Agenda item
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)
- Cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu, Dydd Iau, 24ain Awst, 2017 11.00 am (Eitem 3.)
- View the reasons why item 3. is restricted
- Cefndir eitem 3.
Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dau euogfarn. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) gan yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig i roi sylw i’r holl euogfarnau, ac fe atodwyd y rhain i’r adroddiad. Yn sgil natur ac amlder yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau. Nododd ei fod wedi cyflawni rhai troseddau yn ei ieuenctid, ac yn difaru gwneud hyn yn fawr iawn, ac eglurodd y rhesymau dros ei weithredoedd. Cyfeiriodd at ei euogfarn diwethaf yn 2003 a dywedodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ers yr amser hwnnw. Ail-adroddodd ei fod yn difaru ei ymddygiad yn y gorffennol yn fawr iawn, a'i fod wedi datblygu'n unigolyn cyfrifol, gonest, sy'n gweithio'n galed, o ganlyniad i'w brofiadau a'r euogfarnau a wasanaethodd.
Atebodd yr ymgeisydd gwestiynau yngl?n â'i hanes cyflogaeth, ac amgylchiadau personol a theuluol. Dywedodd ei fod wedi gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda sefydliadau, fel cyn-droseddwr, i hysbysu ac addysgu pobl a oedd wedi canfod eu hunain mewn amgylchiadau anodd tebyg.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at euogfarn diwethaf yr ymgeisydd, a cheisiodd ragor o eglurhad ynghylch yr amgylchiadau a oedd wedi achosi'r drosedd a'r ddedfryd a wasanaethodd. Cwestiynwyd yr ymgeisydd yn fanwl gan y Cyfreithiwr ar ei fan preswylio ar yr adeg honno, natur ei gyflogaeth, a'i ddealltwriaeth o faterion yn ymwneud â sylweddau anghyfreithlon. Ymatebodd yr ymgeisydd i’r cwestiynau ac eglurodd ei fod wedi gweithredu’n ddiffuant o ran ei euogfarn, ond wedi cael ei dwyllo ynghylch pwrpas y dasg roedd wedi cytuno i'w chynnal.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd a oedd yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn dibynnu ar incwm o gyflogaeth ar gyfer annibyniaeth ariannol. Dywedodd ei fod yn mwynhau ei waith a chyfarfod pobl, a’i fod yn unigolyn gofalgar a chymwynasgar. Pan gafodd ei holi am ei ‘ffordd o fyw’ flaenorol, dywedodd ei fod wedi cael diwygiad a oedd yn ceisio gwneud y gorau o'i fywyd. Dywedodd ei fod yn difaru ei benderfyniadau yn y gorffennol a’r amgylchiadau personol a oedd wedi’u hysgogi.
Mewn ymateb i gais gan y Panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei ragolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol pe bai ei gais yn llwyddo.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
4.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad. Ystyriwyd gonestrwydd yr ymgeisydd gan ei fod wedi methu â datgelu ei holl euogfarnau. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr amgylchiadau a oedd ynghlwm wrth bob achos, a'r eglurhad a roddwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r amser a oedd wedi mynd heibio ers yr euogfarn diwethaf, a theimlai'r aelodau bod yr ymgeisydd wedi adrodd hanes ei weithredoedd yn llawn ac yn gredadwy. Cytunodd yr Is-Bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
4.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.