Agenda item

Treth y Cyngor Gosod ar gyfer 2017-18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i osod Treth y Cyngor ar gyfer 2017-18 yn ffurfiol a hynny o fewn yr amserlen a ddisgwylir.  Roedd y penderfyniad ar Dreth y Cyngor yn cynnwys praesept y Cyngor Sir o £70,122,877 yn ogystal â phraeseptiau a gasglwyd ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned.  Roedd taliadau/lefelau Treth y Cyngor a nodwyd yn yr adroddiad wedi eu cymeradwyo fel rhan o'r cynigion terfynol ar y gyllideb ar 14 Chwefror 2017, gyda’r cynnydd arfaethedig o 3% ym mhraesept y Cyngor Sir sy’n gyfystyr â £1,103.55 y flwyddyn ar eiddo Band ‘D’.  Fel y cytunwyd ym Mawrth 2016, byddai’r cynllun premiwm Treth y Cyngor hefyd yn weithredol, er mwyn helpu i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Teimlai'r Cynghorydd Mike Peers y dylai'r Cyngor gael ei ad-dalu gan y Comisiwn Heddlu a Throsedd am yr adnoddau a ddefnyddiwyd wrth gasglu'r swm praesept blynyddol hwnnw.  Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu tair elfen Treth y Cyngor ac nad oedd deddfwriaeth yn caniatáu codi tâl i wneud hynny.  Nododd y gwall teipograffyddol yn y rhestr o benderfyniadau oedd wedi eu hatodi i’r adroddiad a ddylai fod wedi cyfeirio at 2017-18.

 

Cefnogwyd yr armgyhellion yn yr adroddiad yn ffurfiol gan y Cynghorydd Aaron Shotton a cawsant eu heilio.

 

Ar braesept Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod siom ymhlith rhai preswylwyr tuag at lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd gan yr Heddlu a diffyg presenoldeb yr Heddlu, mater oedd wedi ei godi gan Gyngor Tref Bwcle.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Aelodau fod yn dymuno gwahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd i gyfarfod y Cyngor yn gynnar yn y tymor newydd i drafod unrhyw bryderon.

 

Croesawodd y Cynghorydd Tony Sharps yr awgrym hwn a datganodd gefnogaeth i sylwadau’r Cynghorwyr Peers ac Ellis.  Wrth ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Refeniw fod y polisi fframwaith newydd a gymeradwywyd gan y Cyngor ac a gyflwynwyd o 2017/18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl sefydliadau gwirfoddol dielw i wneud cyfraniad o 20% tuag at eu rhwymedigaeth cyfradd fusnes.  Teimlai'r Cynghorydd Sharps fod hyn yn annheg ar y sefydliadau bach, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ac y dylid adolygu hyn.  Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod y fframwaith mabwysiedig yn caniatáu i gais gael ei wneud am ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn gan fusnesau bach, ond dim ond yn rhannol y caiff hyn ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.  Mae gwefan y Cyngor hefyd yn darparu manylion am y cynllun gostyngiad caledi ar dreth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Gosod Treth y Cyngor 2017-18 fel y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

 

 (b)      Fod parhau â’r polisi o beidio darparu gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor am ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn cael ei gefnogi.  Hefyd lle nad oes eithriadau, i godi'r gyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor am ail gartrefi ac ag anheddau gwag hirdymor o 2017-18.

 

 (c)      Fod cymeradwyaeth yn cael ei roi i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu talu.

Dogfennau ategol: