Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

52.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

53.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol ar gyfer ei hystyried, gan ychwanegu nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrir. 

 

Trafododd y camau oedd yn codi o Atodiad 2 fel a ganlyn:-

 

  • Cafodd y llythyr drafft i Lywodraeth Cymru ei drafod gyda’r cadeirydd ar 12 Rhagfyr a byddai’n cael ei anfon allan yn ddiweddarach yn yr wythnos. 

 

  • Trafododd gam oedd yn weddill mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir.    Roedd y Swyddog Cyllid wedi casglu’r wybodaeth ac roedd yn aros am gymeradwyaeth i rannu’r manylion.

 

Daeth i’r casgliad bod holl gamau eraill a ddangoswyd nawr wedi eu cwblhau. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.

54.

Adroddiad cynnydd ar Raglen Tai ac Adfywio Strategol 2 a’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen y Cyngor, newidiadau i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, manylion dyraniad Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru o £1.6 miliwn ym mis Hydref 2023 a chynnydd ar gaffael cartrefi ychwanegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol wedi darparu adroddiad ar ddarparu’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y canlynol:

 

  • Darparu Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio 2 (SHARP2) y Cyngor;
  • Newidiadau i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (GTC) ers yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (Medi 2023) a’r Cabinet (Hydref 2023);
  • Dyraniad o £1.6 miliwn Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru; a
  • Chynnydd ar gaffael cartrefi ychwanegol. 

 

Roedd y rhaglen yn y cam cyntaf ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd yna raglen 3 cam ar gyfer cymeradwyaeth, ond roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn falch o adrodd bod yr adborth a dderbyniwyd ar hyn o bryd yn gadarnhaol. 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol bod yna sawl diweddariad i’r rhaglen gan gynnwys costau ychwanegol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer contractau mwy, ble yn anffodus roedd rhai o’r contractwyr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan achosi ailbrisio contractau.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r costau ychwanegol ar gyfer Porth y Gogledd a Mynydd Isa a fyddai’n cynrychioli dros 150 o gartrefi newydd. 

 

Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol hefyd yn adrodd ar Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) Llywodraeth Cymru a anelwyd at geisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gynted â phosibl, yn bennaf yn targedu llety ar gyfer bobl ddigartref neu bobl mewn llety dros dro.  Roedd y Cyngor wedi llwyddo i gael cyllid hyd at £1.5 miliwn, a fyddai’n cael ei dargedu at ddod â 28 eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin ei bod yn falch o weld cynigion ar gyfer Maes Glas ond dywedodd y dylai gael ei restru fel ‘Lôn Ysgol’ ac nid ‘Ffordd Ysgol’.  Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai’n gwneud y newid angenrheidiol.  

 

Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Dolphin pryd fyddai ymgynghori yn digwydd gyda Chynghorau Tref a Chymuned.  Dywedodd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol y byddai ymgynghori yn dechrau yn y flwyddyn newydd gyda phecynnau ymgynghori ffurfiol yn cael eu paratoi a’u darparu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew a oedd yn realistig i’r 28 o dai gael eu cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2024.  Roedd y Rheolwr Tai a Darparu Rhaglen Strategol yn dweud bod sawl caffaeliad eisoes wedi eu cwblhau ac roedd yn hyderus y byddai’r 28 o dai yn cael eu cwblhau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester beth oedd y statws o ran adolygiad Safle Garej Queensferry.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Asedau) bod pob safle garej wedi eu harolygu a’u hasesu.  Ychwanegodd bod adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gynharach y llynedd yn dangos pa safleoedd garej oedd wedi eu blaenoriaethu ar gyfer dymchwel yn gyntaf.  Roedd pob dewis yn cael ei ystyried, gan gynnwys creu mannau parcio ychwanegol a chreu gofod gwyrdd.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin os gallai’r Aelodau dderbyn copi o ganlyniadau’r adolygiad safle garej  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Argymhellion y Grwp Tasg a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Ystyried argymhellion y Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd bod penderfyniad wedi’i wneud gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai ar 8 Mawrth 2023 i sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu Tai Lloches.  Roedd hyn yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2023, ar ôl ystyried yr adroddiad Adolygu Tai Lloches. 

 

Roedd y Gr?p wedi cyfarfod dair gwaith i ystyried cylch gwaith y

Gr?p, y Matrics Sgorio a’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu.  Roedd y cyfarfod cyntaf wedi ystyried a nodi’r Cylch Gorchwyl.  Roedd yr ail gyfarfod yn nodi’r matrics wrth symud ymlaen gan gynnwys sut y byddai wardiau deuol aelodau yn cael eu dyfarnu os oedd ganddynt farn wahanol.  Roedd y cyfarfod olaf a gynhaliwyd wedi ystyried y cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi’r argymhellion a wnaed gan y gr?p, i’w ystyried gan y Pwyllgor gyda’r bwriad o wneud argymhellion i’r Cabinet.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester ei fod yn falch gyda gwaith y Gr?p Tasg a Gorffen a sut y byddai’r matrics yn gweithio fel rhan o’r adolygiad. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo argymhellion y Gr?p Tasg a Gorffen i’w gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer ystyriaeth.

56.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24 pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Tai ac Asedau grynodeb o sefyllfa Canol Tymor y Cyngor yngl?n â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2023/24 gan ychwanegu bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targed ar hyn o bryd. 

 

            Ychwanegodd nad oedd yna gamau gweithredu coch ar hyn o bryd yn ymwneud â blaenoriaethau a gweithgareddau’r Cyngor.  Fodd bynnag, roedd yna nifer o fesurau oedd wedi eu graddio’n goch.  Roedd y mesurau hynny o amgylch gwasanaethau digartrefedd a darparu rhaglen datblygu tai. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei bryderon yngl?n â dangosyddion/mesurau perfformiad oedd yn dangos statws COG coch.  Dywedodd am y flaenoriaeth ar gyfer cymorth tai ac atal digartrefedd a gofynnodd pryd fyddai’r Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth ar ba gamau oedd yn cael eu cymryd i wella perfformiad yn y meysydd a amlinellwyd o fewn yr adroddiad.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) at adroddiadau manwl oedd yn eistedd y tu ôl i’r adroddiadau perfformiad a’r cynlluniau gweithredu a oedd yn cael eu monitro a’u diweddaru’n rheolaidd.  Hefyd, cyfeiriodd at yr adroddiad dewisiadau Digartrefedd a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, oedd yn amlinellu nifer o ddewisiadau a ystyriwyd gan y Cyngor i gynorthwyo gyda chynnydd mewn cyflwyniadau i’r gwasanaeth digartrefedd. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl darparu diweddariad i’r Pwyllgor ar leoliad canolbwynt digartrefedd newydd.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai ac Ataliad) yn cynghori bod lleoliad wedi’i nodi a gobeithio y byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau lleol yn y flwyddyn newydd.  

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24 yn cael eu cefnogi;

 

(b)       Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24 yn cael ei gefnogi; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

57.

Rheoli Eiddo Gwag pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, gan gynnwys 40 o eiddo oedd wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu.  Ymhelaethodd hefyd ynghylch y wybodaeth ganlynol yn y nodyn briffio:-

 

·         Nifer y darnau mawr o eiddo gwag

·         Cyfanswm y darnau o eiddo gwag a oedd wedi cynyddu ychydig i 235

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Y prif resymau dros derfynu.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth oherwydd bod y cynllun gweithredu yn symud i’r cyfeiriad cywir, byddai’r tîm rheoli eiddo gwag nawr yn cwrdd pob chwarter yn hytrach na phob mis, a hefyd bod dyraniad y contractwr nawr wedi cynyddu i 65 eiddo gwag a byddai hyn yn parhau i gynyddu mis fesul mis.   

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn mynegi ei bryderon yngl?n â phobl mewn llety dros dro ddim yn cael cynnig yr eiddo gwag yn y fflatiau uchel, y Fflint.    Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y llety yn y fflatiau uchel yn lety gwarchod dynodedig i bobl dros 55 oed.  Hefyd, eglurodd nad oedd y proffil llety ar draws y Sir yn cwrdd ag anghenion y proffil o bobl mewn llety dros dro ac roedd dewisiadau i fynd i’r afael â hyn yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester pa gynlluniau oedd ar waith i hybu eiddo â galw isel amdanynt.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio bod fideos o eiddo wedi eu darparu ac yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Selvester bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i wella gwybodaeth a darparu fideos ar wefan y Cyngor.   

 

Awgrymodd y Cadeirydd, oherwydd gwyliau’r Nadolig, bod y Pwyllgor yn derbyn y nodyn briffio rheoli eiddo gwag yn y cyfarfod mis Ionawr er gwybodaeth yn unig.    Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

58.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.