Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Daeth dau Rybudd o Gynnig i law:

 

 (i)        Y Cynghorwyr Bernie Attridge a Kevin Hughes:

 

 “O ganlyniad i’r trychineb yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield 15 Ebrill 1989, bu farw 96 o bobl ddiniwed a adawodd eu cartrefi’r bore hwnnw i wylio gêm bêl-droed.

 

Oherwydd bod y dyrfa wed’i chamreoli, collodd y ffans hynny, a oedd rhwng 10 a 67 oed, eu bywydau. Fe wnaeth y trychineb hwn effeithio’n uniongyrchol ar deuluoedd yn Sir y Fflint.

 

Mae’n drist cymharu ymddygiad y rhai hynny a oedd mewn swyddi cyfrifol a’r cyhoedd yn ymddiriedaeth ynddynt, gyda'r urddas a'r dewrder a ddangoswyd gan deuluoedd y 96, sydd wedi parhau ers 1989 i frwydro dros gyfiawnder wrth ymdopi gyda cholled eu hanwyliaid. Ni all y Cyngor anwybyddu’r boen a’r trallod a achoswyd gan y celwyddau a’r sylwadau dirmygus a argraffwyd yn The Sun ar y pryd – yn enwedig i deuluoedd y 96.

 

Ni allwn ychwaith anwybyddu'r modd y bu i The Sun fod yn ystyfnig a gwrthod ymddiheuro'n gyhoeddus am y boen a achosodd, nes y daeth yn amlwg i'r papur newydd fod barn y cyhoedd yn gofyn am ymddiheuriad o'r fath.

 

26 Ebrill 2016, dyfarnodd y rheithgor bod pob dioddefwr wedi’u lladd yn anghyfreithlon. Gobaith y Cyngor hwn yw y bydd casgliadau cwest Hillsborough maes o law yn arwain at gyfiawnder o’r diwedd i ddioddefwyr y trychineb hwn.

 

Rydym yn mynegi ein cefnogaeth i’r rhai a effeithiwyd gan y trychineb ac yn canmol ymdrechion parhaus perthnasau a ffrindiau’r dioddefwyr yn eu brwydr dros gyfiawnder. Rydym yn condemnio ymddygiad papur newydd The Sun a byddwn ni fel Cyngor yn cefnogi unrhyw adwerthwr neu werthwr papurau newydd yn Sir y Fflint sy’n dewis peidio â gwerthu papur newydd The Sun. Rydym yn rhoi ein cefnogaeth i’r ymgyrch “Total Eclipse of The Sun” ar y cyd â chynghorau eraill yng ngogledd orllewin y Deyrnas Unedig.”

 

                        Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

           

I gefnogi eu Cynnig ar y cyd, siaradodd y Cynghorydd Attridge am ddigwyddiadau ofnadwy Hillsborough a arweiniodd at farwolaethau 96 ffan pêl-droed diniwed, oherwydd camreolaeth o'r dyrfa, a sut roedd y trychineb wedi effeithio ar fywydau preswylwyr yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod yn drist cymharu ymddygiad y rhai â swyddi cyfrifol a phobl yn ymddiried ynddynt, â’r teuluoedd hynny a oedd wedi bod yn brwydro dros gyfiawnder wrth ymdopi â cholled eu hanwyliaid.  Dywedodd na allai’r Cyngor anwybyddu’r celwyddau a argraffwyd ym mhapur newydd The Sun ar y pryd, neu ei ystyfnigrwydd i argraffu ymddiheuriad i’r teuluoedd, a bod y Cyngor yn cefnogi’r rhai a effeithiwyd gan y trychineb ac yn canmol ymdrechion parhaus perthnasau a theuluoedd yn eu cais am gyfiawnder. Casglodd y byddai’r Cyngor yn cefnogi unrhyw werthwr papurau newydd a fyddai’n dewis peidio â gwerth The Sun.

 

Esboniodd y Cynghorydd Kevin Hughes, wrth eilio’r Cynnig yn ffurfiol, mai’r rheswm dros gyflwyno'r Rhybudd o Gynnig oedd bod y cwest yng Ngorffennaf 2016 i drychineb Hillsborough wedi canfod bod 96 o ddioddefwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon. Esboniodd nad oedd y Rhybudd o Gynnig yn ceisio gwaharddiad ar Bapur Newydd The Sun, fel y damcaniaethwyd, ond i gefnogi teuluoedd Sir y Fflint a oedd wedi'u heffeithio gan y trychineb, ac amlinellodd erthygl ddiweddar a oedd wedi bod yn The Sun, y teimlodd nad oedd yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Neville Phillips, er iddo roi sylwadau ar ddigwyddiadau ofnadwy Hillsborough, nad oedd yn teimlo y gallai gefnogi’r Rhybudd o Gynnig gan fod Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, yr oedd ef yn Aelod ohoni, yn sefyll dros ryddid ar gyfer unrhyw unigolyn, ac felly teimlodd y byddai’n rhagrithiol cefnogi gwaharddiad o bapur newydd The Sun.

 

Siaradodd nifer o Aelodau yn erbyn y Cynnig o Rybudd, gan ddatgan eu pryder o dynnu rhyddid pobl i ddewis wrth brynu The Sun. Rhoddodd y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y baich ariannol a fyddai’n cael ei osod ar werthwyr papurau newydd a fyddai’n penderfynu peidio â gwerthu The Sun, a holodd a fyddai’r Cyngor yn eu had-dalu nhw fel rhan o’r gefnogaeth a amlinellir yn y Rhybudd o Gynnig.

 

Holodd y Cynghorydd Clive Carver pam fod y Rhybudd o Gynnig a drafodwyd yn wahanol i’r fersiwn a gyhoeddwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach eleni. Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y broses i Aelodau gyflwyno Rhybuddion o Gynnig ac esboniodd fod y diwygiadau i’r Rhybudd gwreiddiol wedi’u hawgrymu ganddo ef a’r Prif Weithredwr.

 

Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y Rhybudd o Gynnig, gan nodi’r egwyddorion i gefnogi’r teuluoedd a effeithiwyd gan drychineb Hillsborough. Esboniodd y Cynghorydd Aaron Shotton nad oedd y Cynnig yn ceisio gwneud i werthwyr papurau newydd beidio â chyflenwi/gwerthu The Sun, ond yn cefnogi’r rhai a oedd yn dewis gwneud hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Woolley welliant bod y Cynnig o Rybudd yn darfod wrth "Papur Newydd The Sun” yn ail linell y paragraff olaf. Ni dderbyniwyd y gwelliant hwn gan y Cynghorwyr Attridge a Hughes. Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Richard Jones a ddywedodd ei fod yn cefnogi teimlad y Cynnig ond wedi gorfod cytuno gyda'r sylwadau blaenorol ynghylch tynnu rhyddid pobl ymaith i ddewis.

 

O'i roi i’r bleidlais, collwyd y gwelliant.

 

Yn ei hawl i ymateb, dywedodd y Cynghorydd Attridge bod yr ymgyrch ‘Total Eclipse of the Sun' wedi cysylltu â phob Cyngor yn gofyn am eu cefnogaeth ac roedd nifer o Gynghorau ar draws y wlad eisoes wedi pasio Cynigion tebyg.  Gofynnodd fod pob Aelod yn cefnogi’r Rhybudd o Gynnig fel y dangoswyd yn y Rhaglen a gofynnodd am bleidlais wedi’i chofnodi. Fe wnaeth y nifer ofynnol o Gynghorwyr sefyll o blaid hyn.

 

Rhoddwyd y cynnig gwreiddiol i’r bleidlais a’i derbyn.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Rhybudd o Gynnig:

Bernie Attridge, Glyn Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Helen Brown, Geoff Collett, David Cox, Paul Cunningham, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Carol Ellis, David Evans, George Hardcastle, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Mike Lowe, Dave Mackie, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Small, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, David Williams a David Wisinger.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol yn erbyn y Rhybudd o Gynnig:

Clive Carver, Bob Connah, Chris Dolphin, Neville Phillips, Tony Sharps ac Owen Thomas.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr canlynol ymatal rhag pleidleisio ar y Rhybudd o Gynnig:

Mike Allport, Sian Braun, Jean Davies, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, Veronica Gay, Patrick Heesom, Andrew Holgate, Dennis Hutchinson, Rita Johnson, Richard Jones, Tudor Jones, Colin Legg, Brian Lloyd, Hilary McGuill a Mike Peers.

 

 (ii)       Y Cynghorydd Clive Carver

 

 “Mae’r Cyngor hwn yn difrïo Llywodraeth Cymru am hyrwyddo adeiladu mwy o dai, drwy beidio â sicrhau ar yr un pryd bod gan GIG Cymru ddigon o feddygfeydd i ymdopi â’r boblogaeth bresennol, heb sôn am gynnydd mewn poblogaeth a ddaw yn sgil y tai hyn.”

 

Wrth siarad am ei Rybudd o Gynnig, rhoddodd y Cynghorydd Carver sylw ar ofyniad gan Lywodraeth Cymru i’r Cyngor gael cyflenwad o dir ar gyfer adeiladu a’r gwaith parhaus ar gyhoeddi’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a fyddai’n canolbwyntio ar gyflawni datblygiad cynaliadwy yn y Sir am y 15 mlynedd nesaf. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru angen twf ond nid ydyw’n darparu cyllid digonol i gefnogi hyn drwy GIG Cymru. Amlinellodd achosion lle mae nifer y Meddygon Teulu wedi gostwng, ond bod nifer y cleifion wedi cynyddu oherwydd bod mwy o dai’n cael eu hadeiladu a sut roedd hyn yn cael ei ailadrodd ar draws y Sir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peers welliant i'r Rhybudd o Gynnig i ddisodli'r geiriau 'i ymdopi â'r boblogaeth bresennol' gyda 'ar gyfer y capasiti i ymdopi â'r boblogaeth bresennol’. Eiliwyd y gwelliant hwn gan y Cynghorydd Veronica Gay a siaradodd o blaid y Rhybudd o Gynnig, yn seiliedig ar y diffyg cyfredol o gyfleusterau yn y ward a gynrychiolwyd ganddi. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom na allai gefnogi’r Rhybudd o Gynnig oherwydd prinder y tai yn y Sir a dywedodd am yr angen i barhau i adeiladu cartrefi gyda’r isadeiledd digonol. 

 

Siaradodd nifer o Gynghorwyr o blaid y gwelliant, gan nodi’r anawsterau wrth gael apwyntiadau Meddyg Teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig o’r Sir. Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am yr angen am gynnydd yn y cyflenwad o dai a hefyd prinder y Meddygon Teulu cymwys, a oedd yn broblem ledled y sir.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Aaron Shotton o blaid y gwelliant ond rhoddodd rybudd o welliant pellach. 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid y gwelliant a dywedodd fod gan breswylwyr yr hawl i gael gwasanaethau. Nid oedd yn deall pam bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ar bolisi cynllunio TAN1, a deimlodd oedd yn creu problem, a dywedodd pe bai tai’n parhau i gael eu hadeiladu, byddai gwasanaethau’n cael eu glastwreiddio.  Cytunodd fod angen tai, ond ochr yn ochr â hynny, bod angen ystyried gwasanaethau addas.   

 

Mewn ymateb i sylwadau am y CDLl, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor wedi holi datblygwyr a oedd ganddynt unrhyw safle roedd am iddynt eu cynnwys yn y CDLl. Fe wnaeth y Cyngor asesu’r safleoedd hynny a gafodd eu hadrodd wedyn i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio a oedd yn gyfarfod preifat. Byddai’r dogfennau hyn yn dod yn gyhoeddus ar y cam priodol. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus sy’n ofynnol ac fe wnaeth y tîm Cynllunio ymgysylltu â GIG Cymru i gynllunio ar gyfer lefelau disgwyliedig o dwf.

 

O'i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y gwelliant. Y cynnig terfynol nawr oedd “Mae’r Cyngor hwn yn difrïo Llywodraeth Cymru am hyrwyddo adeiladu mwy o dai, drwy beidio â sicrhau ar yr un pryd bod gan GIG Cymru ddigon o feddygfeydd â’r capasiti i ymdopi â’r boblogaeth bresennol, heb sôn am gynnydd mewn poblogaeth a ddaw yn sgil y tai hyn.”

 

Derbyniodd y Cynghorydd Shotton welliant pellach bod y geiriad canlynol yn cael ei ychwanegu ar ddechrau’r Rhybudd o Gynnig:-

 

 “Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gyllid ar y gweill i fynd i'r afael â chapasiti Meddygon Teulu lleol, oherwydd y gofyniad gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach". 

 

Roedd y Rhybudd o Gynnig a oedd yn weddill am aros yr un fath, yn dilyn dileu'r geiriad "Mae'r Cyngor hwn yn difrïo Llywodraeth Cymru am hyrwyddo’. 

 

Wrth siarad am y gwelliant, dywedodd y Cynghorydd Shotton na ddylai’r Cyngor ddifrïo Llywodraeth Cymru. Cydnabu fod angen mwy o Feddygon Teulu ac am y cydbwysedd a oedd ei angen. Heb yr adnoddau o gyllid i GIG Cymru, ni fyddai newid. Roedd angen cyllid digonol i ddechrau gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o Feddygon Teulu i fodloni’r angen.  

 

Roedd y Cynghorydd Carver yn teimlo y dylid cadw’r gair “difrïo” oherwydd bod GIG Cymru’n defnyddio cyllid ar gyfer prosiectau eraill ac nid yn ddigonol i’r GIG. Dywedodd y Cynghorydd Ellis fod cynnydd yn nifer y tai a adeiladwyd hefyd yn cael effaith andwyol ar ysbytai ac awgrymodd bod angen adolygu iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru.   

 

O’i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y gwelliant, fel y cylchredwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, yn cynnwys y gwelliant llwyddiannus gan y Cynghorydd Peers, fel y darllenwyd gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) er eglurdeb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carver am bleidlais wedi’i chofnodi ond ni chafodd ei chefnogi gan nifer ofynnol yr Aelodau.

 

O’i roi i’r bleidlais, daeth y gwelliant yn gynnig terfynol, ac fe’i derbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)         Bod Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Attridge a Kevin Hughes yn cael ei gefnogi fel a ganlyn:“O ganlyniad i’r trychineb yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield 15 Ebrill 1989, bu farw 96 o bobl ddiniwed a adawodd eu cartrefi’r bore hwnnw i wylio gêm pêl-droed. Oherwydd bod y dyrfa wedi’i chamreoli, collodd y ffans hynny, a oedd rhwng 10 a 67 oed, eu bywydau. Fe wnaeth y trychineb hwn effeithio’n uniongyrchol ar deuluoedd yn Sir y Fflint. Mae’n drist cymharu ymddygiad y rhai hynny a oedd mewn swyddi cyfrifol a’r cyhoedd yn ymddiried ynddynt, gyda'r urddas a'r dewrder a ddangoswyd gan deuluoedd y 96, sydd wedi parhau ers 1989 i frwydro dros gyfiawnder wrth ymdopi gyda cholled eu hanwyliaid. Ni all y Cyngor anwybyddu’r boen a’r trallod a achoswyd gan y celwyddau a’r sylwadau dirmygus a argraffwyd yn The Sun ar y pryd - yn enwedig i deuluoedd y 96 a fu farw. Ni allwn ychwaith anwybyddu'r modd y bu i The Sun fod yn ystyfnig a gwrthod ymddiheuro'n iawn am y boen a achosodd, nes y daeth yn amlwg i'r papur newydd fod barn y cyhoedd yn gofyn am ymddiheuriad o'r fath. 26 Ebrill 2016, dyfarnodd y rheithgor bod pob dioddefwr wedi’u lladd yn anghyfreithlon. Gobaith y Cyngor hwn yw y bydd casgliadau cwest Hillsborough maes o law yn arwain at gyfiawnder o’r diwedd i ddioddefwyr y trychineb hwn. Rydym yn mynegi ein cefnogaeth i’r rhai a effeithiwyd gan y trychineb ac yn canmol ymdrechion parhaus perthnasau a ffrindiau’r dioddefwyr yn eu brwydr dros gyfiawnder. Rydym yn condemnio ymddygiad papur newydd The Sun a byddwn ni fel Cyngor yn cefnogi unrhyw adwerthwr neu werthwr papurau newydd yn Sir y Fflint sy’n dewis peidio â gwerthu papur newydd The Sun. Rydym yn rhoi ein cefnogaeth i’r ymgyrch “Total Eclipse of The Sun” ar y cyd â chynghorau eraill yng ngogledd orllewin y Deyrnas Unedig.”; a

 

 (b)      Bod y gwelliant i'r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Carver fel y’i cyflwynwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, yn cynnwys y gwelliant llwyddiannus gan y Cynghorydd Peers, yn cael ei gefnogi fel a ganlyn:“Bod y Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar y gweill i fynd i’r afael â chapasiti Meddygon Teulu lleol, oherwydd y gofyniad gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach y gwaith o adeiladu mwy o dai, wrth beidio â sicrhau ar yr un pryd bod gan GIG Cymru ddigon o feddygfeydd Meddygon Teulu neu’r capasiti i ymdopi â'r boblogaeth bresennol, heb sôn am gynnydd yn y boblogaeth a ddaw yn sgil y tai hyn."

Dogfennau ategol: