Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygwyd bod enw’r Cynghorydd Geoff Collett wedi’i sillafu’n anghywir ar dudalen 8 y cofnodion. 

 

Cynigwyd y cofnodion gan y Cynghorydd David Evans ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Linda Thew. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad a restrir uchod, cymeradwyo’r cofnodion a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

20.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol i’w hystyried.  Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda’r Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli dros yr haf a byddai’r Hwylusydd yn cysylltu â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol fwy cyflawn i’r Pwyllgor ym mis Medi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at y camau a oedd heb eu cymryd a mynegodd bryderon yngl?n â’r amser yr oedd yn ei gymryd i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ymateb i lythyr a anfonwyd atynt ym mis Chwefror.  Awgrymwyd y dylid anfon llythyr at yr holl ASau lleol er mwyn i'r mater gael ei godi gyda'r Gweinidog.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson i eitem yngl?n â pharcio ar eiddo'r Cyngor gael ei threfnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

21.

Costau Byw a Diwygio Lles pdf icon PDF 161 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad gweithredol cyfun i’r Pwyllgor ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a chynlluniau costau byw i gefnogi preswylwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ddiweddariad ar yr effeithiau sy’n parhau gyda diwygiadau lles a thrafododd y gwaith parhaus i liniaru’r gwaith sy’n parhau i gefnogi aelwydydd trigolion Sir y Fflint.  Ychwanegodd fod treth ystafelloedd gwely yn dal i gael effaith yn Sir y Fflint ynghyd â'r diffyg cartrefi llai sydd ar gael i drigolion sy’n dymuno symud i gartrefi llai hefyd.

 

Trafododd y canlynol hefyd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad:-

 

·         Uchafswm Budd-daliadau

·         Cynllun Cymorth Costau Byw

·         Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022/23

·         Cynllun Cymorth Biliau Ynni

·         Taliadau Tanwydd Amgen

·         Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

·         Grant Hanfodion Ysgol

·         Cymorth Lles

·         Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)

 

Aeth yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ymlaen i drafod cymhwyster a chyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r ffordd y maent yn gweithio gydag ysgolion i roi cyhoeddusrwydd i’r grant amddifadedd disgyblion, a hefyd sut y byddent yn ceisio awtomeiddio taliadau mewn perthynas â’r grant gwisg ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at Gynllun Tanwydd y Gaeaf a mynegodd ei bryderon nad oedd pob preswylydd yn manteisio ar y cynllun.  Gofynnodd faint o breswylwyr a oedd yn dal heb drefnu i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol.  Dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) fod y tîm yn rhoi anogaeth gadarnhaol i aelwydydd i fanteisio ar y cynllun, gyda rhai'n cael eu credydu'n ôl drwy eu cyfrifon Treth y Cyngor.  Ychwanegodd mai Sir y Fflint oedd â'r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y cynllun ac anogodd y Cynghorwyr i rannu ffyrdd o ymgysylltu â thenantiaid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) nad oedd yn meddwl bod modd olrhain hawlwyr DHP mewn perthynas â threth ystafelloedd gwely dros y cyfnod o amser a awgrymwyd.  O ran prydau ysgol am ddim, cytunodd y gallai'r broses hawlio fod yn anodd a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth o sut mae hyn yn effeithio ar ysgolion ac ategodd pa mor bwysig oedd gwneud hawliad. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn llwyr gefnogi'r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a fydd, meddai hi, yn parhau hyd y gellir rhagweld.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei sylwadau gan ddweud bod yr adroddiad yn dda ond na ddylai'r Cyngor golli golwg ar yr holl bobl ddiamddiffyn ledled Sir y Fflint sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw a diwygio’r gyfundrefn les.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Tina Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus o reoli’r effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les wedi’i gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru i liniaru'r argyfwng costau byw.

22.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar sefyllfa derfynol 2022-23 o ran casglu rhent tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) amlinelliad o’r adroddiad briffio a gyhoeddir bob chwarter ar Renti Tai.  Esboniodd yr anawsterau a gafwyd yn ystod y pandemig, effeithiau'r argyfwng Costau Byw a Chwyddiant.

 

Roedd casglu Ôl-ddyledion Rhent ar gyfer 2022/2023 wedi bod yn sefyllfa ôl-ddyledion rhent cronnus o ychydig dros £2 filiwn.  Roedd cynnydd o £124,000 yn yr Ôl-ddyledion Rhent ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) yn falch o adrodd bod ffigwr yr ôl-ddyledion terfynol ar ddiwedd blwyddyn  2022/23 yn is na'r ffigwr a osodwyd yn yr adroddiad blaenorol i graffu. Roedd yn bwysig nodi bod 20% o denantiaid wedi mynd i ôl-ddyledion, ond roedd y rhan fwyaf yn parhau i dalu ar amser.

 

Ychwanegodd fod nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o’u tai wedi gostwng yn sylweddol gyda dim ond 2 achos o hynny’n digwydd, ac ailadroddodd fod pob dull posibl o ymgysylltu wedi'i ddefnyddio i osgoi achosion o droi allan.  Ychwanegodd hefyd fod y Cyngor bob amser yn ymdrechu i wneud y mwyaf o gasgliadau gan barhau i fod yn deg ar yr un pryd.

 

Mewn perthynas â diddymu dyledion, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) eu bod yn is na'r blynyddoedd blaenorol ac ychwanegodd fod rhai yn anochel os oedd unigolion wedi marw neu i’r rheiny a oedd yn destun gorchmynion rhyddhau o ddyled.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) hefyd y cynllun peilot incwm rhent sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd a oedd yn darparu ffordd arall o weithio er mwyn cael perthynas waith agosach gyda thenantiaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans, er yr ymddengys yn yr adroddiad bod lefelau ôl-ddyledion rhent rheoledig yn is, roedd yn pryderu am ôl-ddyledion y rheiny yn y braced o £2500 i £5000 a oedd yn ymddangos i fod wedi cynyddu.  Dywedodd ei bod yn ymddangos bod ôl-ddyledion yn gwaethygu ar ôl croesi ryw drothwy.  Gofynnodd hefyd beth oedd rhwymedigaethau'r Cyngor ar ôl i denant gael ei droi allan, a oedd dyletswydd ar y Cyngor i'w cartrefu, beth oedd lefel eu dyled ac a oedd dadansoddiad ar gael o'r rhesymau dros eu troi allan.  Dywedodd hefyd fod y cynllun peilot a amlinellwyd yn adran 1.09 o'r adroddiad yn swnio'n ddiddorol ac yr hoffai gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) fod y tabl o ôl-ddyledion rhent yn aml yn anodd ei esbonio gan fod tenantiaid yn aml yn symud i mewn ac allan o'r gwahanol gategorïau, sy'n ei gwneud yn anoddach i’w holrhain, ac ailadroddodd fod y Cyngor yn ymgysylltu'n gynnar.  Ychwanegodd nad oedd y Cyngor yn olrhain symudiadau tenantiaid ar ôl eu troi allan, ond dywedodd nad oedd y tenantiaid blaenorol hynny yn cael eu hailgartrefu gyda'r Cyngor ar hyn o bryd.  Awgrymodd y dylai gwybodaeth am y cynllun peilot incwm rhent gael ei hadrodd i'r Pwyllgor maes o law. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer y tenantiaid mewn ôl-ddyledion rhent o fwy na £5,000 a gofynnodd faint o'r tenantiaid hynny oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Polisi Rheoli Tai pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Ystyried Rheoli Ystadau a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor a’r effaith mae hyn yn ei gael ar denantiaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ddiweddariad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru a’r newidiadau presennol yn y ddeddfwriaeth, gyda’r prif un yn ymwneud â’r newid enw o fod yn ‘gytundeb tenantiaeth’ i’r term newydd sef ‘contract’ ac o ‘denantiaid’ i ‘ddeiliaid contract’.  Roedd sioeau teithiol yn dal i gael eu cynnal i roi gwybod i ddeiliaid contract am y newidiadau a byddent yn parhau drwy gydol yr haf, gyda sesiynau gweithdy ar gael yn hygyrch i ddeiliaid contract a ofynnodd amdanynt. 

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Polisi newydd yn dal ar ffurf drafft i symleiddio'r broses.  Roedd y broses ymgynghori ar y gweill, a chroesawodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) gyfraniad yr Aelodau.Byddai'r Polisi'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn i'w gymeradwyo.   

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r polisi Rheoli Tai.

24.

Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y Polisi ac amlinellu unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Polisi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) yr adroddiad i roi trosolwg o'r newidiadau a wnaed i'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd yr effaith a gafodd ar denantiaid.  Roedd y Polisi yn adlewyrchu arfer gorau ac yn diogelu hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau'r risg i'r Cyngor am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth briodol.  Amlinellodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) mai un o'r rhannau allweddol oedd y broses adrodd gywir trwy ffonio 101 i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei chofnodi’n gywir.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio sylwadau ar yr heriau o geisio cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt a'r caledi a wynebir ganddynt.  Anogodd drigolion i adrodd am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau y gellid cymryd camau gorfodi.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

25.

Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Gartrefi Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd nifer y tai gwag newydd a'r rhai oedd wedi'u cwblhau a dywedodd fod 30 eiddo wedi'u cwblhau yn barod i'w dyrannu. 

 

O ran y gweithgareddau allweddol a oedd yn cael eu cwblhau yn erbyn y cynllun gweithredu ar gartrefi gwag a’r camau nesaf, amlinellwyd y canlynol gan y

Rheolwr Gwasanaeth:-

 

  • Dyrannu gwaith i gontractwyr sydd newydd eu comisiynu yn unol â'u gallu

 i gyflawni;

  • Cyfarfodydd cynnydd wedi'u trefnu dros y 12 mis nesaf i fonitro perfformiad

 ac ansawdd;

  • Trefnu cyfarfodydd Perfformiad Contractwyr ar gyfer y 12 mis nesaf - i fonitro

amseroedd targed, ansawdd y gwaith, capasiti, a pherfformiad cyffredinol;

  • Byddai pob cyfarfod yn cael ei gofnodi i werthuso a darparu tystiolaeth barhaus o

safonau perfformiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau hefyd fod y Cyngor wedi cael £585,000 o gyllid y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) i'w ddefnyddio tuag at eiddo gwag mawr.

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn croesawu nifer yr eiddo a gwblhawyd yn barod i'w dyrannu a dywedodd bod hynny’n gadarnhaol.  Dywedodd ei fod, ynghyd â'r Cynghorydd Ron Davies, wedi cyfarfod â phreswylwyr yn ddiweddar a gofynnodd pam na ellid cwblhau eiddo llai i'w gosod yn gynt.  Ailadroddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau, mai’r ôl-groniad hanesyddol oedd y rheswm gydag 1 contractwr yn unig yn y gorffennol, ond cadarnhaodd y dylai gwaith ar eiddo gael ei gwblhau'n gynt gyda nifer y contractwyr newydd sydd ganddynt.  Ychwanegodd y dylai Aelodau ddisgwyl cyfnod o 6 – 8 wythnos ar gyfer gwaith mawr.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Evans, cytunwyd y dylid dosbarthu'r nodyn briffio rheoli eiddo gwag i'r Pwyllgor yn ystod gwyliau mis Awst.

 

 Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau fod ansawdd a safon y gwaith gan y contractwyr newydd wedi bod yn dda ac y byddent yn parhau i gael eu monitro.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y byddai'r contractwyr yn parhau i weithio drwy wyliau'r haf. 

 

Argymhellodd y Cynghorydd David Evans fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

26.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr adroddiad i adolygu'r lefelau cynnydd o ran cyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad a nodir yng Nghynllun y Cyngor.  Dywedodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23 ar ddiwedd y flwyddyn (Ch4) sefyllfa sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) ar y gweithgaredd oedd yn dangos statws coch (RAG) ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn y targed ynghyd â gwybodaeth am y dangosyddion perfformiad (DP) / mesurau oedd yn dangos statws coch (RAG) ar gyfer perfformiad yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer 2022/23.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge y cwestiynau canlynol:-

 

  • Mewn perthynas â nifer yr ymgeiswyr ar y gofrestr tai cyffredin, a allai swyddogion gadarnhau a oedd 237 o ymgeiswyr newydd ar gyfer 2022/23.
  • A ellid darparu mwy o wybodaeth am y data boddhad cwsmeriaid ar gyfer y Gofrestr Tai o 52%
  • A yw'r partneriaid tai yn darparu'r lefel o wasanaeth a ddisgwylir i'r Cyngor fel rhan o'u contract
  • Mewn perthynas â’r cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio cartrefi’r Cyngor, pryd yr ymgynghorir â’r Aelodau ar y strategaeth ddatgarboneiddio ddrafft
  • Mewn perthynas â sicrhau bod stoc tai’r Cyngor yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ac wedi cyflawni isafswm sgôr effeithlonrwydd ynni SAP o 65, sut y cyflawnwyd y targed o 100% a gwblhawyd, o ystyried nifer yr eiddo gwag
  • Beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r oedi wrth symud ymlaen â'r System Caffael Deinamig newydd gyda Chyngor Sir Ddinbych
  • Mewn perthynas â gwrando ar denantiaid a gweithio gyda nhw i wella ein gwasanaethau, ein cartrefi a'n cymunedau, yr oedd tenantiaid y Cyngor yn gweithio gyda nhw
  • Pa denantiaid gymerodd ran yn y cyrsiau digidol a ddarparwyd gan Goleg Cambria
  • Mewn perthynas â gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai i adeiladu tai cymdeithasol newydd ac eiddo fforddiadwy ychwanegol, a yw Aelodau Cabinet Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn
  • A ellid darparu rhagor o wybodaeth am y datrysiadau digidol ar gyfer Swyddogion Tai

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) nad oedd nifer yr ymgeiswyr ar y gofrestr tai cyffredin yn sefydlog ond dywedodd fod cynnydd bach wedi bod yn y nifer ar gyfer 2022/23.  O ran yr arolwg boddhad cwsmeriaid, byddai'n gofyn i'r Rheolwr Gwasanaeth (Gwasanaethau Tai ac Atal) ddarparu gwybodaeth ar yr ymateb o 52% i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.  Cadarnhaodd fod partneriaid tai’r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni eu gofynion, a’r unig faterion oedd yn ymwneud â chyfateb y stoc  gydag achosion unigol.  Cadarnhaodd hefyd fod yr Aelod Cabinet dros Dai ac Adfywio yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda phartneriaid tai ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau fod strategaeth ddatgarboneiddio ddrafft wedi'i datblygu ond bod y Cyngor yn aros i Lywodraeth Cymru ryddhau safonau SATC 2 a  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.