Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Tenant y Cyngor.

15.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 98 KB

Mae penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet ar 20 Mehefin 2023 yn ymwneud â ‘Thaliadau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24’ wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’i galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24’ mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2023.  Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 4106) wedi ei alw i mewn gan y Cynghorwyr:Bernie Attridge, Bill Crease, Allan Marshall, Dale Selvester a Linda Thew.  Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi’r rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen.

 

Rhoddodd yr Hwylusydd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor.

16.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24 pdf icon PDF 137 KB

Adroddiad Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio.

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

  • Copi o’r adroddiad - Taliadau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24
  • Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
  • Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge y Pwyllgor am ystyried yr hysbysiad galw i mewn a gwnaeth sylw ar y drafodaeth a gynhaliwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor mewn perthynas â ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol cyn cymeradwyaeth y Cabinet.  Atgoffodd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym Mehefin 2023, wedi gofyn i’r Cabinet ystyried rhannu’r cynyddiadau arfaethedig dros gyfnod hirach er mwyn lleihau’r effaith ariannol ar denantiaid y Cyngor.    Dywedodd ei fod wedi mynychu’r cyfarfod Cabinet ac adroddodd nad oedd unrhyw beth wedi newid ers i Graffu ystyried yr adroddiad a chwestiynodd a oedd gwerthusiad o’r dewisiadau wedi cael ei gyflawni er mwyn ystyried lledaenu’r gost dros 3 blynedd, gan nad oedd y wybodaeth hon wedi cael ei chynnwys yn yr adroddiad.  Atgoffodd yr Aelodau o’r penderfyniad blaenorol a wnaed gan y tenantiaid i aros gyda’r Cyngor, sef y bleidlais o hyder fwyaf o’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Cyngor ar y pryd.  Dywedodd bod y cynnydd mewn ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn benderfyniad gwleidyddol, ac er y gellir derbyn cyngor gan y swyddogion, oni bai bod penderfyniad yn cael ei wneud gan yr Aelodau a oedd yn anghyfreithlon, nid oedd rhaid i Aelodau dderbyn y cyngor gan y swyddogion.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Attridge sylw ar y lefel o rent oedd yn cael ei golli yn sgil y nifer o eiddo gwag a chododd bryderon o ran ffaith ariannol y byddai’r ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn ei gael ar denantiaid tra bod y Cyngor yn parhau i golli arian yn sgil eiddo gwag.  Cododd bryderon mewn perthynas â’r defnydd o ardaloedd cymunedol ac y byddai’n rhaid i denantiaid dalu am ffioedd gwresogi pan nad oeddent yn defnyddio’r gofod, neu os fyddai’n gofod yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau nad oedd yn byw yn yr eiddo.  Cyfeiriodd ar yr argyfwng costau byw presennol a bod rhaid i rai tenantiaid ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta, a gofynnodd i’r Cabinet ail-ystyried y cynnydd mewn ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bill Crease at ei gostau gwresogi ei hun mewn perthynas â’r cynnydd i denantiaid, a dywedodd ei fod yn bryderus wrth weld yr adroddiad fod rhai o’r cynnydd yn dangos cynnydd o £486 i £2800 y flwyddyn, a dywedodd bod hyn yn cynrychioli 25% o bensiwn henoed rhywun.  Dywedodd bod y ffioedd hyn yn cael eu rhoi ar y trigolion mwyaf diamddiffyn yn y Sir na fyddai mewn sefyllfa i allu talu’r cynnydd arfaethedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linda Thew fod y cynnydd arfaethedig yn greulon.  Dywedodd er bod Aelodau wedi cael gwybod bod y trigolion wedi cael eu hysbysu am y cynnydd, nid oedd hi’n credu y byddent yn disgwyl cynnydd mor uchel.  Dywedodd y byddai’r cynnydd yn effeithio ar drigolion diamddiffyn a oedd yn annhebygol o gael unrhyw fodd arall o incwm a chefnogodd awgrym y Cynghorydd Attridge y dylai’r cynnydd gael ei gymhwyso dros gyfnod hirach o amser.  Gofynnodd a oedd mesurau wedi cael eu cymryd  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.