Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

12.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith gyfredol i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu sy’n weddill. 

Yn dilyn cwestiynau ynghylch yr adolygiad ar safle’r garej, cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru ar yr adolygiad ar safle’r garej ynghyd â diweddariad ar y matrics parcio ceir yn cael ei ychwanegu ar y Rhaglen Waith.

Cytunwyd hefyd bod copi o ganlyniad yr adolygiad ar safle’r garej yn ôl ward yn cael ei ddosbarthu at holl Aelodau’r Cyngor.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

PENDERFYNWYD:

(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

13.

Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar yr Adolygiad o Dai

Gwarchod

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) adroddiadwnaeth ddarparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad Tai Gwarchod.

Hefyd cyflwynwyd y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu i’r Pwyllgor.

Awgrymwyd fod yr adroddiadau diweddaru cyfnodol ar yr Adolygiad Tai Gwarchod yn cael eu hychwanegu ar y Rhaglen Waith.

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd yr Adolygiad Tai Gwarchod.

 

14.

Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid pdf icon PDF 167 KB

Pwrpas:        I ystyried y Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) y Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid a Cynllun Gweithredu Ymgysylltu â Thenantiaid sy’n ymrwymo  i ymgysylltu â thenantiaid a thynnu sylw at y gwaith sydd angen ei wneud i wella’r sefyllfa bresennol.

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid.

 

15.

Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

PENDERFYNWYD:

Nodi’r diweddariad.

 

16.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.