Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

15.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Tenant Cyngor.

16.

Cofnodion pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

17.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. O gyfeirio at y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd fod yr holl gamau gweithredu wedi’u cyflawni ac y byddai’r argymhellion gan y Pwyllgor ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau’r nifer o eiddo gwag yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Ionawr 2022.  

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

18.

Incwm Rhent Tai ac Ymateb Lles pdf icon PDF 177 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ddiweddariad ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a’r lefelau presennol o ôl-ddyledion rhent tai yn 2022/23.   Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar breswylwyr a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi aelwydydd trwy’r argyfwng costau byw.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau ddiweddariad manwl ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran diwygio lles a lliniaru’r argyfwng costau byw, gan amlinellu ystod o fesurau a ddatblygwyd i helpu’r rhai yr effeithir gan gostau byw a’r cymorth a ddarperir i breswylwyr er mwyn helpu lliniaru’r effeithiau negyddol.   Rhoddwyd diweddariad pellach ar yr holl feysydd canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad:-

 

  • Cymhorthdal Ystafell Sbâr
  • Uchafswm Budd-daliadau
  • Cynllun Cymorth Costau Byw
  • Gofalwyr Di-dâl
  • Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
  • Cymorth Lles
  • Taliadau Dewisol Tai (DHP)

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael ddiweddariad manwl ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran ôl-ddyledion rhent, gan ddweud bod casglu rhent yn parhau’n heriol gyda’r cynnydd mewn costau byw a’r effaith ar allu rhai tenantiaid i dalu.   Roedd llwyth gwaith y gwasanaeth Incwm Rhent wedi cynyddu, gyda chynnydd o 1.2% mewn achosion lle roedd angen cysylltu â thenantiaid, ac roedd y gwasanaeth yn parhau i gyfeirio tenantiaid trwy atgyfeiriadau at dimau arbenigol ar draws y Cyngor, gan gynnwys timau Cefnogi Pobl ac Ymateb Lles.  

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael sylw at y lefel bresennol o ôl-ddyledion rhent a’r nifer o achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd yr her o gasglu rhent gan y tenantiaid sy’n derbyn credyd cynhwysol yn parhau’n risg i’r Cyngor, gyda mwy o denantiaid yn dechrau derbyn credyd cynhwysol a’r oedi a gafwyd wrth gyflwyno trefniant rheoli taliadau i rai tenantiaid, lle mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu taliadau rhent fel ffynhonnell. 

 

Fel rhan o ymateb parhaus y Cyngor i liniaru’r effeithiau ar denantiaid a sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor y Cyfrif Refeniw Tai, yn 2021 cynhaliodd Archwilio Cymru adolygiad cynhwysfawr er mwyn asesu effeithlonrwydd y Cyngor o ran cefnogi tenantiaid. Roedd adolygiad Archwilio Cymru yn cydnabod y mesurau rhagweithiol mae’r Cyngor eisoes wedi eu cymryd i gefnogi tenantiaid a sefydlogi casgliadau rhent yn ystod cyfnod o newid nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn enwedig wrth gyflwyno’r Credyd Cynhwysol ac effeithiau diweddar y pandemig. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd mai dim ond 1 achos o droi allan a gafwyd, ac roedd o’r farn fod hyn wedi osgoi rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth digartrefedd. Cyfeiriodd at y tabl yn dangos band yr ôl-ddyledion ar gyfer 2022/23, gan wneud sylwadau ar y gwahanol lefelau o rent a dalwyd gan denantiaid, a gofynnodd a oedd modd nodi’r lefelau rhent o fewn y tabl mewn adroddiadau yn y dyfodol. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i edrych a fyddai modd darparu hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.  

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson i  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd. Cafodd y dangosyddion perfformiad sy’n dangos statws COG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor, eu nodi yn yr adroddiad.      

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar y nifer o addasiadau mawr gorfodol ar gyfer pobl anabl a’r nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i’w cwblhau a gofynnodd am eglurhad am yr oedi â’r ceisiadau cynllunio am waith mawr. Gofynnodd hefyd a oedd oedi gydag ymweliadau Therapyddion Galwedigaethol. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau bod oedi â chynllunio oherwydd yr ôl-groniad a chymhlethdodau gyda rhai addasiadau a oedd angen eu gwneud ar gyfer pobl anabl. Eglurodd hefyd fod fframwaith newydd ar y gweill, a fyddai’n galluogi’r Cyngor i ddefnyddio cyflenwyr lleol a chynyddu’r nifer o ddyfynbrisiau. O ran Therapyddion Galwedigaethol, eglurodd bod nifer o swyddi gwag sydd angen eu llenwi o fewn y gwasanaeth a’i fod yn faes anodd recriwtio ar ei gyfer ar hyn o bryd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu â Phrifysgolion er mwyn gweld a fyddent yn gallu cynorthwyo â recriwtio.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23; 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a chefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

20.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.