Agenda item
Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau a Chyrff Mewnol
- Cyfarfod Annual County Council, Cyngor Sir y Fflint, Dydd Iau, 18fed Mai, 2017 11.00 am (Eitem 8.)
- Cefndir eitem 8.
Pwrpas: Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.
Yn ogystal, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth hefyd i benodi aelod lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio a amlinellwyd mewn adroddiad ar wahân, a hefyd cymeradwyo’r broses dros ddewis cynrychiolydd tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau. Roedd hefyd nifer o newidiadau i’w gwneud o ran y modd y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017.
(A) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Roedd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd swyddogaethau tebyg iawn. Yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor y Cyfansoddiad roedd cais i gyfuno’r ddau bwyllgor. Credwyd fod y cylch gwaith statudol yn ddigon eang i ymgorffori’r swyddogaeth a gyflawnwyd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad felly argymhellwyd ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac y dylai’r Cyngor Llawn adolygu, creu neu ddirymu is-ddeddfau;
(b) Dylid penodi’r Pwyllgorau a amlinellir yn adran 1.04 yr adroddiad; a
(c) Dylid diwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r pwyllgorau a benodwyd.
(B) Penderfyniad ar faint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.
Crëwyd Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdod Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 ar 21 Mawrth a daethant i rym ar 5 Mai 2017. Roeddent yn gorchymyn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gynnwys rhwng 11 a 21 Aelod o ran maint a dim mwy na 50% o aelodaeth lawn y Cyngor. Roedd maint arfaethedig y Pwyllgor yn cyflawni’r gofynion hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid cymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
PENDERFYNWYD:
Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a amlinellwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, gan nodi'r cyfyngiadau sy'n rhaid eu gweithredu bellach i aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio.
(C) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn
Eglurodd y Prif Swyddog Llywodraethu ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo. Amlinellwyd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel yr amlinellwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor yn Rhan 2 y Cyfansoddiad (gan nodi'r newidiadau mewn perthynas â Phwyllgorau’r Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd).
(D) Cydbwysedd Gwleidyddol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’i diwygiwyd.
Roedd cyfanswm o 157 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws holl Bwyllgorau’r Cyngor yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau ac amlinellwyd hawl pob gr?p i seddi ym mharagraff 1.15 yr adroddiad.
Cefnogodd y Cynghorydd Peers ddiwygiad y dylid ychwanegu’r trydydd pwynt bwled i 1.16 yn gymaint ag y dylid ymgymryd â'r lefel ofynnol o hyfforddiant o 75% er mwyn i Aelod eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.17 yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid (1) diwygio’r Cyfansoddiad i ddangos na chaniateir unrhyw eilyddion ar y Pwyllgor Cynllunio ac y bydd cworwm yn 50%; a (2) diwygio’r Cyfansoddiad er mwyn caniatáu, os bydd 2 Aelod o ward aml-aelod yn cael eu henwebu i'r Pwyllgor Cynllunio, yna bydd y sedd yn cael ei dyrannu
· Yn yr achos cyntaf, drwy gytundeb rhwng y 2 arweinydd gr?p unigol;
· Os na fydd modd dod i gytundeb, i’r enwebiad cyntaf i’w dderbyn gan y Swyddog Priodol; a
· Bod y lefel ofynnol o hyfforddiant o 75% er mwyn i Aelod eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio wedi cael ei gyflawni.
(b) Dylid dyrannu’r seddi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol (a’r rheolau ar aelodaeth o’r Pwyllgor Cynllunio)
(E) Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau. Roedd tabl ym mharagraff 1.18 yr adroddiad yn amlinellu pa gorff oedd yn penodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol).
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y canlynol, a eiliwyd gan y Cynghorydd Attidge.
- Penodi’r Cynghorydd Dave Hughes yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd;
- Penodi’r Cynghorydd Sharps yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu; a
- Penodi’r Cynghorydd Wisinger yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd Peers ddiwygiad. Teimlai, oherwydd mai’r Gr?p Cynghrair Annibynnol oedd ail gr?p fwyaf y Cyngor y dylid dyrannu Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Trwyddedu iddynt. Cyfeiriodd at y nifer o swyddi am dâl a dderbyniwyd gan y Gr?p Annibynnol y flwyddyn flaenorol a oedd wedi bod yn gyfystyr â 50% o aelodaeth y Cyngor. Cynigiodd y dylid gwneud y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin. Pan gynhaliwyd pleidlais ar hyn, cafodd ei wrthod a phleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a’i gymeradwyo.
Gan na chafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai enwebiad yn cael ei geisio yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet. Dyrannwyd swyddi Cadeiryddion i’r grwpiau a oedd a lle ar y Cabinet yn gyntaf ac roedd yr hawl yn cael ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf. Cafodd y swyddi Cadeiryddion a oedd yn weddill eu dyrannu i grwpiau heb seddi ar y Cabinet, gan dalgrynnu i fyny i’r rhif llawn agosaf.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y canlynol, a eiliwyd gan y Cynghorydd Attidge.
Pwyllgorau Trosolwg a ChraffuGr?p i Ddewis Cadeirydd
Cymuned a Menter Llafur (y Cynghorydd Ron Hampson)
Addysg ac Ieuenctid Llafur (y Cynghorydd Dave Healey)
Adnoddau Corfforaethol Ceidwadwyr
Amgylchedd Annibynwyr Newydd
Newid Sefydliadol Y Gynghrair Annibynnol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Annibynnol
Nododd y Cynghorydd Peers fod y grwpiau Democratiaid Rhyddfrydol a’r Annibynwyr Newydd yr un maint ac o ystyried fod gan yr Annibynwyr Newydd Gadeiryddiaeth Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd y flwyddyn flaenorol, teimlai ei bod ond yn deg i hyn gael ei roi r?an i gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol a chynigiodd hynny fel gwelliant ffurfiol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Owen Thomas. O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a chafodd ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Penodi Cadeirydd y Pwyllgorau canlynol (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):
- Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd – y Cynghorydd Dave Hughes
- Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Sharps
- Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu – y Cynghorydd Wisinger
(b) Byddai’r grwpiau canlynol yn Cadeirio'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellir:
Cymuned a Menter - Gr?p Llafur
Addysg ac Ieuenctid - Gr?p Llafur
Adnoddau Corfforaethol - Gr?p y Ceidwadwyr
Amgylchedd - Gr?p yr Annibynwyr Newydd
Newid Sefydliadol - Gr?p y Gynghrair Annibynnol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Gr?p Annibynnol
(F) Materion Dewis Lleol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyngor gytuno ar ran o’r fath o’r Cynllun Dirprwyo gan fod y Cyngor wedi penderfynu ei fod yn fater i’r Cyngor gytuno arno. Roedd hyn yn ymwneud â dewis lleol o swyddogaethau y gellir eu penderfynu naill ai gan y Cyngor neu'r Cabinet ac / neu swyddogion dynodedig. Cafodd tabl o Swyddogaethau Dewis Lleol ei gynnwys yn Rhan 3, Adran A, Tabl 4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y dylid cadarnhau’r Materion Dewis Lleol presennol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Aaron Shotton.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Materion Dewis Lleol presennol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
(G) Enwebu i Gyrff Mewnol
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen yn cynnwys 7 Aelod. Nid oedd hwn yn Bwyllgor Sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr y Grwpiau. Yn flaenorol, roedd yn arferol i Aelodau’r Pwyllgor fod ar sail cydbwysedd gwleidyddol, gan gynnwys yr Aelod Cabinet perthnasol. Roedd y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol y byddai Cadeirydd neu Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol yn Aelodau o’r Pwyllgor ac argymhellwyd y dylid parhau â’r arfer hwnnw.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau.
(H) Pwyllgor Safonau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Pwyllgor Safonau yn cynnwys pum aelod annibynnol, cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned a thri Chynghorydd (na allai hefyd fod yn Arweinydd nac yn Aelod o'r Cabinet). Byddai’r tri Aelod yn cael eu penodi ar gyfer tymor llawn y Cyngor. Gallai’r Cynghorwyr Woolley a McGuill wasanaethau am un tymor arall yn unig. Roedd y Cynghorydd Cox eisoes wedi gwasanaethu am ddau dymor ac felly ni allai gael ei ailbenodi. Nododd y Cynghorydd Woolley ei fod yn barod i gael ei benodi am dymor arall ond ni allai’r Cynghorydd McGuill oherwydd ei ymrwymiadau ar gorff allanol. Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Peers, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynghorwyr Sir wedi eu hailbenodi yn y Cyfarfod Blynyddol yn 2016 ond eu bod eisoes ran o’r ffordd drwy eu tymor o bedair blynedd.
Roedd cyfnod y cynrychiolydd cyngor tref a chymuned wedi dod i ben. Gallai’r Cyngor ailbenodi’r cynrychiolydd presennol neu gallai geisio cael cynrychiolydd newydd. Roedd y cynrychiolydd presennol, y Cynghorydd Duggan-Keen o Gyngor Tref Caerwys, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor ac yn barod i wasanaethu unwaith eto. Cynigiwyd y dylai’r Cyngor ymgynghori â’r Cynghorau Tref a Chymuned ar ei ailbenodiad am dymor pellach ac y dylai barhau yn y swydd hyd nes y byddai ailbenodiad neu benodiad newydd yn cael ei wneud.
Argymhellodd y Cynghorydd Aaron Shotton benodi’r Cynghorwyr Paul Johnson ac Arnold Woolley i’r Pwyllgor Safonau. Argymhellodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid penodi’r Cynghorydd Heesom i’r Pwyllgor Safonau. Pan gafwyd pleidlais ar y mater cymeradwywyd yr enwebiadau ar gyfer y tri Chynghorydd.
Argymhellodd y Cynghorydd Shotton y dylid ymgynghori â chynghorau tref a chymuned ar ail-benodi cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned, a bod Mr Duggan-Keen, y cynrychiolydd presennol, yn parhau yn y swydd hyd nes y byddai’n cael ei ailbenodi neu fod penodiad newydd y cael ei wneud.
PENDERFYNWYD:
(a) Penodi’r tri Aelod a ganlyn i’r Pwyllgor Safonau:-
- Y Cynghorwyr:Heesom, Paul Johnson, a Woolley
(b) ymgynghori â chynghorau tref a chymuned ar ail-benodi cynrychiolydd y Cynghorau Tref a Chymuned, a bod Mr Duggan-Keen, y cynrychiolydd presennol, yn parhau yn y swydd hyd nes y byddai’n cael ei ailbenodi neu fod penodiad newydd y cael ei wneud.
Dogfennau ategol:
- Constitutional Matters : Committees and Outside Bodies, eitem 8. PDF 131 KB
- Appendix 1 - procedure for appointing Town and Comm Council rep to Standards Comm, eitem 8. PDF 38 KB