Agenda item
Trosglwyddo Asedau Cymunedol - Adolygiad o Gynnydd
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol, Dydd Llun, 25ain Medi, 2017 10.00 am (Eitem 16.)
- Cefndir eitem 16.
Pwrpas: I adolygu cynnydd y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol cyn gwahodd grwpiau cymuned i gyfarfod yn y dyfodol i roi eu barn ar brosiectau unigol sydd wedi cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn 2 y rhaglen
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad a eglurodd mai hon oedd trydedd flwyddyn gweithrediad a chefnogaeth y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).
Mae yna rhai trosglwyddiadau asedau allweddol ar raddfa fawr, yn nodedig Pwll Nofio Cei Connah a oedd bellach yn cael ei redeg a’i reoli gan Cambrian Aquatics, ac yn fwy diweddar Canolfan Hamdden Treffynnon, sef yr ased fwyaf a mwyaf cymhleth a drosglwyddwyd hyd yma.
Roedd y Cyngor yn dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r rhaglen TAC ac wedi cynnal nifer o adolygiadau blwyddyn un fel rhan o’i ymrwymiad i ddeall eu hymrwymiad parhaus a’u cyfraniad at Fuddion Cymunedol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion asedau eraill a oedd wedi bwrw ymlaen drwy gwblhau cyfreithiol neu a oedd yn cwblhau’r camau cyfreithiol terfynol. Awgrymodd y Prif Swyddog y gallai adborth gan rai o’r grwpiau yn y rhaglen CAT fod yn rhan o gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol lle gallent fynd a siarad am eu prosiectau eu hunain a oedd wedi eu cefnogi.
Roedd y grwpiau yn datblygu setiau o sgiliau o fewn eu pwyllgorau lleol a oedd yn drosglwyddadwy ac a greodd wydnwch cymunedol. Roedd hwn yn gysyniad pwysig ac yn ychwanegu gwerth ar y broses TAC drwy greu cymunedau mwy gwydn a oedd yn gallu cefnogi ei gilydd drwy ddatblygu sgiliau newydd, hyder a gwybodaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Dunbar ei fod yn falch gyda’r TAC ar Bwll Nofio Cei Connah a gofynnodd sut yr oedd yn cael ei ariannu. Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod cyfarfod wedi digwydd yr wythnos flaenorol gyda Cambrian Aquatics ac roedd yn falch i nodi fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o wersi nofio sy’n cael eu rhoi ers i’r TAC ddigwydd. Dywedodd fod y cytundeb ariannu gan y Cyngor wedi bod am dair blynedd ac roedd bellach yn ei drydedd flwyddyn. Roedd Cynllun Busnes wedi ei awgrymu am y tair blynedd nesaf ond roedd sefyllfa ariannol Cambrian Aquatics yn gadarn. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar ar Randiroedd Lôn y Felin yng Nghei Connah, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod hyn wedi ei drosglwyddo i’r Cyngor Tref fel bod yr endid cyfreithiol yn bodoli gyda’r Cyngor Tref.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a chanmol Cambrian Aquatics am y gwaith roeddynt wedi ei wneud ers y TAC, gan gyfeirio at y clwb nofio ffyniannus. Dywedodd hefyd fod cynnydd da’n cael ei wneud yng Nghlwb Ieuenctid Cei Connah. Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod cynllun ‘Ein Gardd Gefn’ Parc Golftyn yn rhan o gais loteri a gefnogwyd gan y Cyngor.
Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd rhyfeddol oedd wedi ei wneud gyda TAC. Gwnaeth sylw ar y cynnig gan Lywodraeth Cymru (LlC) y dylid cynnal adolygiad sylfaenol ar swyddogaeth Cynghorau Tref a Chymuned. Awgrymwyd y gallai Sir y Fflint ymateb drwy nodi fod cynnal TACau YN swyddogaeth allweddol iddynt bellach oedd a gwneud cais iddynt allu tynnu ar gyllid canolog am y gefnogaeth honno.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylai’r Pwyllgor nodi'r adroddiad a chefnogi’r gwaith a wnaed mewn perthynas â’r rhaglen waith Trosglwyddo Asedau Cymunedol; a
(b) Dylid nodi’r swyddogaeth gefnogol y gall Trosglwyddo Asedau Cymunedol ei chyflawni wrth gefnogi Gwydnwch Cymunedol.
Dogfennau ategol: