Agenda item

Gweithio Rhanbarthol a'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad'

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru oedd yn ddatganiad o fwriad ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru a hynny yn lle'r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) cynharach gan y Llywodraeth flaenorol.  Rhoddodd gyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         cefndir

·         pwyntiau sy’n gorgyffwrdd

·         cynnwys y Papur Gwyn

·         beirniadaeth o’r Papur Gwyn

·         ein hatgoffa o’r hyn ddywedom ni wrth ymateb i’r Mesur diwethaf

·         Rhan 2: Gweithio Rhanbarthol

·         Rhan 3: Uno Gwirfoddol

·         Rhan 4: Arweinyddiaeth Leol

·         Rhan 5: Ardaloedd Arweiniol

·         Rhan 6: Cynghorau Cymuned

·         Rhan 7: Etholiadau a Phleidleisio

·         cynigion eraill

 

Canmolodd y Prif Weithredwr y berthynas weithio gadarnhaol gydag Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.  Yngl?n â’r Papur Gwyn, rhannodd bryderon yn ymwneud â’r cymysgedd amheus o faterion, y diffyg manylder ac absenoldeb cyllid angenrheidiol i gefnogi cadernid ac adnewyddiad mewn llywodraeth leol.  Byddai safbwyntiau aelodau’n cael eu cyfuno o fewn yr ymateb drafft a'u rhannu cyn ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau sef 11 Ebrill 2017.

 

Disgrifiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y darpariaethau o fewn y Papur Gwyn fel rhai pellgyrhaeddol.  Wrth gydnabod yr angen am ffyrdd gwahanol o weithio a chydweithredu rhanbarthol priodol, atgoffodd hwy o gynnydd sylweddol y Cyngor a nododd bwysigrwydd sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng gweithio rhanbarthol a’r lleol.  Tra roedd yn cefnogi dull unffurf i systemau pleidleisio etholiadol, siaradodd yn erbyn y syniad o ddatganoli cyfrifoldeb dros dai i’r rhanbarthau. Er mwyn galluogi trafodaeth wybodus yn cynnwys Aelodau newydd eu hethol, teimlai y dylai'r Cyngor geisio ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Owen Thomas sylw ar bwysigrwydd y cynnydd ar Bwerdy’r Gogledd a rhaglen band eang BT i gryfhau’r economi leol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar ddatblygiad cadarnhaol y strategaeth twf rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a’r system fetro arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mike Peers yr awgrym o ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad.  Ar ddarpariaethau’r Papur Gwyn, galwodd am fwy o fanylion y tu ôl i’r Cyd Fyrddau Cynllunio a chyfeiriodd at yr effaith amgylcheddol o symud cerbydau rhwng siroedd i gydweithio ar wastraff.  Nododd fod adnoddau ychwanegol yn angenrheidiol i ymdrin â Chwestiwn 6 yr Ymgynghoriad a cheisio rhesymeg tu ôl i’r amcan o geisio cael ‘amrediad mwy amrywiol' o gynghorwyr, gan hefyd wneud sylwadau y gellid sicrhau dulliau mwy modern o gyfathrebu yn lle’r cymorthfeydd.  Ychwanegodd y byddai mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ostwng 'pwysau diangen' ac nad oedd y diffyg ffocws ar gydweithio trawsffiniol yn cydnabod sefyllfa Sir y Fflint.  Wrth ymateb i sylwadau rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y pedwar term a ddefnyddir ar gyfer y partneriaethau economaidd presennol a ddangosir ar y map oedd yn dangos ardaloedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.  Hefyd nododd fod cyllid ar gyfer strategaeth twf Gogledd Cymru yn ddibynnol ar gydweithio trawsffiniol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Arnold Woolley y feirniadaeth o'r papur gwyn a'r cynnig i ymestyn y dyddiad cau.  Teimlai nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd o'r dull gorau o lywodraethu'n lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bod angen mwy o eglurder ar gyflawni arbedion o ran cost.  Mynegodd bryderon am effaith negyddol parhau i gydweithio ar leoliaeth ac ar swyddogaeth Aelodau etholedig yn cynrychioli etholwyr, gan ychwanegu y byddai unrhyw gyfyngiadau ar Graffu yn tanseilio'r broses honno.

 

Rhannodd y Cynghorydd Chris Bithell y pryderon am effaith cydweithio pellach mewn meysydd penodol a rôl Craffu os oedd hyn i’w wneud yn rhanbarthol.  Cefnogodd ddull unffurf i bleidleisio etholiadol ond teimlai yn gryf y dylid ailystyried y cynigion a’r cyllid ar gael i sicrhau’r canlyniadau cywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones tra gallai trosglwyddo penderfyniadau lleol i lefel rhanbarthol greu arbedion, ni fyddai hyn yn gwella na chryfhau gwasanaethau.  Soniodd am yr heriau mewn dirnad agweddau ariannol prosiectau cydweithrediadol cyfun ac aneffeithiolrwydd pwyllgor Craffu rhanbarthol sengl.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Nancy Matthews y cynnig i ymestyn y dyddiad cau a system bleidleisio etholiadol unffurf tra cododd y Cynghorydd Gareth Roberts bryderon am oblygiadau unrhyw gydweithio a orfodir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler at gynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud yn sefydlu safle Sir y Fflint yn y rhanbarth trawsffiniol.  Cymeradwyodd y feirniadaeth o’r Papur Gwyn a roddwyd gan y Prif Weithredwr a chefnogodd ohirio dyddiad cau’r ymgynghoriad tan ar ôl yr Etholiad.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Tony Sharps enghreifftiau o effeithiolrwydd partneriaethau blaenorol yn ymwneud â'r Cyngor a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei gynigion er mwyn amddiffyn lleoliaeth.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Aelodau am eu cefnogaeth a chytunodd i rannu'r ymateb drafft gyda’r Arweinwyr Gr?p ar gyfer derbyn eu sylwadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y Cyngor yn rhannu ymateb drafft i’r Papur Gwyn gydag Arweinwyr Gr?p cyn gwneud ymateb ffurfiol; a

 

 (b)      Bod y Cyngor yn nodi’r trefniadau presennol ar gyfer gweithio rhanbarthol yng Ngogledd Cymru.

Dogfennau ategol: