Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Helen Brown yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cyngor wedi penderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol y byddai’r Gr?p Annibynnol yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Cafodd y Pwyllgor wybod mai’r Cynghorydd Helen Brown oedd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Helen Brown yn Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Dale Selvester yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Linda Thew. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
Enwebwyd y Cynghorydd Ray Hughes yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Tina Claydon. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.
Cynhaliwyd pleidlais, a derbyniodd y Cynghorwyr Hughes a Selvester 5 pleidlais yr un. Gofynnwyd i’r Cadeirydd roi pleidlais fwrw, a chadarnhaodd ei phleidlais i’r Cynghorydd Selvester.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Dale Selvester yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mawrth a 19 Ebrill 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 8 Mawrth 2023
Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at baragraff 3 ar dudalen 7 y cofnodion, ac awgrymodd y dylid cynnwys y gair ‘asked’ (cofnodion Saesneg).
19 Ebrill 2023
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Rush ei fod wedi ymddiheuro na allai ddod i’r cyfarfod, a gofynnodd am gael cynnwys hynny.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew at yr ail baragraff ar dudalen 15 y cofnodion, ac awgrymodd fod y gair ‘prions’ yn cael ei newid i ‘prisons’.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew hefyd at y pedwerydd paragraff ar dudalen 16 y cofnodion, ac awgrymodd fod y gair ‘in-hose’ yn cael ei newid i ‘in-house’.
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion yn rhai cywir gan y Cynghorydd Thew ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023 ac 19 Ebrill 2023 fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol ar gyfer ei hystyried, gan ychwanegu nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a ddangosir ar gyfer y cyfarfodydd i ddod ym mis Mehefin a Gorffennaf 2023.
Fe wnaeth yr Hwylusydd hefyd nodi statws y camau gweithredu oedd yn deillio o’r cyfarfodydd blaenorol, a oedd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Rheoli Cartrefi Gwag PDF 117 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yr wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Cartrefi Gwag fel y dangosir ar y rhaglen. Yr oedd y diweddariad yn darparu ffigyrau allweddol am y nifer o eiddo gwag a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag. Byddai’r Pwyllgor yn parhau i dderbyn yr wybodaeth hon yn fisol, a bydd adroddiad ffurfiol ar unedau gweigion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi.
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
Amlinellodd y nifer o unedau gweigion newydd a’r rheiny a oedd wedi eu cwblhau. O fis Mawrth, derbyniwyd 26 eiddo gwag, a chwblhawyd 23 eiddo, a oedd wedi eu cwblhau cyn penodi contractwyr newydd i’r gwasanaeth. O fis Ebrill, derbyniwyd 24 eiddo gwag a chwblhawyd 18. Cafwyd oedi o ganlyniad i absenoldebau ac oedi wrth ardystio. Cwblhawyd mwy o unedau gweigion, ond oherwydd oedi wrth ardystio nid oeddynt wedi eu cymeradwyo eto.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo.
Mewn perthynas â’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-
· Yr oedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â’r holl gontractwyr a oedd newydd eu comisiynu; · Cynhaliwyd 6 o’r 6 chyfarfod cyn-gontract gyda’r contractwyr newydd; · Yr oedd y gwaith o arwyddo contractwyr bron wedi ei gwblhau; · Dechreuwyd arolwg o gyflwr y stoc ym mis Hydref 2022; · Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i gynnal arolygon o gyflwr y stoc; · Yr oedd y Cydlynydd Hyfforddiant bellach yn ei swydd; · Yr oedd y Cydlynydd yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor gan y Rheolwr Gwasanaeth at yr wybodaeth am y gyllideb a’r 3 phrif reswm dros derfynu tenantiaeth – gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am hyn mewn cyfarfodydd blaenorol.
Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am nifer yr eiddo gwag, a oedd wedi cynyddu ym mis Ebrill o’i gymharu â mis Mawrth, a gofynnodd a fyddai’r Pwyllgor yn gweld y ffigwr hwn yn gostwng yn y misoedd i ddod. Dywedodd fod angen dod â mwy o eiddo gwag i gael ei ddefnyddio eto er mwyn gallu ymdopi â’r sefyllfa bresennol. Gofynnodd hefyd am i’r wybodaeth ganlynol gael ei darparu mewn diweddariadau briffio yn y dyfodol:-
Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw am y cynnydd mewn eiddo gwag, ac atgoffodd y Pwyllgor mai newydd eu penodi oedd y contractwyr newydd a gomisiynwyd. Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol na ellid rhuthro’r broses ac y gallai nifer yr eiddo gwag gynyddu cyn dechrau gostwng yn gyson. Parthed y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Aelodau'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |