Agenda item

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac  ystyried Cynllun Gweithredu ar y Cyd ar gyfer Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl a Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod.

 

            Rhoddodd Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau Iechyd Meddwl gefndir datblygiad y Strategaeth Iechyd Meddwl ac eglurodd fod yr adroddiad mesurau arbennig wedi nodi’r angen i ddatblygu’r Strategaeth Iechyd Meddwl. Roedd y strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y camau olaf o gael ei datblygu a’i chymeradwyo ac yn amlinellu ystod o egwyddorion a chamau gweithredu i’r cymryd ymlaen hyd at 2022. Amlygodd y Cynllun Gweithredu, y darparwyd copi ohono i Aelodau gyda’r rhaglen, gan nodi’n benodol yr ymagwedd gyffredinol at weithredu, sefydlu Timau Gweithredu Lleol, swyddogaethau’r strwythurau gweithredu a’r cynllun dirprwyo arfaethedig. Roedd Atodiad 1 y ddogfen yn dangos darlun gweledol o’r trefniadau arfaethedig ar gyfer gweithredu gydag Atodiad 2 yn dangos esiampl ymarferol o’r gwaith sy’n codi ar gyfer gofal aciwt, fel un o flaenoriaethau cynnar y broses weithredu.  Dywedodd ei bod yn barod i rannu copi llawn o’r Strategaeth Iechyd Meddwl drafft gyda’r Pwyllgor.        

 

            Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y Strategaeth Iechyd Meddwl ond dywedodd nad oedd y cynllun gweithredu yn amlinellu sut y byddai adnoddau’n cael eu defnyddio i atal pobl rhag mynd i Adrannau Argyfwng gyda materion Iechyd Meddwl.  Amlinellodd Lesley Singleton y gwaith oedd wedi ei wneud gyda’r elusen Cariad a’r digwyddiad diweddar gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a’r heddlu i sicrhau fod dewisiadau eraill yn cael eu cyflwyno i atal pobl rhag dod i’r Uned Frys. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os gallai meddygon teulu ddarparu gwybodaeth i gleifion gyda materion iechyd meddwl i’w hatal rhag mynd i’r Uned Frys. Amlinellodd Rob Smith y gwaith oedd yn cael ei wneud i sicrhau y byddai sawl ffordd y gellid cyfeirio cleifion iechyd meddwl i’r meysydd gwasanaeth perthnasol.   

 

            Croesawodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y Strategaeth Iechyd Meddwl. Nododd mai dim ond 7% o elusennau’r Lluoedd Arfog oedd yn delio â phroblemau iechyd meddwl a holodd sut y gallai’r Strategaeth wella gwasanaethau iechyd meddwl i bersonél y Lluoedd Arfog. Nododd Lesley Singleton ei bod yn aelod o Fforwm y Lluoedd Arfog a dywedodd y byddai’r Strategaeth Iechyd Meddwl yn cysylltu â’r Fforwm honno. Amlinellodd brosiect peilot a oedd wedi cael ei gynnal gan Brifysgol Glynd?r ynghyd â GIG Cymru lle’r oedd cyn-filwyr y lluoedd arfog yn derbyn cefnogaeth gan gymheiriaid i sicrhau eu bod ynghlwm â derbyn canlyniadau positif.           

 

            Roedd cwestiynau a ddarparwyd gan Aelodau’r Pwyllgor wedi cael eu cyflwyno cyn y cyfarfod hwn. Darparwyd yr ymatebion canlynol gan Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl:-

 

1.    Mae pryder am ddiffyg gwlâu Iechyd Meddwl neu bobl sydd angen cymorth fel cleifion mewnol. A fydd y Strategaeth hon yn helpu hynny a beth mae BIPBC yn gwneud am hyn ar hyn o bryd?

 

Cadarnhaodd Lesley Singleton y byddai’r Strategaeth yn cynnig rhagor o ffocws ar gefnogaeth llwybro, gan gynnwys darpariaeth i gleifion mewnol ond hefyd dewisiadau eraill yn lle gwlâu, ond roedd hon yn her fawr gan fod rhwystrau sylweddol i wasanaethau ar hyn o bryd. Amlinellodd yr angen i gleifion lifo drwy’r gwasanaeth a derbyn y lefel cywir o gefnogaeth ôl-ofal a byddem yn mynd i’r afael â hyn drwy weithio’n agosach gyda cydweithwyr y bartneriaeth wrth symud ymlaen. 

 

2.    Rydym yn sôn llawer am bobl gyda materion Iechyd Meddwl – all BIPBC egluro ble mae pobl gydag anableddau dysgu yn ffitio i mewn i’r strategaeth, a beth yw’r cynlluniau ar gyfer y client hwn?

 

Eglurodd Lesley Singleton ei bod ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddatblygu Strategaeth Anabledd Dysgu ar ran Gogledd Cymru. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i'r Bwrdd Rhan 9.

 

3.    Sut bydd y strategaeth hon yn cefnogi anghenion plant a phobl ifanc - yn arbennig y rhai sy’n symud o wasanaethau cynnal plant i wasanaethau oedolion, rydym yn gwybod y gall y trosglwyddiad fod yn anodd?

 

Eglurodd Lesley Singleton fod ffocws clir iawn ar blant a phobl ifanc yn y Strategaeth Iechyd Meddwl oedd yn cael ei datblygu. Dywedodd y gallai’r cyfnod trosglwyddo fod yn heriol iawn ond rhoddodd sicrwydd fod y Strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau ei fod yn gwneud hynny’n iawn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill ar achosion hynny lle nad oedd trefniadau trosglwyddo ar gyfer plant 13/14 oed oedd yn gorfod symud i wasanaethau oedolion pan fyddent yn 16 oed. Holodd a oedd angen recriwtio mwy o ymgynghorwyr seiciatreg.  Dywedodd Lesley Singleton fod gwaith yn symud ymlaen i wella llwybrau integreiddio i sicrhau fod trosglwyddiad drwy wasanaethau yn llawer llyfnach.  Nododd hefyd fod rhai heriau recriwtio yng ngorllewin Gogledd Cymru ond byddai’n darparu ymateb pellach i’r Pwyllgor ar nifer yr ymgynghorwyr seiciatreg yn dilyn y cyfarfod.        

 

4.    Mae nifer cynyddol o bobl ifanc nad ydynt yn cael diagnosis Iechyd Meddwl, fodd bynnag mae pryderon am eu lles emosiynol a meddyliol, rydym yn credu y gallai fod gan y bobl ifanc hyn broblemau Iechyd Meddwl sy’n amlygu eu hunain – sut allwn ni gefnogi’r gr?p hwn a pha ymyraethau cynnar sydd ar gael?

 

Eglurodd Lesley Singleton fod ymyrraeth gynnar wrth galon y Strategaeth Iechyd Meddwl drwy waith partneriaeth a chysylltu â’r Strategaeth Plant. Amlinellodd bwysigrwydd cyfeirio adnoddau i’r gwasanaethau angenrheidiol a'r gwaith sy’n cael ei wneud drwy addysg mewn ysgolion i sicrhau fod pobl ifanc yn cael cefnogaeth ddigonol. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Hilary McGuill bwysigrwydd sicrhau fod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  

 

            Roedd cwestiynau pellach a ddarparwyd gan Aelodau’r Pwyllgor wedi cael eu cyflwyno cyn y cyfarfod. Darparwyd yr ymatebion canlynol gan Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain a Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal:-

 

Allech chi ddarparu diweddariad ar Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug?

 

Dywedodd Rob Smith fod adolygiad diweddar o bob rheoliad tân yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug wedi nodi un ward nad oedd yn cwrdd â’r rheoliadau tân gofynnol. Byddai gwaith i fynd i’r afael â’r mater hwn yn dechrau ar ddechrau mis Hydref a byddai’n cymryd 8 wythnos i’w gwblhau. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau na fyddai unrhyw effaith ar gleifion ac roedd camau wedi eu cymryd i liniaru cau’r ward tra roedd y gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud.

 

Pryderon ynghylch maes parcio Ysbyty Maelor Wrecsam. Rhoddwyd esiampl lle nad oedd Cynghorydd yn gallu dod o hyd i le parcio yn unrhyw le dros gyfnod o 40 munud. Roedd ffrwd gyfan o geir yn gyrru o gwmpas gyda fo hefyd. Hefyd wedi clywed fod staff yno yn cael trafferth parcio

 

Dywedodd Rob Smith fod y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn ystyried argymhellion i wneud gwell defnydd o’r gofod maes parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam i ddatrys problemau parcio a rheoli llif ceir drwy’r safle. Gallai’r cynllun tymor hir gynnwys dewisiadau parcio a theithio. 

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Dave Wisinger ynghylch codi tâl am barcio, eglurodd Rob Smith fod pob Bwrdd Iechyd wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru (LlC) yn gofyn am hyblygrwydd i godi tâl am barcio lle teimlwyd fod hynny'n briodol.

 

Yr aros cynyddol am Apwyntiadau Meddyg yn Sir y Fflint, profiadau personol a thrigolion yn siarad â Cynghorwyr sydd yn aros chwe wythnos am apwyntiad. Mae hyn wrth gwrs yn achosi effaith ychwanegol ar ddrws ffrynt ysbytai cyffredinol a dyna pam fod cymaint o Ambiwlansiau y tu allan i ysbytai a pham fod amseroedd aros mor hir i gleifion.

 

Eglurodd Rob Smith fod lleihau amseroedd aros am apwyntiad gyda meddyg yn her barhaus. Dywedodd fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gasglu data o ran ble yr oedd oedi, newid y system apwyntiadau a newid lefelau staff. Roedd gwaith yn parhau i fynd ati i gyflwyno'r systemau hyn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Lowe mai un o bryderon cleifion oedd bod yn rhaid iddynt weld meddyg gwahanol bob tro roeddent yn gwneud ymweliad pellach a bod gwahanol gyngor yn cael ei roi ar rai adegau. Dywedodd Rob Smith fod hwn yn faes pwysig i fynd i’r afael ag o. Roedd ymgynghoriad yn digwydd ar hyn o bryd i weld a oedd yn bwysicach gweld yr un meddyg neu a oedd yn bwysicach cael eich gweld yn gynt. Gobeithiwyd y byddai datblygiad gwahanol fodelau staffio yn lliniaru anawsterau a wynebwyd gan feddygon teulu.         

 

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman fod yna feddygfa agored yng Nghanolfan Iechyd yr Wyddgrug a gofynnodd i un o gynrychiolwyr y feddygfa gael gwahoddiad i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. Awgrymodd Rob Smith y dylid gwahodd Dr Gareth Bowdler i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn cael trafodaeth gyffredinol am ofal cynradd ar draws Sir y Fflint.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at Fforymau Cleifion a Meddygon Teulu a oedd yn arfer cael eu cynnal a chaniataodd ymarferwyr a chleifion i drafod unrhyw bryderon. Dywedodd nad oedd hyn yn digwydd ym mhob practis meddygon teulu a holodd pam eu bod wedi dod i ben. Cytunodd Jane Bryant i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor ar ba bractisau meddygon teulu sy’n dal i gynnal y Fforwm yn dilyn y cyfarfod.   

 

Pryderon am nifer y ceisiadau cynllunio am ddatblygiadau mawr a phryder nad yw’r Bwrdd Iechyd yn gallu ymdopi â'r capasiti presennol heb gael cleifion ychwanegol

 

Dywedodd Rob Smith fod y Bwrdd Iechyd yn cael eu hymgynghori ar geisiadau cynllunio pan roedd yr angen yn codi, ond nododd nad oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu darparu capasiti ychwanegol ar gyfer datblygiadau pellach. 

 

Holodd y Cynghorydd Marion Bateman a ymgynghorwyd â’r Bwrdd Iechyd ar Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor.  Ymatebodd Rob Smith drwy ddweud fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn briodol ar yr effeithiau ar y gwasanaeth iechyd a dywedodd y byddai’n darparu copi o’r ymateb i’r Pwyllgor.

 

Yr amseroedd aros ar gyfer cleifion Canser a’r amser rhwng diagnosis a dechrau triniaeth, a yw’r amseroedd yn cael eu cyflawni neu a oes oedi?

 

Eglurodd Rob Smith mai’r amser aros ar gyfer diagnosis oedd 31 diwrnod, a 62 diwrnod oedd y targed ar gyfer triniaeth ar gyfer cleifion canser. Roedd y targed o 31 diwrnod ar gyfer diagnosis yn cael ei gyflawni yn gyson ond roedd y targed o 62 ar gyfer triniaeth yn fwy heriol oherwydd problemau recriwtio o fewn y meysydd endosgopi a gastrectomy. Dywedodd eu bod yn mynd i’r afael â phroblemau recriwtio ac roedd posibilrwydd y byddai’r ffigyrau hyn yn gwella.

 

Recriwtio a phrinder staff

 

Nododd Jane Bryant fod yna ddiffyg nyrsys cymwys ar hyn o bryd. Nid oedd hyn yn wir gyda nyrsys heb gymhwyso ond gyda nyrsys wedi hyfforddi. Roedd yna feysydd penodol lle'r oedd yna bwysau, er enghraifft, y gwasanaeth aciwt, lle’r oedd gwaith yn cael ei wneud gyda thimau i ystyried gwneud pethau’n wahanol. Roedd diwrnodau agored yn cael eu cynllunio i ddenu pobl i weithio yng Ngogledd Cymru. Nododd nad ydym mewn sefyllfa o argyfwng ond roedd pryderon yn dal i gael eu monitro.

 

Dywedodd Rob Smith fod recriwtio meddygon teulu yn parhau i fod yn her genedlaethol a bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i leihau dibyniaeth ar feddygon teulu mewn gofal cynradd. Roedd Dr Gareth Bowdler mewn cyswllt cyson â meddygon teulu i fonitro’r pwysau oedd yn cael ei roi arnynt.         

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch bwrsarïau, eglurodd Jane Bryant fod cynnydd wedi bod yn y lleoedd prifysgol oedd yn cael eu llenwi gan ymgeiswyr h?n a oedd wedi gweithio yn y sector gofal ac eisiau symud i gael eu hyfforddi i fod yn nyrsys.  Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) sylw ar yr heriau wrth gadw staff gyda phrofiad nyrsio yn y sector gofal preswyl oherwydd y gwahaniaethau rhwng telerau ac amodau a dywedodd fod angen parhau i gydweithio i fynd i’r afael â hyn.      

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflogau nyrsys graddedig, eglurodd Jane Bryant fod cyflogau cychwynnol rhwng £25,000 a £27,000 ond roedd hyn yn amrywio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch nifer y staff nyrsio asiantaeth, eglurodd Jane Bryant fod y nifer o staff nyrsio asiantaeth yn y gwasanaeth acíwt yn uwch oherwydd yr angen i gynnal diogelwch cleifion. Roedd adborth wedi ei gael gan y gweithlu a oedd yn gofyn am ragor o hyblygrwydd ar oriau gwaith oherwydd cyfrifoldebau teuluol a gofalu. Roedd hyn wedi cael ei ystyried a gobeithiwyd y byddai rhagor o hyblygrwydd o ran oriau gwaith r?an.  

 

Beth yw'r oedi i gleifion o Gymru ar gyfer POB triniaeth yn ysbytai Lloegr?Beth yw’r oedi i feddygon teulu o Gymru i gael y canlyniadau hyn?

 

Dywedodd Rob Smith fod data ar amseroedd aros yn Ysbytai Lloegr y tu allan i gylch gwaith y Bwrdd Iechyd ac nid oes mynediad ganddynt at y wybodaeth hon.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Hilary McGuill achos lle’r oedd claf wedi aros 8 wythnos am eu canlyniad MRI yn Ysbysty’r Countess of Chester a dywedodd gan mai GIG Cymru fyddai’n talu am y gwasanaeth hwn, dylid monitro’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.  Dywedodd fod y claf wedi derbyn ymddiheuriad ers hynny gan Ysbyty’r Countess of Chester.

 

Dywedodd Jane Bryant nad oedd yn ymwybodol o’r achos hwn a dywedodd fod y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael ag achosion o’r fath unwaith y byddai eu sylw’n cael ei dynnu tuag atynt. 

 

Pa welliannau sydd wedi eu gwneud ers y gosodwyd ‘Mesurau Arbennig' ar BIPBC?

 

Dywedodd Rob Smith fod sawl maes yr oedd angen mynd i'r afael â nhw, gan gynnwys, meddygon teulu y tu allan i oriau swyddfa, prosesau llywodraethiant, iechyd meddwl a mamolaeth. Dywedodd fod yr ymateb presennol gan LlC wrth drafod y materion hyn wedi bod yn gadarnhaol ond roedd mwy i’w wneud er mwyn parhau i wella.

 

Yn unol â sylwadau cynharach, awgrymodd y dylid gwahodd Dr Gareth Bowdler i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn trafod agenda ehangach o ran ble yr oedd y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd a meysydd pryder parhaus.  Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn a’r awgrym y dylid symud cyfarfod y Pwyllgor i ddydd Iau er mwyn hwyluso pethau i’r Dr Gareth Bowdler.

 

Diolchodd y Cynghorydd Kevin Hughes i Rob Smith, Lesley Singleton a Jane Bryant am y wybodaeth a gafwyd a gofynnwyd i’w ddiolchiadau gael eu trosglwyddo i’r staff nyrsio yn Ysbyty Maelor Wrecsam am eu gwaith a’u hymroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)         Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru; a

 

 (b)      Dylid gwahodd Dr Gareth Bowdler i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn trafod agenda ehangach o ran ble yr oedd y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd a meysydd pryder parhaus.

Dogfennau ategol: