Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

22.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

23.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Ionawr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at dudalen 8 y cofnodion gan ddweud nad oedd ei gwestiwn am nifer y tenantiaid oedd wedi cael eu troi allan ac yna eu hail-gartrefu ac a oeddent wedi mynd i ôl-ddyledion, wedi cael ei gynnwys yn y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfod. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’n rhoi sylw i hyn ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dale Selvester at ei gwestiwn am y cofnodion gan ddweud ei fod wedi gofyn am grynodeb am ôl-ddyledion biliau d?r ac ôl-ddyledion rhent. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’n rhoi sylw i hyn ar ôl y cyfarfod.

 

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Bernie Attridge.      

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

24.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. Wrth gyfeirio at y camau gweithredu yn codi o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd fod y swyddogion wedi cadarnhau y byddai’r camau gweithredu’n ymwneud â’r adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les yn cael ei gynnwys fel gwybodaeth ychwanegol yn adroddiadau’r dyfodol. Byddai’r cam gweithredu’n ymwneud ag anfon llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei gwblhau’n nes ymlaen yr wythnos hon.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at y camau canlynol yn codi o’r cyfarfod diwethaf a gofynnodd am i’r wybodaeth hon gael ei dosbarthu cyn y diweddariad nesaf ar yr adroddiad Incwm Rhent Tai a Diwygio'r Gyfundrefn Les mewn chwe mis:-

 

  • Gwybodaeth am nifer yr achosion sy’n aros i fynd yn ôl i’r llys i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod; a
  • Gwybodaeth am faint o’r 454 o aelwydydd a gafodd ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai oherwydd y Dreth Ystafelloedd Gwely ac a oedd mewn ôl-ddyledion i gael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

25.

Grant Cymorth Tai pdf icon PDF 158 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Grant Cymorth Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r drefn Grant Cymorth Tai a manylion y Cynllun Cyflawni Cymorth Tai, oedd yn ofyniad derbyn y Grant Cymorth Tai refeniw gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd yn darparu gwasanaethau cymorth yn ymwneud â thai i bobl dros 16 oed. Mae’n rhaglen ymyrraeth gynnar sy’n cefnogi gweithgarwch i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, eu helpu i gael cartref sefydlog neu helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ganfod a chadw llety.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal gyflwyniad manwl ar yr adroddiad gan ddweud, wedi rhagweld i ddechrau y byddai gostyngiad yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y byddai £40m pellach yn cael ei roi yn y dyfarniad cenedlaethol ar gyfer y Grant Cymorth Tai. Y disgwyl oedd y byddai’r cyllid ychwanegol yn darparu llwyfan i drawsnewid gwasanaethau ac adeiladu ar yr arfer positif a ddatblygwyd yn ystod yr ymateb i Covid. Roedd y cyllid yn caniatáu i’r Cyngor ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai a digartrefedd ar ôl y pandemig a’r argyfwng costau byw cyfredol a dylai gyd-fynd â’r newid mewn darparu gwasanaethau tuag at Ailgartrefu Cyflym.

 

Cafodd diweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei ddarparu i’r Pwyllgor:

 

  • Gwasanaethau Cyfredol Grant Cymorth Tai
  • Mynediad at Wasanaethau Cymorth Tai
  • Datblygu’r Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai
  • Blaenoriaethau Cyflawni Lleol y Grant Cymorth Tai
  • Gwariant yn erbyn y Grant Cymorth Tai
  • Comisiynu ac Adolygu Gwasanaethau
  • Trefniadau Gweithio Rhanbarthol
  • Ymgyrch Recriwtio drwy Gymru ar gyfer y Sector Cyfan

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge nifer o gwestiynau fel y nodir isod:-

 

  • A ellid darparu gwybodaeth am y rhaniad rhwng gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint a gwasanaethau a gomisiynir o ran y gwariant ar gyfer y Grant Cymorth Tai a pha lefel o reoli ac atebolrwydd oedd yn ei le pan oedd arian yn cael ei wario’n allanol; 
  • Gofynnwyd am sicrwydd nad oedd y Grant Cymorth Tai yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gadw rhestrau aros i lawr am eiddo’r Cyngor;
  • Beth oedd y llwyth achosion cyfartalog fesul pob aelod o staff;
  • Pryderon bod y Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yng Nghei Connah ar agor am lai o ddyddiau ac effaith hyn ar allu preswylwyr i gyfarfod wyneb yn wyneb â swyddogion tai i drafod problemau;
  • Wrth ddatblygu Cynllun Cyflawni’r Grant Cymorth Tai, pa weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd;
  • Wrth agor y Sector Rhentu Preifat, faint o eiddo preifat oedd ar gael ddim ond i Gyngor Sir y Fflint;
  • O ran y tanwariant yn y Grant Cymorth Tai, a gafodd unrhyw brosiectau eraill eu hystyried i sicrhau bod yr holl gyllid yn cael ei ddefnyddio;
  • A ellid rhoi gwybodaeth am ddyfodol safle Plas Bellin, gan fod sïon pryderus ar y cyfryngau cymdeithasol am ei ddyfodol;
  • Pam bod eiddo gwag yn cael eu dal yn ôl o ystyried bod nifer fawr ohonynt a nifer y bobl sydd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai - ULlMaD) pdf icon PDF 336 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gofrestr Tai Cyffredin a chanlyniad yr arolwg boddhad cwsmer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau adroddiad ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH), sef partneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, yn gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

 

Roedd y Cyngor yn rheoli’r gofrestr tai ar ran Partneriaid Tai Cymdeithasol Sir y Fflint (Cyngor Sir y Fflint, Tai Clwyd Alyn, Wales and West Housing, Gr?p Cynefin a Chymdeithas Tai Adra) ac roedd un Gofrestr Tai Cyffredin yn rhoi rhestr o’r holl ymgeiswyr cymwys am dai cymdeithasol.  

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal fod nifer yr ymgeiswyr a dderbyniwyd ar y Gofrestr Tai Cyffredin wedi tyfu’n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Roedd hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y baich gweinyddol a’r gwaith o reoli’r gofrestr ac roedd hefyd yn arwain at amseroedd aros hirach am y nifer cyfyngedig o dai cymdeithasol oedd ar gael bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd mewn anghenion am dai a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol oedd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un gyfradd â lefelau’r anghenion am dai oedd yn amlwg yn y gymuned. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bryder am y diffyg tai cymdeithasol oedd ar gael a soniodd am adroddiad diweddar a gyflwynwyd i’r Pwyllgor am nifer gyfredol y tai gwag. Gofynnodd a oedd nifer y tai gwag yn Sir y Fflint yn cymharu â siroedd cyfagos.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau fod gan siroedd cyfagos lefelau tebyg o dai gwag ac wrth ymateb i gwestiynau pellach, dywedodd fod 259 o dai gwag yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am bryderon blaenorol am gwtogi oriau agor canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a mynegodd bryder bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud heb ystyried yr effaith ar breswylwyr sydd angen siarad â swyddogion am broblemau tai, yn enwedig y rhai nad oedd yn gallu cael gwybodaeth yn electronig.   Mynegodd bryder hefyd am y penderfyniad blaenorol i beidio â rhoi enwau tenantiaid i Aelodau pan fyddant yn symud i eiddo’r Cyngor ar eu wardiau a gofynnodd am i hyn gael ei ailystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester fod Aelodau yn cael enwau preswylwyr ar y gofrestr etholiadol, ac er bod hyn yn cael ei ddarparu dan ddeddfwriaeth wahanol, cytunodd â’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Attridge nad oedd Aelodau lleol yn cael enwau tenantiaid. Soniodd am y lefelau bodlonrwydd gwael iawn/gwael a amlinellwyd yn yr adroddiad gan ddweud bod hyn yn bryderus a bod angen darparu mwy o wybodaeth ar y rhesymau am hyn. Roedd yn croesawu’r cyfle i ymgeiswyr ddiweddaru eu hardal ymgeisio a soniodd am fatrics blaenorol oedd yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu hardal ymgeisio.  Soniodd hefyd am y cyfrifydd rhestr aros a mynegodd bryder nad oedd yn bosibl rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am ba mor hir y byddent yn aros ac nid oedd eisiau codi eu gobeithion.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal bod  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Safleoedd Garejis a Safleoedd Lleiniau'r Cyfrif Refeniw Tai pdf icon PDF 113 KB

Pwpras:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith sy’n cael ei wneud ar safleoedd Garej ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen dymchwel garejis y Cyngor ynghyd â gwybodaeth am sut oedd y Cyngor yn asesu’r tir ar gyfer defnydd i’r dyfodol.  

 

Fel rhan o waith buddsoddi parhaus y Cyngor tuag at gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd y safleoedd garejis ar hyd a lled y Sir wedi cael eu hasesu o ran eu cyflwr, gofynion buddsoddi a chreu refeniw/incwm. Roedd y Cyngor wedi datblygu matrics sgorio fel bod pob safle yn cael eu hasesu’n wrthrychol. Cafodd pob un o’r categorïau, fel y dangosir yn yr adroddiad, eu sgorio a’u hail sgorio yn ystod unrhyw arolwg/asesiad newydd ac roedd y cyfanswm yn helpu i flaenoriaethu’r rhaglen ddymchwel.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Asedau fod cael gwared ar dir yn cael ei ystyried pan welwyd nad oedd yn addas yn dilyn arolwg/asesiad ac wedi ystyried pob opsiwn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at adroddiad a gomisiynwyd yn flaenorol ar safleoedd garejis a gofynnodd a oedd hwnnw wedi cael ei ystyried fel rhan o’r sail ar gyfer yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Soniodd hefyd am nifer y garejis nad oedd modd eu defnyddio ar draws y Sir a gofynnodd a oedd opsiwn i symud yn gyflym ar safleoedd y gellid eu datblygu er mwyn creu refeniw ychwanegol i’r Cyngor a helpu â’r diffyg cyflenwad tai yn y Sir. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Asedau fod yr adroddiad blaenorol wedi ffurfio sail ar gyfer y matrics ac wedi cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu garejis i gael eu dymchwel yn gyntaf ynghyd â gweithio gyda’r tîm Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i ddynodi safleoedd ar gyfer datblygiadau newydd. Mewn ymgynghoriad ag Aelodau lleol a Chadeirydd y Pwyllgor, roedd safleoedd wedi eu dynodi ac yn cael eu datblygu gan y tîm SHARP. 

 

Roedd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yn croesawu'r adroddiad a dywedodd ei fod wedi ymweld â nifer o safleoedd gyda’r Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol i ddynodi safleoedd cyn ymgynghori ag Aelodau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans ei fod ef a’r Cynghorydd Ron Davies wedi cyfarfod â phreswylwyr Poplar Avenue a Dodd’s Court yn Shotton Uchaf yn ddiweddar ynghylch problemau parcio.  Soniodd am y safle garej ym Melrose Avenue oedd wedi cael ei ddymchwel yn ddiweddar a gofynnodd, pan fydd cynlluniau ar gyfer y safle hwn yn cael eu hystyried, a ellid sicrhau bod digon o fannau parcio ar gael i sicrhau nad oes effaith bellach ar strydoedd cyfagos. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai, cyn cael gwared ar unrhyw dir a chyn unrhyw waith adeiladu newydd, bod angen ystyried yr effaith ar y gymuned gyfan, parcio a thagfeydd.  Roedd y Rhaglen Waith Amgylcheddol yn ymdrin â pharcio yn y gymuned. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

28.

Adroddiad Adolygiad o Dai Gwarchod

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn dilyn yr adolygiad o Dai Gwarchod.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar adolygiad tai gwarchod y Cyngor, y fethodoleg arfaethedig i’w defnyddio i ddynodi asedau i gael eu cynnwys yn yr adolygiad a’r gwerthusiad dewisiadau cysylltiedig o’r asedau hyn.   

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge am gyfathrebu, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod yr adroddiad yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar y fethodoleg arfaethedig, ac yn dilyn hyn, cam nesaf y broses fyddai ymgysylltu/ymgynghori ag Aelodau a thenantiaid. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at adroddiadau Craffu blaenorol ac ychwanegodd fod y pandemig wedi arafu cynnydd y prosiect ond ei fod yn dal yn ei gamau cynnar iawn.   

 

Awgrymodd y Cynghorydd Attridge y dylid sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen i ystyried sut fyddai’r prosiect yn symud ymlaen. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor a dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad i amlinellu cylch gorchwyl y Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod yr adroddiad y cael ei nodi a bod Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i ystyried camau nesaf yr Adolygiad Tai Gwarchod.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Linda Thew.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i ystyried camau nesaf yr Adolygiad Tai Gwarchod.

29.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.