Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor. |
|
Pwrpas: I Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Awgrymwyd bod adroddiad Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol yn cael ei symud yn ôl i gyfarfod mis Ionawr 2025 ar y Rhaglen Waith.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Kevin Rush bod arolygydd yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle i eiddo gwag ac y darperir gwybodaeth am gostau cyn-arolygu a chostau ar ôl arolygu, awgrymodd Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y dylid cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Aelodau ar ôl cwblhau’r arolwg ac yn dilyn yr ymweliad i’r safle gwag.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Cyllideb 2025/26 – Cam 2 Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) er mwyn adolygu pwysau o ran costau a risgiau cysylltiedig ar gyfer y portffolio Cymunedol ac Addysg ac Ieuenctid a chyllidebau ysgolion, o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cydnabod y pwysau o ran costau ar gyfer Tai a Chymunedau, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac yn cadarnhau y dylid dwyn ymlaen y pwysau o ran costau fel rhan o gyllideb 2025/26. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Pwrpas: Ystyried Cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25 a’r Cynllun Busnes CRT. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen)i gyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai i’w ystyried a’r Gyllideb arfaethedig ar gyfer y CRT ar gyfer 2025/26.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
O blaid yr argymhellion:- Y Cynghorwyr: Tina Claydon, Geoff Collett, Rob Davies, Ron Davies, David Evans, Dennis Hutchinson, Alasdair Ibbotson, Ted Palmer a Kevin Rush
Yn erbyn yr argymhellion: Ni chafwyd unrhyw un yn pleidleisio yn erbyn
Ymatal Y Cynghorydd Rosetta Dolphin
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyllideb y CRT ar gyfer 2025/26 fel y nodir yn yr adroddiad;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 2.7%;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd rhent garej o 2.7%;
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd rhent arfaethedig o ran taliadau gwasanaeth i adennill cost lawn;
(e) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau a’r mesurau effeithlonrwydd a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad; a
(f) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf CRT arfaethedig ar gyfer 2025/26 fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad. |
|
Datrysiadau Rheoli Tai Dwys ar gyfer Llety i Bobl Ddigartref Pwrpas: Ymgynghori ynghylch ymgysylltu â chwmni at ddibenion darparu gwasanaethau llety i bobl ddigartref ar gyfer hyd at 50 aelwyd sy’n profi digartrefedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i amlinellu’r model o wasanaethau rheoli tai dwys a ddarperir gan D2 PropCo ar gyfer llety i bobl ddigartref a buddion o ran costau drwy ymgysylltu â phartner ar gyfer y gwasanaethau hyn.
Awgrymwyd pe byddai’r Cabinet yn cefnogi’r argymhellion, estynnir gwahoddiad i D2 PropCo i ddarparu cyflwyniad i’r Aelodau er mwyn darparu gwybodaeth am lwyddiant mewn Awdurdodau Lleol eraill ac i arddangos y gwasanaeth.
Byddai’r argymhellion / sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
O blaid yr argymhellion:- Y Cynghorwyr: Tina Claydon, Geoff Collett, Rob Davies, Ron Davies, Rosetta Dolphin, David Evans, Dennis Hutchinson, Ted Palmer a Kevin Rush
Yn erbyn yr argymhellion: Y Cynghorydd Alasdair Ibbotson
Ymatal Ni chafwyd unrhyw un yn ymatal.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a wnaed i nodi darparwyr posibl ar gyfer gwasanaeth rheoli tai dwys ar gyfer llety i bobl ddigartref.
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel modd o brofi’r farchnad; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi dyfarnu’n uniongyrchol i D2 PropCo i ymgysylltu â nhw fel partner i ddarparu datrysiad rheoli tai dwys ar gyfer llety i bobl ddigartref. |
|
Rheoli Cartrefi Gwag Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio (eitem rhif 8 ar y rhaglen).
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |