Agenda item
Ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)
- Cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu, Dydd Iau, 27ain Gorffennaf, 2017 10.00 am (Eitem 4.)
- View the reasons why item 4. is restricted
- Cefndir eitem 4.
Pwrpas: I Aelodau ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni ac ystyried a yw’n dal i fod yn unigolyn cymwys ac addas i barhau i ddal trwydded
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) ac i benderfynu a oedd yn parhau i fod yn berson addas a phriodol o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i barhau i ddal trwydded o’r fath.
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at un o wrandawiadau’r Is-bwyllgor a oedd wedi cael ei gynnal ar 3 Ebrill 2017. Nododd fod gwybodaeth wedi ei derbyn gan adran Galwedigaethau Hysbysadwy Heddlu Gogledd Cymru ar ôl yr Is-Bwyllgor, a oedd wedi ei datgelu at y diben o hysbysu’r Adran Drwyddedu am berygl posibl. Cyfeiriwyd y mater at yr Is-bwyllgor Trwyddedu gan fod y digwyddiad wedi digwydd cyn y gwrandawiad ar 3 Ebrill 2017 a theimlwyd y dylai’r Panel fod wedi cael cyfle i ystyried hyn yn y cyfarfod hwnnw.
Gofynnodd y Cadeirydd i Ddeiliad y Drwydded egluro amgylchiadau’r digwyddiad fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd Deiliad y Drwydded fod honiad wedi ei wneud iddo ymddwyn yn amhriodol pan roedd wedi cludo teithiwr i'w chartref. Gwadodd yr honiad a dywedodd ei fod wedi “mynd allan o’i ffordd” i ddarparu cymorth i’r teithiwr ac wedi ei helpu hi drwy gario ei bagiau siopa at y drws. Dywedodd Deiliad y Drwydded fod y g?yn wedi ei synnu gan ei fod wedi bod yn gymdeithasol gyda’r cwsmer ond nad oedd wedi gwneud unrhyw sylwadau nac ystumiau personol tuag ati. Pan holwyd Deiliad y Drwydded gan y Cadeirydd, cadarnhaodd ei fod wedi rhoi “cusan ar foch” y cwsmer wrth iddo ffarwelio â hi wrth ddychwelyd i’w gerbyd ond dywedodd nad oedd wedi bwriadu ei phechu. Eglurodd ei fod yn ystyried ei weithred yn ymddygiad “cymdeithasol” arferol a dywedodd ei fod yn mwynhau ei swydd â chwrdd â phobl. Pan gafodd ei gwestiynu ymhellach, dywedodd Deiliad y Drwydded nad oedd yn adnabod y cwsmer ac nad oedd wedi cymryd "archeb” ganddi o’r blaen. Gwnaeth Deiliad y Drwydded gydnabod y gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn amhriodol..
Cwestiynodd y Panel Ddeiliad y Drwydded a’r Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat ynghylch y camau oedd wedi eu cymryd gan Heddlu Gogledd Cymru ers hynny.
Gofynnodd y Cyfreithiwr i Ddeiliad y Drwydded egluro pam nad oedd wedi datgelu’r honiad yn y cyfarfod blaenorol. Cwestiynodd y Cyfreithiwr Ddeiliad y Drwydded ymhellach am ei weithredoedd pan roedd wedi mynd â’i gwsmer i’w chartref.Cadarnhaodd Deiliad y Drwydded a’r Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat, er fod y digwyddiad wedi digwydd cyn y gwrandawiad nad oedd yr honiad wedi ei hysbysu i’r naill na’r llall ohonynt tan ar ôl y gwrandawiad ar 3 Ebrill 2017. Pan gafodd ei holi, atebodd Deiliad y Drwydded gan ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn berson addas a phriodol i ddal trwydded ac ail-bwysleisiodd ei fod yn mwynhau ei swydd a’i fod yn cynnig cymorth i’w gwsmeriaid os oedd angen a’i fod yn ymgysylltu â nhw mewn modd cymdeithasol.
Gofynnodd y Panel i Ddeiliad y Drwydded pam nad oedd wedi adrodd y digwyddiad i’w gyflogwr ar ôl iddo ddigwydd.Eglurodd Deiliad y Drwydded nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi pechu ei gwsmer a dywedodd nad oedd unrhyw awgrym wedi bod, ar lafar nac fel arall, ganddi ar y pryd ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati. Dywedodd fod y cwsmer wedi diolch iddo am ei gymorth pan adawodd.
Caniataodd y Cadeirydd gyflogwr Deiliad y Drwydded (y Gweithredwr) i siarad ar ei ran. Siaradodd y Gweithredwr o blaid Deiliad y Drwydded a oedd wedi gweithio i’w fusnes ers sawl blwyddyn. Eglurodd y Gweithredwr ei fod wedi sicrhau fod ei yrwyr yn cynnal safonau da a bod gan ei fusnes enw da. Eglurodd ei fod wedi cymryd mesurau i sicrhau na fyddai’r digwyddiad yn cael ei ailadrodd ac na fyddai ei fusnes yn derbyn archebion gan y cwsmer yn y dyfodol.
Holodd y Cadeirydd y parti cysylltiedig arall a oedd yn bresennol a oedd hi’n credu fod Deiliad y Drwydded yn berson addas a phriodol i barhau i ddal trwydded o’r fath. Cadarnhaodd y parti cysylltiedig ei bod a dywedodd fod Deiliad y Drwydded yn berson diffuant, cymdeithasol a oedd yn mwynhau helpu ac ymgysylltu â’r gwsmeriaid.
Gofynnwyd i’r Arweinydd Tîm, Deiliad y Drwydded, a’r partïon cysylltiedig i adael y cyfarfod tra roedd y cais yn cael ei bennu.
4.1 Penderfyniad am y Cais
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i’r honiad a oedd wedi ei dderbyn a’r holl sylwadau a wnaed.Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i’r holl wybodaeth a ddarparwyd i benderfynu a oedd Deiliad y Drwydded yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr ar y Cyd.
Wrth ystyried y cais, yr ystyriaeth bwysicaf i’r Is-bwyllgor oedd gwarchod y cyhoedd ac roedd hyn yn flaenllaw wrth wneud penderfyniadau o’r natur hwn.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i benderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu mewn cyfarfod a oedd wedi ei gynnal ar 3 Ebrill 2017.
Ar ôl ystyried y g?yn, penderfynodd yr Is-bwyllgor na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd a bod Deiliad y Drwydded yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i barhau i ddal Trwydded Yrrwr ar y Cyd.
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
4.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth Ddeiliad y Drwydded fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y g?yn ac wedi penderfynu na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd. Roedd yr Is-bwyllgor wedi penderfynu fod Deiliad y Drwydded yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr ar y Cyd.
PENDERFYNWYD:
Bod Deiliad y Drwydded yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Dechreuodd yr ail wrandawiad am 10.55am a daeth i ben am 11.55am.