Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet.Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

19.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

20.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Chwefror,  6 Mehefin and 18 Gorffennaf 2024.

 

Cadarnhau fel cofnod cywir o gofnodion y cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda Phwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 27 Mehefin 2024

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024, 6 Mehefin 2024, 18 Gorffennaf 2024 a chofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2024 i’w cymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am eglurhad ar gyfer y paragraff olaf ond un ar dudalen 6 cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Chwefror a bod y geiriad canlynol yn cael ei gynnwys i ddisodli’r paragraff presennol. 

 

‘Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyd-destun y gair heriol yn yr adroddiad mewn perthynas â’r 16 gwely yn Marleyfield ar gyfer rhyddhau’n uniongyrchol o’r ysbyty.  Eglurodd ei bod yn anochel y gallai ffurfio partneriaeth gydag ysbytai achosi pwysau gan yr ysbytai ar y rheolwr yn Marleyfield pan oeddent yn ymwybodol fod gwelyau ar gael. Ychwanegodd eu bod dros y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithredu yn gyson gyda 14 i 15 o welyau’n cael eu defnyddio.’ 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie bod cyfeiriad yn cael ei gynnwys yng nghofnodion y cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024 at yr Atodiad sydd ynghlwm ar dudalen 23, a bod y canlynol yn cael ei ychwanegu at ail baragraff pwynt 16 (Codi Tâl ar gyfer Penodeiaeth) - Atodiad 3.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion ar 29 Chwefror, 6 Mehefin, 27 Mehefin a 18 Gorffennaf fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

21.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith gyfredol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau.

 

Cytunwyd ar ddiwedd y cyfarfod ar 24 Hydref y byddai sesiwn hyfforddiant ar Ymweliadau Rota yn cael ei gynnal i Aelodau’r Pwyllgor. 

 

Gofynnwyd bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad Ail-gomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr ar 24 Mawrth 2025.  

 

Byddai sesiwn friffio i’r Aelodau ar Blant sy’n Derbyn Gofal a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael ei gynnal am 1pm ar 8 Tachwedd. 

 

Roedd Ymweliad Climbie yn y broses o gael ei drefnu yn ystod mis Hydref i Aelodau’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

22.

Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion pdf icon PDF 128 KB

Ystyried yr Adroddiad Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cwynion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad ar y weithdrefn Gwynion a Chanmoliaethau 2023-24.

 

Cafodd fersiwn ddiwygiedig o Atodiad 3 ei gylchredeg i’r Pwyllgor.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau’n craffu ar effeithiolrwydd y weithdrefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth.

23.

Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 137 KB

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu adroddiad ar y sefyllfa Meicro-Ofal yn Sir y Fflint, rhai o’r llwyddiannau allweddol dros y 18 mis diwethaf, a chyfeiriad y prosiect ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd dadansoddiad o’r Lleoliadau Meicro-Ofal yn mynd i gael ei ddarparu.

 

Mewn ymateb i awgrym, cytunwyd y byddai codi ymwybyddiaeth o Meicro-Ofal yn cael ei wneud wedi’i dargedu at feddygfeydd. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod yr Aelodau yn cefnogi’r cynnydd a wnaed yn y prosiect Meicro-Ofal a’r cyfraniad y mae’r cynllun yn ei wneud i fodloni’r galw am ofal yn Sir y Fflint; a

 

(b) Bod yr Aelodau yn hapus gyda chyfeiriad y prosiect, y dull arloesol a bod yr Aelodau yn cefnogi datblygiad pellach y prosiect wrth symud ymlaen.

24.

Adolygiad o’r Sector Gofal Preswyl 2024-2034 pdf icon PDF 148 KB

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Comisiynu adroddiad a oedd yn rhoi man cychwyn ar gyfer cynnal trafodaeth ar sut oedd y Cyngor yn parhau i ymateb i’r heriau a’r galwadau cynyddol ar y sector.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ddadansoddiad o’r 36 miliwn y byddai T? Croes Atti yn ei ddarparu mewn buddion i’r ardal y mae’r Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu yn cytuno i’w ddarparu.

 

Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod yr Aelodau yn cefnogi’r camau gweithredu sydd eu hangen i liniaru’r diffyg a ragwelir yn Sir y Fflint;

 

(b) Bod yr Aelodau yn ystyried ffyrdd o ddylanwadu ar y farchnad annibynnol er mwyn ateb y galw cynyddol, gan roi ystyriaeth i’r cynigion yn Rhaglen Ailgydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru; a

 

(c) Bod yr Aelodau yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar ddatblygu T? Croes Atti.

25.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 i gynnwys Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24 pdf icon PDF 120 KB

Ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad sy’n nodi dadansoddiad a chrynodeb, a welir yn Atodiad 2 o berfformiad y Cyngor yn erbyn Amcanion Lles, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28).  Roedd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yn darparu crynodeb o berfformiad hefyd, mewn perthynas â meysydd ffocws allweddol eraill y Cyngor, h.y. Gweithgarwch Partneriaeth a Chydweithio, yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, ar y cyd ag Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.