Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

39.

Penodi Cadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi ymddiheuro na allent fod yn y cyfarfod, a gofynnodd am enwebu Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans fod y Cynghorydd Ted Palmer yn cadeirio’r cyfarfod. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tina Claydon.  Ni chafwyd enwebiadau eraill. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Ted Palmer yn cael ei benodi yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

40.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Tenant y Cyngor.

41.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, a dywedodd fod diweddariad rheolaidd yngl?n â Rheoli Cartrefi Gwag wedi ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer pob cyfarfod yn y dyfodol, yn dilyn cais gan y Cadeirydd.

 

            Siaradodd yr Hwylusydd am y camau gweithredu a oedd yn deillio o gyfarfodydd blaenorol, fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad, a dywedodd y dosberthir gwybodaeth yngl?n â’r dadansoddiad o gategorïau ar gyfer y Grant Cymorth Tai, gwybodaeth am y nifer o eiddo gwag a fyddai’n costio mwy na £10,000 i allu eu defnyddio eto, a chost System Trefnu Adnoddau Deinamig awtomatig, i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.  

 

            Mewn perthynas â Gr?p Tasg a Gorffen yr Adolygiad o Dai Gwarchod, dywedodd yr Hwylusydd ei bod wedi derbyn 4 enwebiad gan y Pwyllgor, a byddai’n cysylltu â swyddogion i ganfod dyddiad addas ar gyfer y cyfarfod cyntaf.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

42.

Rheoli Cartrefi Gwag

Pwrpas:        Rhoi diweddariad llafar ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod cais wedi ei wneud gan Gadeirydd y Pwyllgor am gael adroddiadau rheolaidd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am reoli a darparu cartrefi gweigion wedi eu darparu ym mhob cyfarfod yn y dyfodol.  Yn dilyn ymgynghori gyda’r Cadeirydd, cynigiodd y dylai adroddiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:–

 

  • Y nifer o eiddo a derfynwyd, gan arwain at eiddo gwag newydd
  • Nifer dyraniadau eiddo gwag
  • Rhesymau dros eiddo gwag
  • Math o eiddo gwag
  • Nodi’r eiddo hynny y mae galw mawr amdanynt a galw isel amdanynt
  • Faint o eiddo gwag sydd eu hangen yn gyffredinol, a faint sy’n rhai gwarchod

 

Siaradodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai am y gweithgareddau allweddol a gynhaliwyd, fel y’u nodwyd yn y cynllun gweithredu, a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor.  Dywedodd fod y fframwaith contractau wedi cael ei aildendro, ac yr oedd wedi cyfarfod â’r contractwyr sydd newydd eu comisiynu yn ddiweddar.  Dechreuodd y gwaith ar arolygon cyflwr y stoc a fyddai’n llywio gwaith yn y dyfodol, ac yr oedd swydd cydlynydd wedi ei gaffael er mwyn darparu hyfforddiant manwl i arolygwyr a syrfewyr dros y 12 mis nesaf.  

 

Byddai’r camau nesaf, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu, yn cynnwys ymgysylltiad parhaus gyda Llywodraeth Cymru drwy gyllid grant, a bu’r Cyngor yn llwyddiannus wrth gael cyllid grant o £207,000 tuag at eiddo gwag y llynedd.  Cyflwynid cais arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  

 

Yn olaf, yr oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i flaenoriaethu unedau gweigion a lle byddai adnoddau’n cael eu dyrannu.  Sefydlwyd panel a fyddai’n cyfarfod i ystyried pa eiddo gwag y dylid eu pennu yn rhai brys.  Byddai’r adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf yn casglu’r holl wybodaeth a amlinellwyd yn flaenorol, darparu gwybodaeth am y sefyllfaoedd presennol, beth oedd niferoedd y dyraniad a beth oedd y camau nesaf yn ôl y cynllun gweithredu cyfredol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i’r adroddiad diweddaru a ddarperir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf fod yn ysgrifenedig.  Mynegodd bryderon hefyd yngl?n â dyrannu unedau gweigion i denantiaid cyn cwblhau gwaith ar yr eiddo, a’r amseroedd hir yr oedd tenantiaid yn gorfod aros.  Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y byddai’r adroddiad diweddaru a gyflwynid yn y cyfarfod nesaf mewn fformat ysgrifenedig.  Mewn perthynas â’r broses ddyrannu, dywedodd fod pryderon wedi eu mynegi yngl?n â hyn mewn gweithdy Aelodau’n ddiweddar ac, o ganlyniad, gwnaed newidiadau i’r broses ddyrannu i sicrhau bod y gwaith o ddyrannu’n dechrau pan oedd yr eiddo ar gael.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd David Evans, cytunodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i ddarparu gwybodaeth am ddata’r mis blaenorol ar ffigyrau dyrannu a’r nifer o unedau gweigion yn yr adroddiad a gyflwynir yn y cyfarfod nesaf.  Dywedodd hefyd y dylai Aelodau weld yr ôl-groniad o unedau gweigion yn lleihau yn dilyn y cynnydd yn nifer y contractwyr, a dywedodd fod 5 eiddo wedi ei ddyrannu i bob contractwr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a byddai cynnydd y gwaith yn parhau i gael ei olrhain. 

 

Adleisiodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Chysgwyr Allan pdf icon PDF 328 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud i liniaru Digartrefedd a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl sy’n cysgu allan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad diweddaru a oedd yn amlinellu’r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tai ac Atal.

 

Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Atal adroddiad manwl am y meysydd canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad:–

 

  • Gwasanaethau Digartrefedd Statudol
  • Ariannu Gwasanaethau Digartrefedd
  • Galw am Wasanaethau
  • Canlyniadau Cadarnhaol Digartrefedd
  • Polisi Cenedlaethol – Digartrefedd
  • Angen Blaenoriaethol – Pobl sy’n Cysgu Allan
  • Defnydd o Lety Digartrefedd
  • Herio Amodau’r Farchnad Dai

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i Uwch Reolwr Tai ac Atal am adroddiad ardderchog a oedd wedi ei gyflwyno’n dda.  Diolchodd hefyd i’r Prif Weithredwr am ei ymroddiad i’r materion yn ymwneud â digartrefedd, a oedd wedi bod yn amlwg dros nifer o flynyddoedd.  Dywedodd fod y Cyngor yn ymdrin â phobl a oedd mewn sefyllfa ddifrifol, a dywedodd fod y Cyngor yn delio â hyn yn dda. Rhoddodd enghraifft lle rhoddwyd cymorth i denant yn ei ward ef.

 

Wrth ymateb i bryderon y Cynghorydd Banks yngl?n â landlordiaid preifat yn troi tenantiaid allan, dywedodd Uwch Reolwr Tai ac Atal yr ymdrinnid â’r mater hwn yn ddyddiol, ac, yn aml, pan oedd tenant yn derbyn gorchymyn troi allan, effeithid ar yr ymddiriedaeth rhyngddynt yn negyddol.  Er nad oedd y Cyngor eisiau ychwanegu unrhyw bwysau ychwanegol i’r sefyllfa, yr oedd yn bwysig bod tenantiaid yn deall eu hawliau cyfreithiol yn glir.    

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans fod Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai ac Uwch Reolwr Tai ac Atal yn swyddogion rhagorol a oedd wedi darparu adroddiadau ardderchog i’r Pwyllgor.  Cyfeiriodd at y rhesymau pam oedd pobl yn datgan eu bod yn ddigartref (gweler Atodiad 2 yr adroddiad), a gofynnodd pam oedd nifer y rhai a oedd yn ymadael o’r carchar yn uchel, oherwydd credai fod y Cyngor yn cael gwybod os oedd carcharor yn cael ei ryddhau.  Gofynnodd at beth oedd y categori ‘Eraill’ yn cyfeirio, ac a oedd unrhyw ddata yn cael ei gadw ar gyfer pobl â chefndir o wasanaeth milwrol.  Eglurodd Uwch Reolwr Tai ac Atal fod y data yngl?n â’r rhesymau pam oedd pobl yn datgan eu bod yn ddigartref heb eu dilysu ar hyn o bryd o ganlyniad i systemau; a hefyd, gallai unigolyn roi un rheswm, ond pan fyddai swyddogion yn ymchwilio i’r achos, gellid canfod bod anghenion eraill hefyd.  Yr oedd gwaith yn mynd rhagddo ar y system ddata swyddfa gefn ar gyfer cymorth tai a digartrefedd er mwyn sicrhau gwell eglurder ar ddata yn y dyfodol.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Tai ac Atal fod y Cyngor yn gweld rhai cyn-filwyr yn datgan eu bod yn ddigartref, ond yr oedd yn nifer fach.  Nid yw Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Polisi Dyrannu Cyffredin yn ymestyn dyletswyddau ychwanegol i gyn-filwyr.  Dywedodd hefyd fod 2 swyddog cyswllt pwrpasol ar hyn o bryd ar gyfer pobl sy’n ymadael o’r carchar, a oedd yn gweithio’n agos gyda’r carchardai.  Pan oedd rhybudd wedi ei roi, yr oedd y Cyngor yn ceisio trin pobl a oedd wedi ymadael o’r carchar yr un fath â phawb arall.  Anfonir hysbysiad  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiffyg Atgyweirio pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n cael ei wneud i ymdrin â diffyg atgyweirio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol y Cyngor yn ymwneud â diffyg atgyweirio, a nifer yr hawliadau o ddiffyg atgyweirio a dderbyniwyd, a ddatryswyd a’u hamddiffyn yn llwyddiannus. 

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod y Gwasanaeth Asedau Tai yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl stoc dai yn cydymffurfio â’r gwahanol safonau a rheoliadau tai, ac yr oedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau yr oedd gan y Cyngor i sicrhau bod yr holl waith atgyweirio’n cael ei gwblhau mewn modd amserol, a bod y gwaith sy’n gysylltiedig ag unrhyw hawliadau o ddiffyg atgyweirio y gallai’r Cyngor eu derbyn yn cael ei gwblhau’n effeithiol ac yn effeithlon.

 

Siaradodd hefyd am y data ystadegol yn ymwneud â diffyg atgyweirio, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, a dywedodd fod tîm y gwasanaeth Asedau Tai yn cynnal cyfarfodydd wythnosol yn ymwneud â hawliadau gweithredol o ddiffyg atgyweirio a chyfarfodydd rheoli misol i adrodd am gynnydd a thrafod unrhyw dueddiadau neu bryderon sydd wedi eu canfod.

 

  Daeth Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai i’r casgliad bod y tîm yn annog yr holl denantiaid i weithio gyda’r Cyngor.  Yr oedd y rhan fwyaf o’r adnoddau a neilltuwyd i amddiffyn yr holl hawliadau o ddiffyg atgyweirio yn rhai mewnol, a’r cyfreithwyr a benodwyd yn unig sy’n allanol i’r Cyngor. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y tîm a’r gwaith a wnaethpwyd fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru o ran gosod ffenestri, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ac ati, ond gofynnodd a allai tenantiaid wrthod gadael i waith i’w heiddo gael ei gwblhau.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod gan denantiaid yr hawl i wrthod elfennau o waith, ond ddim ond ar ôl cynnal asesiad llawn i sicrhau diogelwch y tenantiaid.  Ni chaniateid i denantiaid wrthod gwaith ar foeleri neu elfennau nwy. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth Asedau Tai i barhau i reoli protocol Diffyg Atgyweirio Tai ar ran y Cyngor, gan sicrhau bod y rhwymedigaethau a roddir ar y Cyngor yn cael eu bodloni.

45.

Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at flaenoriaeth Tai Cymdeithasol a’r sylw yngl?n â sicrhau bod y cynnydd yng nghapasiti’r stoc yn bodloni’r anghenion a’r galw a nodwyd erbyn mis Mawrth 2028.  Gofynnodd a oedd hyn yn realistig.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai uchelgais oedd hyn, ac os gellid cynyddu capasiti’r stoc ymhellach byddai hynny’n cynorthwyo gyda mynd i’r afael â’r materion a amlinellwyd i’r Pwyllgor mewn adroddiadau blaenorol.  Yr oedd y materion y dylid bod yn ymwybodol ohonynt yn ymwneud ag argaeledd tir a gofynion newydd yn ymwneud â ffosffad, ond yr oedd y Cyngor yn canolbwyntio ac yn benderfynol o gyrraedd y targed.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson sut fyddai’r gofynion newydd yn ymwneud â ffosffad yn effeithio ar y stoc dai bresennol.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd hyn yn ôl-weithredol, felly nid oedd yn berthnasol i’r stoc bresennol.  Dywedodd fod sail y gofynion newydd yn gywir a phriodol, a bod pawb eisiau afonydd anllygredig gydag ansawdd d?r o lefel uchel, ond byddai anawsterau yn ymwneud ag adeiladu os na ystyriwyd ffosffad fel rhan o’r atebion adeiladu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a ellid darparu unrhyw ddata sylfaenol i ddangos bod prosiectau’n symud yn y cyfeiriad cywir. Eglurodd y Prif Weithredwr fod cynllun ar waith i fapio’r gwaith o ddarparu prosiectau, a byddai’n anfon y sylw hwn ymlaen i sicrhau bod yr Aelodau’n cael adroddiadau effeithiol yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu prosiectau yn y dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd David Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i Flaenoriaethau, Is-flaenoriaethau ac amcanion Lles Cynllun y Cyngor 2023-28.

46.

Aelodau'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.