Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: I roi gwybod i’r Pwyllgor pwy yw’r Cadeirydd sydd wedi’i enwebu am weddill blwyddyn y Cyngor, yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 4 Rhagfyr 2024.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Tina Claydon yn Is-gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion (eitem rhif 5 ar y rhaglen) y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Cynllun Gweithredu gorwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 Pwrpas: Ystyried adrannau o’r Cynllun Gweithredu gorwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 sy’n berthnasol I’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (agenda rhif 7 ar y rhaglen) i roi’r newyddion diweddaraf am y cynllun gweithredu yn ystod y flwyddyn a oedd yn mynd i’r afael â monitro sefyllfa gorwariant Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 6) ar gyfer portffolio Tai a Chymunedau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r mesurau o fewn cynllun gweithredu 2024/25 sy’n cael eu hystyried wrth wella sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
Adolygiad ar Safle’r Garej Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr Adolygiad ar Safle’r Garej, gan gynnwys gwybodaeth am y Matrics Parcio Ceir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) oedd yn canolbwyntio ar y gwaith a gwblhawyd ac oedd yn parhau i gael ei ddarparu drwy raglen amgylcheddol y Cyngor mewn cysylltiad â rhaglen dymchwel garej a darparu maes parcio. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y matrics sgorio yr oedd swyddogion yn ei ddefnyddio i flaenoriaethu ceisiadau i’r cynllun.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Y Cynghorydd Bibby, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) y byddai’n gofyn i’r Rheolwr Datblygiadau Newydd i roi diweddariad ar y cynigion ar gyfer Garejis Nant y Coed yn Nhreffynnon a darparu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r broses i sgorio a blaenoriaethu ceisiadau i wella meysydd parcio a dymchwel safle garejis; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adolygiad y tîm datblygu o safleoedd garejis a safleoedd lleiniau lle mae gwaith dymchwel wedi cael ei gwblhau. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Strategaeth Ddatgarboneiddio Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor am y Strategaeth Ddatgarboneiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) a Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf a throsolwg o rwymedigaeth y Cyngor i lunio Strategaeth Ddatgarboneiddio oedd yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru newydd (Safon Ansawdd Tai Cymru 2 2023) a darparu’r safonau newydd.
Byddai’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor ac unrhyw sylwadau yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
|
|
Rheoli Cartrefi Gwag Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio (eitem rhif 10 ar y rhaglen).
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |