/19 ar gyfer y portffolios Strydwedd a Chludiant a Chynllunio a'r Amgylchedd.

 

Dogfennau ategol: