Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor. |
|
Pwrpas: I Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion (eitem rhif 3 ar y rhaglen) y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Cytunodd y Pwyllgor gyda’r awgrym gan y Cadeirydd bod y papur briffio misol ar ystadegau digartrefedd yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith gyda’r wybodaeth ychwanegol ganlynol yn cael ei chynnwys ar y templed a gyflwynwyd:-
Gofynnodd y Cynghorydd Allan Marshall a ellir ychwanegu eitem i’r Rhaglen Waith yn ymwneud â nifer o eiddo’r Cyngor sydd â phroblemau lleithder/llwydni a all fod oherwydd adeiladwaith ffisegol yr eiddo, nad oes modd ei ddileu drwy agor ffenestri. A faint o gyllid oedd yn cael ei ddyrannu i gael gwared ar leithder a llwydni ar draws y stoc dai. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’n siarad â’r Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai ar ôl y cyfarfod a dod ag adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol i fynd i’r afael â’r cwestiynau a godwyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Marshall hefyd a ellir cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor i ymchwilio i weithredu gwresogydd a dargyfeiriwr solar ffotofoltäig i eiddo’r Cyngor a sefydlu a oedd unrhyw grantiau LlC neu grantiau eraill ar gael. Awgrymodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y dylai hi siarad â’r Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai i roi ymateb i’r cwestiynau a godwyd, a ellir eu rhannu i’r Pwyllgor ac awgrymodd bod adroddiad ehangach ar dlodi tanwydd yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr estyniadau cartrefi unedol ychwanegol a gofyn bod adroddiad ar y posibilrwydd o ddefnyddio estyniadau ychwanegol modiwlaidd fel menter gwario i arbed yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cefnogodd y Pwyllgor bod adroddiad ar ddefnyddio adeiladau modiwlaidd yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
AMRYWIO TREFN EITEMAU AR Y RHAGLEN Dywedodd y Cadeirydd y bydd newid yn nhrefn yr eitemau ar y rhaglen i ymdrin ag eitem rhif 6 ar y rhaglen yn gynt – Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai – ULlMaD). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai - ULlMaD) Pwrpas: Darparu diweddariad blynyddol ar y Gofrestr Tai Cyffredin. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Tai ac Atal adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i amlinellu lefelau presennol yr angen am dai ar draws y Sir a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol oedd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un gyfradd â lefelau’r anghenion am dai oedd yn amlwg o fewn y cymunedau.
Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi lefelau presennol yr angen am dai ar draws y Sir a’r pwysau cynyddol o ran tai cymdeithasol nad oedd yn cyd-fynd â’r cyflenwad o gartrefi oedd ar gael yn lleol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi adolygiad o’r Bartneriaeth ULlMaD a’r Polisi Dyrannu Cyffredin a phenodiad diweddar Neil Morland & Co am y darn hwn o waith. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2025/26 Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i ystyried y pwysau o ran costau, gostyngiadau cost arfaethedig a risgiau cysylltiedig ar gyfer y portffolio Tai a Chymunedau cyn pennu cyllideb derfynol ar gyfer 2025/26. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu a gwneud sylwadau ar y dewisiadau ar gyfer gostyngiadau cost a nodwyd yn yr adroddiad.
Byddai’r argymhelliad a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi dewisiadau’r portffolio i leihau cyllidebau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |