Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Ymchwiliad Cyhoeddus i Lifogydd - Clywed tystiolaeth ar lafar gan D?r Cymru Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, roedd Dominic Scott o D?r Cymru yn bresennol i ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau. Cytunodd edrych ar faterion penodol a godwyd gan y Cynghorwyr Geoff Collett, Fran Lister/Ron Davies, David Healey a Roz Mansell a byddai’n ymateb yn unol â hynny.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Scott am fynychu a dywedodd y byddai copi o’r adroddiad yn ymwneud â’r Ymchwiliad yn cael ei rannu. Dywedodd Mr. Scott bod modd i Aelodau’r Pwyllgor anfon e-bost yn uniongyrchol ato gydag unrhyw faterion pellach yn hyn o beth. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Pwrpas: Ystyried yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gynnydd y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a nododd fod y drydedd eitem o gyfarfod mis Mawrth wedi dod i ben.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Adolygu'r Cylch Gorchwyl PDF 89 KB Pwrpas: Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon adroddiad ar y Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru.
Eglurwyd y byddai angen cyflwyno'r Cylch Gorchwyl i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd cyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cyngor llawn i’w fabwysiadu'n ffurfiol.
Cytunodd y Cynghorydd Allan Marshall anfon e-bost at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ynghylch materion fformatio yn y Cyfansoddiad a byddai'n cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn yr e-bost.
Yn dilyn trafodaeth, cynigodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd David Healey amcanion sylfaenol ychwanegol ar gyfer y Cylch Gorchwyl. Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gyda'r awgrym i ymgorffori’r amcanion sylfaenol ychwanegol a ganlyn:
· Gweithio i sicrhau cyd-gyfrifoldeb ar draws portffolios ar gyfer newid hinsawdd, gan gynnwys cynghori a chynorthwyo pwyllgorau eraill ar draws y Cyngor. · Ymgymryd â gwaith i liniaru effaith newid hinsawdd ar drigolion, y Cyngor a busnesau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Newid Hinsawdd PDF 98 KB Pwrpas: Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol cynlluniau gweithredu’r rhaglen, gan gynnwys meysydd risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen - Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon adroddiad ar statws presennol cynlluniau gweithredu’r rhaglen gan gynnwys meysydd risg.
Cefnogwyd yr argymhelliad, gan gydnabod pryderon ynghylch mynediad at gyllid i gefnogi gweithgareddau parhaus.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd cyfredol Cynlluniau Gweithredu'r Strategaeth Newid Hinsawdd, meysydd risg / agored i niwed a chamau gweithredu i liniaru'r risgiau hyn. |
|
Risg hinsawdd - Gwres Eithafol PDF 114 KB Pwrpas: Derbyn adroddiad ar effeithiau gwres eithafol a chymeradwyo’r argymhelliad er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i’r effeithiau hyn yn y cynlluniau addasu a risgiau hinsawdd lleol a rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, adroddiad ar effeithiau gwres eithafol a gofynnodd am gymeradwyaeth i argymhelliad i sicrhau ystyriaeth briodol o’r effeithiau hynny o fewn cynlluniau risg hinsawdd ac addasu lleol a rhanbarthol.
Cytunodd y Rheolwr Rhaglen - Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon i gyflwyno pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau:
· Cyfathrebu â rhieni ar fesurau lliniaru i leihau effaith gwres eithafol ar ddysgwyr mewn ysgolion. · Awgrym i greu gwaharddiad ar gynnau tân mewn ardaloedd gwledig yn ystod tywydd sych. · Addysgu’r cyhoedd am ddatrysiadau effeithiol i fynd i’r afael â gwres eithafol mewn cartrefi heb ddefnyddio systemau aerdymheru. · Ystyried mesurau lleihau gwres wrth adeiladu cartrefi newydd. · Y posibilrwydd o ddefnyddio canolfannau cymunedol fel canolfannau oeri ar gyfer yr henoed a phobl sy’n agored i niwed yn ystod tywydd eithriadol o boeth.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith i nodi risgiau penodol o effaith gwres eithafol ar y cyhoedd ac ar wasanaethau, yn lleol ac yn rhanbarthol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygu cynllun gweithredu i liniaru effaith y risgiau a nodwyd, yn lleol ac yn rhanbarthol. |
|
Diweddariad ar Ymchwiliadau Pwrpas: Derbyn diweddariad ar ymholiadau cyhoeddus a phenderfynu ar y camau nesaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai Aelodau a oedd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod yr Ymchwiliadau i Lifogydd yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Pwyllgor mewn cyfarfod anffurfiol i drafod y dystiolaeth a dderbyniwyd, cyn paratoi adroddiad ffurfiol.
Byddai dyddiad ar gyfer gwrando ar dystiolaeth lafar ar gyfer yr Ymchwiliad Pensiynau yn cael ei drefnu. |
|
Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 60 KB Pwrpas: Cwblhau Rhaglen Waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried a chytunwyd ar y canlynol:
· Cyfarfod mis Tachwedd - Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cerbydau fflyd a chynlluniau trosglwyddo cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV). · Cyfarfod mis Ionawr - Strategaeth Parcio Ceir ac astudiaeth dichonoldeb ar gyfer gosod toeau solar dros feysydd parcio. · Cyfarfod mis Tachwedd - ôl troed carbon y Cyngor. · I'w drefnu - Cyfleoedd cynhyrchu gwres gweithfeydd mwyngloddio yn Sir y Fflint a mwyngloddio plwm yn nhwnnel Milwr.
Atgoffodd y Cadeirydd bod disgwyl i Aelodau'r Cabinet fod yn bresennol i ateb cwestiynau ar adroddiadau yn ymwneud â'u meysydd portffolio.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cytuno ar y Rhaglen Waith. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |