Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Medi a 12 Hydref 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Cynghorydd David Evans.      

 

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Cynghorydd Linda Thew.        

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Medi ac 12 Hydref a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

3.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.

 

Cyfeirioddyr Hwylusydd at y nifer o eitemau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 14 Rhagfyr ac awgrymodd ei bod yn trafod gyda'r Cadeirydd a Phrif Swyddog ar ôl y cyfarfod i symud rhai eitemau i gyfarfodydd eraill er mwyn galluogi trafodaeth lawn ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) ac adroddiad Gosod y Gyllideb 2023-24 (Cam 2).   Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.

 

Fe amlinellodd yr Hwylusydd y newidiadau canlynol oedd wedi cael eu gwneud i Raglen Gwaith i'r Dyfodol ers y cyfarfod diwethaf:-

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad o Lety Dros Dro - mae'r adroddiad yma wedi cael ei symud i fis Ebrill 2023 er mwyn i fersiwn derfynol y Cynllun Ailgartrefu Cyflym gael ei gyflwyno;

·         BodlonrwyddCwsmeriaid y Gwasanaeth Cofrestr Tai - bydd y wybodaeth yma'n cael ei chynnwys yn rhan o adroddiad y Gofrestr Tai sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Chwefror 2023; ac

·         Adolygiad Tai Gwarchod - bydd yr adroddiad yma bellach yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror 2023.

 

O ran y camau gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd  bod ymweliad safle i weld yr eiddo gwag wedi cael ei drefnu ar gyfer 9 Rhagfyr 2022.  Bydd gwybodaeth ychwanegol am yr ymweliad safle yn cael ei anfon at Aelodau'r Pwyllgor maes o law.  Mewn cysylltiad â'r camau gweithredu sy'n ymwneud ag adroddiad am Dlodi yn cael ei ddwyn ymlaen ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ddiweddar am yr argyfwng costau byw ac fe fyddai hi'n rhannu hyn gydag Aelodau'r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Byddai perfformiad ar dlodi'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022 hefyd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge a oedd modd darparu nodyn briffio i bob Aelod o'r Cyngor yn nodi sut mae'r Cyngor yn delio ag eiddo h?n oedd â lleithder a llwydni. Gofynnodd hefyd a oedd modd darparu gwybodaeth am system awyru araf yr oedd o'n credu y dylid ei ddarparu tra'n gosod ffenestri newydd, yn rhan o'r nodyn briffio. Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod gan y Pwyllgor Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol prysur, ac felly fe fyddai'n gwerthfawrogi nodyn briffio i roi sicrwydd i Aelodau os nad oedd modd llunio adroddiad o fewn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.  Awgrymodd y Cadeirydd bod adroddiad ar y mater yma'n cael ei gynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer mis Ionawr 2023.

 

Fe awgrymodd yr Hwylusydd bod nodyn briffio yn cael ei ddarparu i bob Aelod ar ôl y cyfarfod a bod penderfyniad pa unai ddylai'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor gael ei wneud ar ddyddiad arall.  

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y'i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a'u heilio gan y Cynghorydd Rob  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae landlordiaid yng Nghymru yn gosod eu heiddo, a fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr - Rheoli Tai yr adroddiad i roi trosolwg o’r Ddeddf Rhenti Cartrefi newydd a’r newidiadau a fydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2022.   Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau.  

 

            Fe eglurodd yr Uwch-reolwr pan fydd y Ddeddf wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn, fe fyddai’n creu system cwbl newydd i denantiaethau preswyl yng Nghymru.   Y bwriad oedd disodli’r trefniadau tenantiaeth fyrddaliadol sicr a threfniadau deiliadaethau amaethyddol sicr sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988. 

 

            Wrth dynnu sylw at y newidiadau sylfaenol yn y Ddeddf, dywedodd yr Uwch-reolwr y bydd tenantiaid a thrwyddedai yn dod yn ‘ddeiliaid contract’ ac y byddai cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gyda ‘chontractau meddiannaeth’ o dan y gyfraith newydd. Byddai’n rhaid i Gontractau Meddiannaeth gael eu nodi mewn ‘datganiad ysgrifenedig’ a’i bwrpas oedd cadarnhau telerau’r contract.   Fe fyddai yna ddau fath o gontract fel a ganlyn:-

 

1.    Contract Diogel - Y bydd Sir y Fflint yn ei fabwysiadu fel landlord.

2.    Contract Safonol - A fydd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf yn y sector preifat.

 

Fe fydd gweithredu’r Ddeddf newydd yn Sir y Fflint o 1 Rhagfyr yn golygu y bydd deiliaid contract newydd yn derbyn contract newydd, a bydd unrhyw ddeiliaid contract presennol yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori er mwyn eu hannog i drosi o’u tenantiaethau presennol i gontract er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd.   Bydd cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal o fis Chwefror 2023 er mwyn egluro’r Ddeddf newydd i denantiaid.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryder am rôl y Pwyllgor Craffu wrth ystyried yr adroddiad a rhoi adborth cyn cyfarfod y Cabinet yr wythnos ganlynol.  Nid oedd yn teimlo fod yna unrhyw gyfle i ddiwygio’r newidiadau sydd wedi’u cynnig yn y Ddeddf gan y byddai’n dod yn gyfraith ar 1 Rhagfyr.  Dywedodd na allai ddod o hyd i wybodaeth gefndir am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a gofynnodd pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor drwy Lywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau arfaethedig, ac a oedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r tenantiaid cyn i’r newidiadau ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Mynegodd bryderon hefyd am gael gwared ar denantiaethau rhagarweiniol a oedd yn eu lle gan y Cyngor i gael gwared ar denantiaid gwael.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr nad oedd hi’n ymwybodol o’r broses ymgynghori ond fe eglurodd fod y Ddeddf wedi dod yn gyfraith yn 2016 a bod LlC wedi oedi ei gyflwyno a gweithredu’r gyfraith tan 1 Rhagfyr 2022.  Fe eglurodd ei fod yn gyfraith roedd yn rhaid i’r Cyngor ei weithredu ac y byddai’r ymgynghoriad gyda phreswylwyr a thenantiaid yn sicrhau eu bod yn deall beth roedd y newidiadau yn eu golygu. Roedd yna newidiadau cadarnhaol o fewn y Ddeddf oedd yn ymwneud â rhoi mwy o hawliau i denantiaid a dwyn landlordiaid i gyfrif os nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

5.

Contract Storfeydd a Reolir

Pwrpas:        Ystyried y Contract Storfeydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes y cynigion ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig yn y dyfodol drwy reoli storfeydd drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA.   Mae’r fframwaith yn cynnig cyfleoedd ledled Cymru i gydweithio ag awdurdodau a darparwyr tai eraill, a fyddai’n darparu arbedion posib’ ar ddeunyddiau trwy archebion mwy.

 

Byddai’r Cyngor yn parhau i fonitro perfformiad y contract drwy dderbyn dangosyddion perfformiad allweddol.  Byddai hyn yn galluogi i unrhyw bryderon o ran perfformiad gael eu nodi’n gynnar ac mae’n cyflwyno cyfleoedd am fesurau gwelliant parhaus i gael eu datblygu.

 

Ymatebodd y Rheolwr Busnes i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â safleoedd eraill sydd ar gael a’r fantais i’r gymuned.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi dyfarniad contract rheoli storfeydd, fel yr a amlinellwyd yn yr adroddiad, drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan ADRA; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r dyfarniad ar gyfer contract pedair blynedd gyda’r opsiwn o’i ymestyn am bedair blynedd arall yn amodol ar berfformiad.

6.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.