Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Helen Brown yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cyngor wedi penderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol y byddai’r Gr?p Annibynnol yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Cafodd y Pwyllgor wybod mai’r Cynghorydd Helen Brown oedd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Helen Brown yn Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Dale Selvester yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Linda Thew.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Ray Hughes yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Tina Claydon.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

            Cynhaliwyd pleidlais, a derbyniodd y Cynghorwyr Hughes a Selvester 5 pleidlais yr un.  Gofynnwyd i’r Cadeirydd roi pleidlais fwrw, a chadarnhaodd ei phleidlais i’r Cynghorydd Selvester.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Dale Selvester yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mawrth a 19 Ebrill 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8 Mawrth 2023

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at baragraff 3 ar dudalen 7 y cofnodion, ac awgrymodd y dylid cynnwys y gair ‘asked’ (cofnodion Saesneg).

 

19 Ebrill 2023

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Rush ei fod wedi ymddiheuro na allai ddod i’r cyfarfod, a gofynnodd am gael cynnwys hynny.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew at yr ail baragraff ar dudalen 15 y cofnodion, ac awgrymodd fod y gair ‘prions’ yn cael ei newid i ‘prisons’.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew hefyd at y pedwerydd paragraff ar dudalen 16 y cofnodion, ac awgrymodd fod y gair ‘in-hose’ yn cael ei newid i ‘in-house’.

           

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion yn rhai cywir gan y Cynghorydd Thew ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dale Selvester. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023 ac 19 Ebrill 2023 fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

5.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol ar gyfer ei hystyried, gan ychwanegu nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a ddangosir ar gyfer y cyfarfodydd i ddod ym mis Mehefin a Gorffennaf 2023. 

 

Fe wnaeth yr Hwylusydd hefyd nodi statws y camau gweithredu oedd yn deillio o’r cyfarfodydd blaenorol, a oedd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

6.

Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Cartrefi Gwag fel y dangosir ar y rhaglen.  Yr oedd y diweddariad yn darparu ffigyrau allweddol am y nifer o eiddo gwag a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag.  Byddai’r Pwyllgor yn parhau i dderbyn yr wybodaeth hon yn fisol, a bydd adroddiad ffurfiol ar unedau gweigion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi. 

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.

 

Amlinellodd y nifer o unedau gweigion newydd a’r rheiny a oedd wedi eu cwblhau.  O fis Mawrth, derbyniwyd 26 eiddo gwag, a chwblhawyd 23 eiddo, a oedd wedi eu cwblhau cyn penodi contractwyr newydd i’r gwasanaeth.  O fis Ebrill, derbyniwyd 24 eiddo gwag a chwblhawyd 18.  Cafwyd oedi o ganlyniad i absenoldebau ac oedi wrth ardystio.  Cwblhawyd mwy o unedau gweigion, ond oherwydd oedi wrth ardystio nid oeddynt wedi eu cymeradwyo eto.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.

 

Mewn perthynas â’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-

 

·         Yr oedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â’r holl gontractwyr a oedd newydd eu comisiynu;

·         Cynhaliwyd 6 o’r 6 chyfarfod cyn-gontract gyda’r contractwyr newydd;

·         Yr oedd y gwaith o arwyddo contractwyr bron wedi ei gwblhau;

·         Dechreuwyd arolwg o gyflwr y stoc ym mis Hydref 2022;

·         Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gynnal arolygon o gyflwr y stoc;

·         Yr oedd y Cydlynydd Hyfforddiant bellach yn ei swydd;

·         Yr oedd y Cydlynydd yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaeth at yr wybodaeth am y gyllideb a’r 3 phrif reswm dros derfynu tenantiaeth – gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am hyn mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am nifer yr eiddo gwag, a oedd wedi cynyddu ym mis Ebrill o’i gymharu â mis Mawrth, a gofynnodd a fyddai’r Pwyllgor yn gweld y ffigwr hwn yn gostwng yn y misoedd i ddod.  Dywedodd fod angen dod â mwy o eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto er mwyn gallu ymdopi â’r sefyllfa bresennol.  Gofynnodd hefyd am i’r wybodaeth ganlynol gael ei darparu mewn diweddariadau briffio yn y dyfodol:- 

 

  • Gwybodaeth yngl?n â’r math o ystafelloedd gwely oedd yn yr eiddo a oedd dod yn wag, ochr yn ochr â dadansoddiad o gyfanswm ffigyrau unedau gweigion;
  • Y math o eiddo yr oedd tenantiaid yn mynd i fyw iddynt wrth drosglwyddo i eiddo arall gan Gyngor Sir y Fflint;
  • Ardaloedd daearyddol eiddo gwag.

 

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw am y cynnydd mewn eiddo gwag, ac atgoffodd y Pwyllgor mai newydd eu penodi oedd y contractwyr newydd a gomisiynwyd.  Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol na ellid rhuthro’r broses ac y gallai nifer yr eiddo gwag gynyddu cyn dechrau gostwng yn gyson.  Parthed y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Aelodau'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.